Bwletin newyddion: Cyfyngiadau coronafeirws yn cael eu llacio ymhellach i gefnogi’r sectorau twristiaeth a hamdden yng Nghymru

Newyddion diwydiant
Croeso Cymru

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

 

10 Gorffennaf 2020


cu

Cyfyngiadau coronafeirws yn cael eu llacio ymhellach i gefnogi’r sectorau twristiaeth a hamdden yng Nghymru

Yn dilyn yr adolygiad 21 diwrnod diweddaraf o’r Rheoliadau Coronafeirws, mae’r Prif Weinidog wedi amlinellu amserlen ar gyfer llacio’r cyfyngiadau’n raddol ar gyfer rhannau mawr o sectorau ymwelwyr, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth Cymru. Darllenwch y manylion ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae'r cynigion presennol a nodwyd yn yr adolygiad ar 10 Gorffennaf, sy'n agored i newid, yn rhagweld y dylid ailagor yr economi ymwelwyr fel a ganlyn:

 

6 Gorffennaf 2020

 

Atyniadau awyr agored i ymwelwyr

Ar 6 Gorffennaf, fe wnaeth Llywodraeth Cymru godi'r gofyniad i aros yn lleol gan ganiatáu i bobl deithio o amgylch Cymru ac i ymweld ag atyniadau ymwelwyr awyr agored, yn amodol ar ganllawiau cadw pellter cymdeithasol a hylendid dwylo llym.

11 Gorffennaf 2020

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ailagor lletyau gwyliau hunangynhaliol

Dim ond i aelodau o'r un aelwyd neu aelwydydd estynedig y gellir gosod llety hunan-ddarpar.

Mae hyn hefyd yn cynnwys llety â gwasanaeth lle gellir gosod defnydd ystafelloedd gwely yn unig i'r un cartref neu aelwyd estynedig ac nid, er enghraifft, ffrindiau yn archebu ystafell wely ddwbl neu ystafell wely i'r teulu, ac ati.

Mae hyn yn cynnwys unrhyw lety sy’n gwbl  hunangynhwysol, e.e. bythynnod gwyliau, carafanau gwyliau gan gynnwys carafanau teithiol, cartrefi modur modern, cychod a rhywfaint o letyau glampio sydd â’u ceginau a’u hystafelloedd ymolchi eu hun na fyddant yn cael eu defnyddio gan westeion eraill.

Hefyd yn y categori hwn mae:

  • Gwestai a lletyau â gwasanaeth eraill (e.e. lletyau gwely a brecwast, hosteli ayyb) sy’n darparu ystafelloedd en-suite ac sy’n gallu darparu prydau bwyd drwy wasanaeth ystafell.
  • Parciau carafanau lle y mae’r lletyau yn gwbl hunan-gynhaliol – ond bydd y cyfleusterau a rennir ar y safle yn dal i fod ar gau, megis pyllau nofio, cyfleusterau hamdden, cyfleusterau cawod a thoiledau a rennir, cyfleusterau a rennir ar gyfer golchi dillad ayyb, ac ardaloedd cyhoeddus mewn mathau eraill o lety. Mae hyn yn golygu unrhyw safle carafanau neu garafanau teithiol lle y mae gan bob llety ei gyflenwad ei hun o ddŵr ar gyfer cawod, toiled a choginio gan gydymffurfio â’r canllawiau caeth ar fannau gwaredu gwastraff a dŵr a rennir.

Dylai pob cyfleuster a rennir, ac eithrio mannau dŵr a gwaredu, aros ar gau gan gynnwys blociau toiledau, cawodydd, cyfleusterau golchi dillad, bwytai, clybiau nos, tafarnau, caffis, etc.

13 Gorffennaf 2020

Tafarnau, bariau, caffis a bwytai ailagor y tu allan Atyniadau ymwelwyr dan do (ac EITHRIO unrhyw ran o atyniad ymwelwyr sydd o dan y ddaear)

25 Gorffennaf 2020

Gwersylla a carafanio gyda chyfleusterau a rennir yn paratoi ar gyfer ail-agor

3 Awst 2020

Lletygarwch dan do paratoi ar gyfer ail-agor

I’w Gadarnhau

Ailagor atyniadau ymwelwyr eraill yn amodol ar gyngor a thrafodaethau gwyddonol pellach gyda'r diwydiant


Coronafirws (COVID-19) canllawiau ar gyfer ail-agor eich busnes yn ddiogel

Mae Canllawiau ar Economi Ymwelwyr ar gael i helpu busnesau twristiaeth a lletygarwch i ail-agor yn ystod pandemig coronafirws (COVID-19).

Cynhyrchwyd canllawiau ychwanegol hefyd mewn ymgynghoriad â'r sector lletygarwch ar gyfer tafarndai, bariau, caffis a bwytai sy'n ailagor yn yr awyr agored,  gellir eu gweld ar wefan UK Hospitality.

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen yr holl ganllawiau i ddeall y mesurau i'w hystyried i ail-agor y busnes yn ddiogel.

Mae rhestr o gwestiynau cyffredin sy’n ymwneud â coronafeirws yn cael ei diweddaru'n rheolaidd hefyd ar gwefan Llyw.Cymru.  - cofiwch edrych yn ôl yn rheolaidd.


Canllawiau Polisi Newydd Pwysig – Cadw Cofnodion am Staff, Cwsmeriaid ac Ymwelwyr

Bydd coronafeirws gyda ni nes bod brechlyn effeithiol ar gael neu fod y boblogaeth wedi datblygu imiwnedd digonol. Wrth i’r cyfyngiadau symud gael eu llacio, bydd rheolau cyffredinol ynglŷn â chadw pellter cymdeithasol a golchi dwylo yn parhau i fod yn bwysig wrth leihau’r perygl o drosglwyddo’r feirws. Bydd ein strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn allweddol wrth atal achosion newydd o’r clefyd, yn enwedig wrth i fannau cyhoeddus ddechrau ailagor.

Wrth i bobl ddod i gysylltiad â mwy a mwy o bobl, mae’r risg o drosglwyddo COVID-19 mewn rhai sectorau’n uwch. Mae hyn oherwydd y bydd cwsmeriaid ac ymwelwyr yn treulio rhagor o amser ar y safleoedd hynny nag mewn mannau eraill, ac mae’n bosibl y byddant yn dod i gysylltiad agos â phobl o’r tu allan i’w haelwyd. Mae’r sectorau hyn yn cynnwys:

  • Lletygarwch, gan gynnwys tafarnau, barrau, bwytai a chaffis.
  • Twristiaeth a hamdden, gan gynnwys parciau thema, amgueddfeydd a sinemâu.
  • Gwasanaethau cyswllt agos gan gynnwys siopau trin gwallt, barbwyr, parlyrau harddu, tatŵyddion, therapyddion chwaraeon a thylino, gwniadwragedd, teilwriaid a dylunwyr ffasiwn.
  • Cyfleusterau a ddarperir gan awdurdodau lleol fel llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden.

Mae canllawiau polisi newydd pwysig bellach wedi cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar gyfer busnesau sy’n gweithredu yn y sectorau hyn. Mae’r rhain yn disgrifio’r rôl bwysig mae’r busnesau hyn yn eu chwarae yn y gwaith o olrhain cysylltiadau a diogelu Cymru. Fel busnes sy’n gweithredu yn un o’r sectorau hyn mae bellach rhaid ichi ddechrau casglu manylion a chadw cofnodion am staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr â’ch safle. Nid yw’r canllawiau hyn yn ofyniad cyfreithiol, ond rydych yn cael eich cynghori’n gryf i ddilyn y cyngor hwn i gefnogi gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru i atal COVID-19 rhag cael ei drosglwyddo.


Cwmniau mawr twristiaeth yn croesawu £2m o Gronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru

Wrth i'r cyfyngiadau ddechrau llacio’n raddol ar safleoedd ac atyniadau twristiaeth ledled Cymru, mae cronfa cydnerthu economaidd bwrpasol Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth hanfodol o fwy na £ 2 miliwn i rai o'n cwmnïau twristiaeth allweddol mwyaf.

Heddiw, bu Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd, Ken Skates, yn ymweld â Zip World, Bethesda sydd, erbyn hyn wedi agor dau o’r tri safle gan gynnig chwech o’r anturiaethau sydd ar gael yn Zip World.

Dywedodd Sean Taylor, a sefydlodd Zip World: "Rydyn ni wedi croesawu'r gefnogaeth a'r gwaith caled gan yr holl dîm yn Llywodraeth Cymru yn ystod yr argyfwng hwn.  Diolchwn iddynt am eu hymdrech barhaus i gael yr economi ymwelwyr yn ôl i fod yn weithredol eto ac am gydnabod arwyddocâd ein brand i economi leol Gogledd Cymru.”

Mae’r Cynllun Cadernid Economaidd, sy’n rhan o’r pecyn cymorth gwerth £1.7 biliwn sy’n cael ei gynnig i fusnesau gan Lywodraeth Cymru, yn rhoi cymorth ariannol sylweddol i gwmnïau ym mhob cwr o Gymru, gan ategu’r cymorth sy’n cael ei roi gan Lywodraeth y DU. Hyd yn hyn, mae wedi rhoi cymorth ariannol gwerth mwy na £230 miliwn i dros 8,200 o fusnesau.

Ymhlith rhai o’r cwmnïau eraill ym maes twristiaeth sydd wedi cael cyllid o’r Gronfa y mae Bourne Leisure; Bluestone a JH Leeke – sydd yn rhedeg y Vale Resort. Darllenwch yn llawn ar wefan Llywodraeth Cymru.


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19)


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram