“Addo. Gwnewch addewid dros Gymru.”
Ein prif neges wrth i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru ddechrau agor eto yw: ‘Darganfod Cymru. Yn ddiogel.’ Dyma frawddeg syml y gellir ei haddasu ar gyfer eich busnes neu eich ardal leol, er mwyn annog pobl i fod yn gyfrifol tra yn ymweld â Chymru. Byddwn yn parhau i rannu’r neges hon trwy gydol y tymor.
Fel rhan o’r neges rydym yn gofyn i bawb sy’n teithio o amgylch Cymru i addo i wneud y pethau bychain fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr. I wneud addewid gyda’n gilydd i ofalu am ein gilydd, am ein gwlad ac am ein cymunedau wrth i ni ddechrau darganfod Cymru unwaith eto. Gellir llofnodi’r addewid yma: croeso.cymru/addo.
Pam addo?
Yn ystod y cyfnod anodd hwn mae angen bod yn groesawgar, yn gyfrifol ac yn sensitif wrth gyfathrebu. Trwy ofyn i bobl wneud addewid, rydym yn gofyn i’n cymunedau, ein hymwelwyr a’n busnesau i fuddsoddi yn emosiynol yng Nghymru, ac i ddangos eu bod hwythau yn awyddus i chwarae rhan mewn gofalu am eu hunain ac eraill.
Cymryd rhan
Rydym yn gweithio ar becyn cymorth defnyddiol i’w gwneud yn haws i chi gymryd rhan yn yr ymgyrch, fydd yn cael ei rannu yn fuan. Yn y cyfamser gallwch lawrlwytho yr addewid a phoster, a phori trwy ein cynnwys ar-lein. Rhannwch eich addewid gyda ni ar ein sianelau cymdeithasol gan ddefnyddio #addo #DiogeluCymru.
Diolch o galon am eich cefnogaeth gyson.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|