|
|
Llais Keith
Ers i mi ysgrifennu ddiwethaf, mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi nifer o newidiadau, gan gynnwys ail agor canolfannau cymunedol o 20 Gorffennaf. Mae Datganiad ysgrifenedig Prif Weinidog Cymru sy’n mynd gyda’r cyhoeddiad hwn hefyd yn cyfeirio at rôl hanfodol gwasanaethau gwaith ieuenctid ar draws y sectorau gwirfoddol ac awdurdodau lleol, ac yn nodi fod canllawiau ar gyfer y sector i ddod. Dwi’n hapus i’ch diweddaru ein bod wedi cynnal y cyfarfod cyntaf o’r gweithgor sydd wedi cael ei alw i ddatblygu’r canllawiau hyn fydd yn cynorthwyo’r Sector Gwaith Ieuenctid i gynllunio er mwyn cynyddu gwasanaethau yn raddol.
|
Un o rannau mwyaf buddiol y dydd oedd cyflwyniad gan Gyd-Gadeirydd Cell Gynghori Dechnegol Covid-19, Fliss Bennée. Roedd rhai o’i negeseuon yn sobri rhywun o ddifrif, dydyn ni ddim allan o berygl eto yn bendant. Er hynny roedd hi’n galonogol clywed am sut mae’r cyfyngiadau symud wedi cael effaith sylweddol ar leihau marwolaethau, a gwybod bod yr aberthau sydd wedi’u gwneud gan bawb yng Nghymru wedi achub miloedd o fywydau. Mae gennym ni rôl bwysig fel sector yma, i helpu’n pobl ifanc (a’n cydweithwyr) i ddeall pwysigrwydd y dewisiadau a wnânt i ddiogelu eu hunain a diogelu pobl eraill, a byddwn yn cyfeirio at hyn yn ein canllawiau.
Mae’r rhifyn diweddaraf hwn o’r bwletin yn canolbwyntio ar Sgiliau a Chyflogadwyedd. Effaith economaidd y pandemig yw un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu ein pobl ifanc ar hyn o bryd yn bendant, cywasgodd economi Prydain 2.2% yn nhri mis cyntaf 2020 – ei ddirywiad mwyaf mewn dros 40 mlynedd. Mae yna dystiolaeth mai gweithwyr ifanc sy’n fwyaf tebygol o golli gwaith yn sgil ffyrlo, colledion swyddi a lleihad mewn oriau. Mae Llywodraeth Cymru’n cymryd camau i gefnogi pobl i gyflogaeth neu hunangyflogaeth, gan sicrhau dilyniant a datblygiad dysgwyr yn y farchnad lafur gydol y pandemig hwn (ac mae llawer o wybodaeth am hyn yn 'Ydych chi wedi clywed?').
Serch hynny, mae pobl ifanc yn teimlo’n bryderus ac anfrwdfrydig. Bydd pryder em eu dyfodol yn cael ei ddwysáu gan effaith y cyfyngiadau symud ar iechyd meddwl a llesiant cyffredinol pobl ifanc.
Rwy’n cydnabod na all gwaith ieuenctid fod yn ateb i’r holl broblemau hyn. Serch hynny, rydym yn dal i fod yno i bobl ifanc, ac mae gennym gyfraniad pwysig i’w wneud. Mae gweithwyr ieuenctid yng Nghymru eisoes yn gwneud cyfraniad allweddol fel gweithwyr arweiniol, yn cefnogi pobl ifanc sy’n wynebu llu o rwystrau i gael mynediad i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, a hynny drwy’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid. Mae gwaith ieuenctid ehangach hefyd yn cyfrannu at yr agenda hwn. Rydym yn cefnogi llesiant ac iechyd meddwl pobl ifanc, ni yw’r oedolyn dibynadwy y mae pobl ifanc yn ymddiried ynddo.
Yn olaf, yn y bwletin blaenorol soniais am brotestiadau Black Lives Matter a rôl Gwaith Ieuenctid i gynnal ymarfer anwahaniaethol. Gyda hyn mewn cof rwy’n falch o allu cyhoeddi bod Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST) wedi cytuno’n garedig i fod yn olygyddion gwadd i rifyn arbennig o’r Bwletin Gwaith Ieuenctid, a gyhoeddir yr wythnos nesaf. Fel sector rydym yn ymfalchïo yn ein hymarfer myfyriol a’n gallu i barhau i ddysgu a datblygu. Credaf fod gennym lawer iawn i ddysgu gan sefydliadau fel EYST ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddarllen eu rhifyn arbennig o’r bwletin.
Yn y cyfamser, cymerwch ofal, cadwch yn ddiogel.
Keith Towler
|
Caitlyn Morgan, 20 , Fochriw, Cwm Rhymni
“Helo, Caitlyn ydw i. Rwy’n 20 mlwydd oed ac yn byw yn Fochriw, pentref bychan yng Nghwm Rhymni. Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anodd i lawer o bobl ifanc fel fi, ond gyda chymorth gweithwyr ieuenctid rwyf wedi bod yn datblygu fy sgiliau a fy siawns o gael swydd gydol cyfnod y cyfyngiadau symud. Mae fy hyder yn tyfu bob dydd, ac rwy’n teimlo’n barod am unrhyw gyfle gwaith a ddaw.
Ar ôl i fy swydd haf ddod i ben ddiwedd mis Medi’r llynedd fe fues i’n ddi-waith am bum mis. Yna, cyflwynodd Lynsey, aelod o’r tîm Cymunedau am Waith, fi i Prince’s Trust Cymru. Roedd yr ymddiriedolaeth yn cynnal rhaglen manwerthu dros dair wythnos yng Nghaerdydd, gyda chyfleoedd am waith ar ddiwedd y rhaglen. Roedd Lynsey’n meddwl y bydden i’n addas ar gyfer y rhaglen felly penderfynais roi cynnig arni.
Ro’n i’n nerfus iawn ar y dechrau. Do’n i ddim wedi bod yng Nghaerdydd ar ben fy hun o’r blaen, felly cynigiodd Lynsey ddod gyda mi ar y diwrnod cyntaf, a thawelodd hynny fy nerfau o ran y teithio. Roedd cael Lynsey yno’n hwb mawr i fy hyder ar y Diwrnod Blasu, ac roedd tîm Prince’s Trust Cymru mor gefnogol wrth fy nerbyn ar y cwrs. Roedd y rhaglen fanwerthu’n dda iawn a dysgais lawer o sgiliau newydd mewn cyfnod byr. Ro’n i’n teimlo mod i’n ffynnu yn y byd manwerthu ac ar fin cael swydd, ond yn anffodus nid oedd y cwmni manwerthu yn gallu cyflogi unrhyw un ohonon ni gan i’r cyfyngiadau symud gael eu cyhoeddi ar ddiwrnod olaf y rhaglen.
Roedd hyn yn siomedig iawn wrth gwrs, ond cefais lawer o fudd o’r cwrs, Er fy mod i’n reit swil ar y diwrnod cyntaf, fe ddes i allan o fy nghragen dros y tair wythnos ac rwyf wedi sylweddoli fy mod am weithio gyda phobl yn fy swydd nesaf. Person pobl ydw i’n bendant!
Yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud rwyf wedi bod yn gwneud llawer o bethau i gadw fy meddwl yn actif. Yn ogystal â gofalu am fy mam-gu, rwyf wedi bod yn gwneud nifer o sesiynau cyflogadwyedd ar-lein gyda The Prince’s Trust, sydd wedi fy helpu i wella fy sgiliau ymhellach, yn cynnwys sgiliau ysgrifennu CV a sgiliau cyfweliad; rwy’n dysgu gwneud fy ngorau glas bob tro.
Er bod gweithwyr ieuenctid wedi helpu i godi fy hyder i uchelfannau newydd, byw mewn ardal wledig yw’r prif rwystr i gael gwaith o hyd. Nid yw trafnidiaeth gyhoeddus yn dod i’r pentref lle dw i’n byw yn rheolaidd (cyn y cyfyngiadau symud hyd yn oed) felly wrth i’r byd ddechrau ddychwelyd i sefyllfa normal, rwy’n gobeithio dod o hyd i swydd sy’n fy ngwneud i’n hapus, ac yn gymharol agos i adre!”
Rydym yn canolbwyntio ar thema benodol ym mhob bwletin. Yn y rhifyn hwn, mae’r ffocws ar werth Gwaith Ieuenctid i’r agenda gyflogadwyedd a sgiliau.
Mae Adran Prentisiaethau’r Urdd yn cynnig cyfleodd hyfforddiant i unigolion dros 16 mlwydd oed ar draws Cymru. Mae’r ddarpariaeth wedi tyfu’n fawr dros y ddwy flynedd diwethaf ac mae modd i’r adran darparu hyd at 150 prentisiaeth ar yr un pryd. Mae’r prentisiaethau yn cael eu cynnig o fewn y sectorau chwaraeon, gwaith ieuenctid, awyr agored a gofal plant.
Yn unol â datblygu sgiliau sbesiffig o fewn y sectorau uchod, mae hybu sgiliau Cymraeg yn y gweithle prentisiaid yr Urdd yn hanfodol. Mae cynlluniau gwaith yr adran yn rhoi cyfle i brentisiaid meithrin sgiliau ieithyddol newydd, boed y rheini ar lafar, yn ysgrifenedig, yn gyhoeddus neu hyd yn oed sgiliau cyfathrebu ar ein cyfryngau cymdeithasol. Mae’r adran yn gweld hi’n bwysig i helpu’r prentisiaid i drosglwyddo eu sgiliau ieithyddol o rheini sy’n addas i’r ysgol neu’r cartref i’r sgiliau sy’n hanfodol yn y gweithle, ac yn rhan allweddol o ddatblygiad y cynllun.
Yn ddiweddar, lansiwyd Hwb Sgiliau Hanfodol fel rhan o ddatblygiad Adran Prentisiaethau’r Urdd. Un o brif amcanion yr Hwb oedd i alluogi bod y prentisiaethau yn gwreiddio sgiliau cyfathrebu, rhifedd a llythrennedd digidol i mewn i’r prif rhaglenni dysgu. Mae hefyd yn rhoi cyfle i brentisiaid gyflawni cymwysterau Sgiliau Hanfodol drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae’r darpariaeth yma hefyd ar gael i sefydliadau neu unigolion allanol.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â phrentisiaethau’r Urdd, ewch i’r gwefan https://www.urdd.cymru/cy/prentisiaethau/ neu e-bostiwch prentisiaeth@urdd.org
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Hwb Sgiliau Hanfodol a’r ddarpariaeth posib, e-bostiwch catrindavis@urdd.org
Mae cyfnod y cyfyngiadau symud wedi bod yn amser anodd i lawer o bobl ifanc. Er bod rhai pethau’n dychwelyd i normal, mae’n debygol y bydd hi’n gyfnod anodd i bobl ifanc gyda diweithdra ar ei lefelau uchaf erioed ymysg pobl ifanc. Mae Clybiau Bechgyn a Merched Cymru’n gobeithio helpu pobl ifanc yn ôl i waith yn ystod y cyfnod anodd hwn drwy eu prosiect a ariennir gan y gronfa Cynhwysiant Gweithredol, ‘Subway to Success’. |
|
|
Mae’r prosiect, dan arweiniad gweithwyr ieuenctid, yn gweithio mewn partneriaeth â Subway UK i ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc 16-24 oed i ennill sgiliau a phrofiadau newydd ac, o ganlyniad, cael swydd wedi’i chefnogi mewn caffis Subway yng Nghymru. Er y bydd y prosiect yn ailddechrau dros y misoedd nesaf, mae Clybiau Bechgyn a Merched Cymru’n falch bod 18 o’r 32 cyfranogwr wedi gwneud pedwar mis o gyflogaeth â thâl gyda chymorth a 12 wedi’u cyflogi gan Subway ar ôl cwblhau’r prosiect. Mae’r prosiect wedi gallu cefnogi pobl ifanc gyda chostau trafnidiaeth ac mae’r cymorth wedi’i deilwra wedi’u galluogi i fod yn fwy hyderus wrth gyflawni eu cyfle cyflogaeth cyntaf. Meddai Simon Naylor, a gafodd swydd fel rhan o’r prosiect, “mae’r cyfle hwn wedi fy helpu i ddatblygu fel person a dysgu sgiliau newydd, ac rwyf mor falch o gael swydd o’r diwedd a’r cyfle i weithio yn Subway - diolch i weithwyr ieuenctid Clybiau Bechgyn a Merched Cymru am eu holl gymorth”.
Pan fydd y wlad yn dychwelyd i normal, bydd y sector gwaith ieuenctid yn brysur iawn yn cefnogi llesiant pobl ifanc (fel y dylai), ond bydd angen prosiectau cyflogadwyedd hefyd sydd wedi’u harwain gan weithwyr ieuenctid sy’n gallu helpu pobl ifanc i fanteisio o’r newydd ar gyfleoedd cyflogaeth. Os hoffai rhywun ragor o wybodaeth am brosiect ‘Subway to Success’ cysylltwch â Grant Poiner ar e-bost grant@bgc.wales |
|
|
|
|
Bydd cynnig Llywodraeth Cymru ar gyfer sgiliau a chyflogadwyedd yn hanfodol i gefnogi gweithwyr wedi’u dadleoli i ddychwelyd i’r gwaith, cefnogi cyflogwyr i recriwtio, ysgogi cyflogi pobl ifanc a phrentisiaid, ac annog pobl i sefydlu busnesau. Bydd cyfres o ddarpariaeth yn sail i ‘Ymrwymiad Covid’ Llywodraeth Cymru – i unrhyw un dros 16 oed yng Nghymru, i ddarparu cyngor a chymorth i ddod o hyd i waith, i benderfynu mynd yn hunangyflogedig neu ddod o hyd i le ar gwrs addysg neu hyfforddiant. I gael rhagor o wybodaeth, gweler: |
• Datganiad Ysgrifenedig: Cymru ein Dyfodol: ailgodi ar ôl COVID-19 • Cynllun cadernid ar gyfer y sector ôl-16: coronafeirws • Dolen i gofnod Cyfarfod Llawn Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ar 10 Mehefin 2020 • Dolen i wefan Llywodraeth Cymru – gwaith, sgiliau a chefnogaeth arianno
Byddwn yn taflu goleuni ar sefydliad gwaith ieuenctid gwahanol ym mhob rhifyn.
Nicola Murphy, Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid Rhondda Cynon Taf (YEPS)
Dywedwch wrthym am eich gwaith a’r heriau sy’n eich wynebu Mae Gwasanaeth Ieuenctid YEPS Rhondda Cynon Taf yn cefnogi pobl ifanc 11 i 25 oed i fod yn fwy gwydn i ymdrin â heriau’r presennol a’r dyfodol, gan gefnogi eu llesiant a’u hymgysylltiad cadarnhaol yn y cymunedau lle maent yn byw, a’u cyfraniad atynt. I wneud hyn, mae’r gwasanaeth yn gweithio’n agos ag ysgolion, cymunedau a gwasanaethau eraill i helpu i ddatrys unrhyw anawsterau sy’n effeithio ar ymgysylltiad person ifanc, gan weithio mewn partneriaeth fel y gall pobl ifanc elwa ar y cyfleoedd sydd ar gael yn lleol.
Mae cyflawni’r nod hwn yn bwysicach nag erioed, wrth i’n pobl ifanc a’n gweithwyr ieuenctid ymdrin ag effaith argyfwng Covid-19. Mae ein model cyflawni ‘rhithwir’ wedi’i ddatblygu a’i weithredu’n gyflym ac rydym wedi gweld y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid yn canolbwyntio ac yn addasu i gefnogi’r gwaith o ddarparu rhaglenni gwaith allweddol yr Awdurdod Lleol.
Sut ydych chi’n defnyddio’ch sgiliau yn ystod y pandemig?
Yn gyntaf, rydym wedi datblygu adran Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant ar ein gwefan pobl ifanc, wicid.tv sy’n cynnwys fideos cyfarwyddiadol ar ystod o bynciau fel ymgeisio am swydd, technegau STAR a chyfweliadau swydd rhithwir. Mae mwy o fideos yn cael eu hychwanegu bob wythnos. Mae’r adran hon hefyd yn cynnwys dolenni i brentisiaethau sydd ar gael yn Rhondda Cynon Taf, cymorth Gyrfa Cymru, gwybodaeth am ddiwrnodau agored rhithwir gan golegau a manylion cyswllt ar gyfer cymorth Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant mewnol - i gyd mewn un lle hawdd cael ato. Mae unrhyw erthyglau Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant newydd neu eitemau cymorth ar y wefan yn cael eu hyrwyddo llawer drwy ein safleoedd cyfryngau cymdeithasol ar Twitter, Facebook ac Instagram. Rydym wedi derbyn ymateb calonogol ac yn rhagweld y bydd llawer o bobl ifanc yn cysylltu â ni drwy’r cyfryngau cymdeithasol dros yr haf i gael cymorth.
Yn ail, rydym wedi gwneud cymorth Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant yn fwy hygyrch ac yn haws i gael gafael arno yn ystod y cyfnod anodd hwn. Cyn argyfwng Covid-19 byddai llawer o’n pobl ifanc wedi derbyn cymorth drwy eu hysgol. Gyda gweithio wyneb yn wyneb wedi’i atal ar hyn o bryd, rydym wedi gallu cynnig amrywiaeth o blatfformau rhithwir a chyfryngau cymdeithasol i’n partneriaid cyflawni. Gallant ddefnyddio’r rhain i anfon neges gyson i bobl ifanc ôl-16 oed i’w hysbysu bod modd iddynt gael cyngor ac arweiniad o hyd ar eu holl anghenion cyflogaeth, addysg a hyfforddiant. Rydym yn ddiolchgar bod pawb wedi gweithio mewn partneriaeth yn hyn o beth.
Yn drydydd, mae gwefan YEPS a’r gwahanol blatfformau cyfryngau cymdeithasol yn cael eu defnyddio fel ffordd o fynd i’r afael ag unrhyw gymorth unigol sydd ei angen ar bobl ifanc sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Mae manylion cyswllt ar gyfer ffynonellau cymorth yn cynnwys Gweithwyr Cymorth Pontio, Cynghorwyr Gyrfaoedd, Tîm Plant sy’n Derbyn Gofal RCT a Thîm EET RCT i gyd ar gael yn hawdd i bobl ifanc fel eu bod yn gallu anfon negeseuon uniongyrchol.
Yn y dyfodol agos, bydd gwefan Wicid.tv yn cynnal wythnos Brofiad Gwaith rithwir ac rydym yn gyffrous iawn am hyn. Bydd hyn yn cynnwys arolygon, cwisiau, fideos paratoi am brofiad gwaith, fideos cyflogadwyedd a darpariaeth i helpu gydag unrhyw anghenion cymorth.
Rhagor o wybodaeth
I gael blas ar y math o wybodaeth ac adnoddau rydym yn eu darparu, mewngofnodwch i Wicid.tv. Mae dolenni i’n platfformau cyfryngau cymdeithasol wedi’u cynnwys isod. Cysylltwch os oes gennych chi gwestiynau.
• Gwefan Wicid: https://www.wicid.tv/ • Cyfrif Facebook: @YEPSRCT • Cyfrif Twitter: @YEPSRCT • Cyfrif Instagram: @YEPSRCT
Ym mhob rhifyn, byddwn yn taflu goleuni ar rai o’r gwahanol ddulliau neu weithgareddau gwaith ieuenctid sy’n digwydd y tu hwnt i Gymru
Trefnodd Hyfforddeion Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop weminar, ‘Let's talk youth, employment and COVID-19!’ Mae’r weminar yn ystyried: • sut mae argyfwng Covid-19 yn effeithio’n uniongyrchol ac anuniongyrchol ar raddedigion, y rhai sydd ar fin graddio, prentisiaid, newydd-ddyfodiaid i swyddi a gweithwyr ifanc proffesiynol yn Ewrop • a yw polisïau llywodraethau a sefydliadau i ymateb i’r argyfwng yn ystyried ieuenctid yn Ewrop • pa raglenni sefydledig gan yr UE i hyrwyddo cyflogaeth ieuenctid y gellid eu defnyddio fel ymateb i’r argyfwng • mentrau arferion gorau a drefnwyd gan gymdeithas sifil, entrepreneuriaid neu bartneriaid cymdeithasol Ewropeaidd i gymryd yr argyfwng hwn fel trobwynt, gan sbarduno cyfleoedd busnes a chyflogaeth newydd ac arloesol • y gwersi y dylai newydd-ddyfodiaid i swyddi yn y dyfodol eu dysgu o’r argyfwng hwn.
Mae recordiad o’r weminar ar gael yma.
|
|
Yn ddiweddar, asiantaeth gwybodaeth a chwnsela ieuenctid Ewrop (ERYICA) ei 31ain Cynulliad Cyffredinol. Mae gan ERYICA 40 o aelodau cenedlaethol a rhanbarthol Ewropeaidd ac mae’n hyrwyddo gwybodaeth, ymarfer a pholisi ym maes ieuenctid. Mynychodd aelodau’r Grŵp Cynghori ar Waith Ieuenctid Digidol ar ran Llywodraeth Cymru. |
Cyflwynodd y pwyllgor gweithredol adroddiad ar flwyddyn brysur, yn cynnwys: • datblygu pecyn hyfforddiant ar-lein trawiadol • ymchwil i ddymuniadau pobl ifanc mewn perthynas â mynediad digidol at waith ieuenctid • cynllun gwasanaeth dan arweiniad pobl ifanc ar gyfer gwasanaethau gwybodaeth ieuenctid
Trafododd yr aelodau effaith y pandemig a’r goblygiadau ar gyfer gwaith ieuenctid digidol hefyd; rhannu heriau a datrysiadau.
Rydym yn neilltuo lle i unigolion a sefydliadau rannu gwybodaeth gyda’u cymheiriaid ym mhob rhifyn.
Fis diwethaf, gan weithio gyda’r Grŵp Marchnata, comisiynodd Llywodraeth Cymru ProMo-Cymru i gynhyrchu fideo i ddathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid gyda chyfraniadau gan bobl ifanc o wahanol leoliadau ieuenctid yng Nghymru. Bu rhai ohonynt yn siarad yn gadarnhaol am sut roedd gwaith ieuenctid wedi’u helpu gyda’u cyflogadwyedd a’u sgiliau. Gwyliwch y fideo yma.
Mae’r fideo hwn ar gael i chi ei ddefnyddio fel y dymunwch i helpu i hyrwyddo gwerth ac effaith gwaith ieuenctid.
|
|
Mae gan Cerdd Gymunedol Cymru brosiect mentora cyffrous ar-lein sy’n canolbwyntio ar gefnogi cerddorion ifanc i ddatblygu eu sgiliau cerddorol neu edrych ar ffyrdd i ddatblygu fel artist drwy ddysgu sut i gyflwyno’u hunain mewn lleoliad diwydiant. Mae’r sesiynau am ddim a byddant yn cael eu darparu’n ddiogel ar-lein naill ai fel sesiwn un-i-un gyda Mentor neu mewn grwpiau bychain. Diddordeb? E-bostiwch admin@communitymusicwales.org.uk i gael rhagor o wybodaeth. |
Tystysgrif Cyflawni Gwobr Dug Caeredin 2020. Mae pobl ifanc ledled Cymru wedi parhau i weithio tuag at gyflawni eu Gwobrau Dug Caeredin, er gwaethaf yr heriau o aros gartref a chadw pellter cymdeithasol. Mae Gwobr Dug Caeredin wedi lansio gwobr newydd sy’n cydnabod llwyddiannau gwych y bobl ifanc hyn - ‘Tystysgrif Cyflawni Gwobr Dug Caeredin 2020’. Rhagor o wybodaeth yma |
|
|
Mewn ymateb i’r cyfyngiadau symud mae Cynhadledd Cerddoriaeth Caerdydd yn mynd ar-lein! Mae gan Ministry of Life (MoL) Youth Services gyfres gyffrous o seminarau a gweithdai ar y gweill a fydd yn cynnwys gweithwyr proffesiynol y diwydiant!
I gael rhagor o wybodaeth a’r newyddion diweddaraf rheolaidd ewch i www.facebook.com/cardiffmusicconference a www.cardiffmusicconference.co.uk. Os hoffech gymryd rhan, e-bostiwch enquiries@cardiffmusicconference.co.uk neu ministryoflife@live.co.uk
|
|
Mae Ministry of Life (MoL) Youth Services wedi bod yn gweithio gyda ‘Rebel Mams’ Ysgol Glan Ceubal yn Gabalfa. Yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud maent wedi cynnal helfa drysor yn y gymuned leol ar thema ffilmiau gan gadw pellter cymdeithasol ac maen nhw’n bwriadu ymgysylltu ymhellach â’r gymuned leol drwy dynnu lluniau o ddwylo i greu adenydd angel a fydd yn creu murlun mewn lleoliad yn Gabalfa. I gymryd rhan, ewch i https://www.facebook.com/YGCRebelMams text. |
Mae The Inspire Project yn cefnogi plant 8-12 oed yn ystod y cyfyngiadau symud. Mae’n dilyn ‘5 Ffordd at Les y GIG’, gan ganolbwyntio ar les plant. Mae gweithgareddau’n cael eu rhoi ar-lein i blant ledled Cymru. Yn y dyfodol, mae Inspire yn bwriadu anfon pecynnau gweithgareddau i deuluoedd. Gall gweithwyr proffesiynol a theuluoedd atgyfeirio plant drwy e-bostio inspire@discoverysvs.org |
|
|
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd wedi datblygu ymgynghoriad i gynnig cyfle i fyfyrio a chasglu barn pobl ifanc a gweithwyr ieuenctid i archwilio beth yw gwaith ieuenctid. Cwblhawyd hyn yn ystod y cyfyngiadau symud gan ddefnyddio Mentimeter am ddim, ac fe’i cwblhawyd gan 62 o bobl ifanc, gwirfoddolwyr a gweithwyr proffesiynol, sydd wedi’u lleoli yng Ngwasanaeth Ieuenctid Caerdydd a gwasanaethau ieuenctid eraill a chafodd ei rannu ar blatfformau digidol i ymestyn ei gyrhaeddiad. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Dayle Luce (Dayle.Luce@cardiff.gov.uk neu ffoniwch 07773 487975).
Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi canllaw anstatudol i atgoffa ymarferwyr sy’n gweithio ar draws asiantaethau o’u cyfrifoldebau i ddiogelu plant a’u cefnogi i ymateb i bryderon am blant sy’n wynebu risg. Mae’r canllaw hwn yn cysylltu â Gweithdrefnau Diogelu Cymru a dylid eu defnyddio ar y cyd. Gallwch lawrlwytho’r gweithdrefnau i’ch ffôn symudol. Mae dolenni ar gyfer lawrlwytho’r Ap ar waelod tudalen lanio’r wefan yn y ddolen uchod. Ar ôl i chi lawrlwytho’r Ap nid oes angen i chi gael cysylltiad Wi-Fi i’w gweld.
Iechyd Meddwl a Lles fydd ffocws arbennig y rhifyn nesaf o'r cylchlythyr. Cysylltwch ar e-bost (gwaithieuenctid@llyw.cymru) erbyn 31 Gorffennaf os ydych chi eisiau cyfrannu ato, ac fe wnawn ni ddarparu canllaw arddull ar gyfer cyflwyno erthyglau i ni, ynghyd â gwybodaeth am gyfanswm geiriau erthyglau ar gyfer y gwahanol adrannau.
Cofiwch ddefnyddio #GwaithIeuenctidCymru #YouthWorkWales wrth drydar er mwyn hybu proffil Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.
Ydych chi wedi tanysgrifio ar gyfer Bwletin Gwaith Ieuenctid? Cofrestrwch yn gyflym yma
|