Rhwydwaith Gwledig Cymru News Round-up 2020 Rhifyn 07: Gorffennaf 2020

News Round-up 2020 Rhifyn 07: Gorffennaf 2020

 
 

Beth Sy’n Digwydd yng Nghymru?

Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 - Ffenestri Cynllun

create

Creu Coetir Glastir

Mae’r cyfnod ar gyfer datganiadau o ddiddordeb yng Nghynllun Creu Coetir Glastir ar agor. Mae’r dyddiad cau wedi ei ymestyn tan 31 Gorffennaf 2020.
Bu nifer o newidiadau i’r broses ymgeisio ar gyfer Creu Coetir Glastir. Mae gwybodaeth bwysig am y newidiadau hyn ar gael ar ein gwefan.

pollin

Grantiau Bach Glastir - Tirwedd a Phryfed Peillio 2019

Mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws (COVID-19) presennol, mae’r dyddiad cau ar gyfer hawlio wedi cael ei estyn tan 30 Medi 2020. Rhaid i bob hawliad gael ei gyflwyno erbyn y dyddiad hwn.

msbf

Cronfa Fusnes Micro Bychan (MSBF)

Mae’r Gronfa Busnesau Micro a Bychan (MSBF) yn gronfa fuddsoddi ar gael i brosiectau yn y sector twristiaeth yng Nghymru. Gellir ei ddefnyddio naill ai i ddiweddaru cynnyrch newydd o safon uchel neu i uwchraddio cynnyrch sy’n bodoli eisoes.

LEADER

kws

Nodyn Cyfarwyddyd Ategol ar gyfer
Grwpiau Gweithredu Lleol LEADER a’u Cyrff Gweinyddol – COVID-19 a Chynllun LEADER

Mae LEADER wrthi’n diwygio diben ei gweithgareddau ar gyfer gweddill y rhaglen. Nid yw hyn yn disodli canllawiau presennol ond bydd canllawiau atodol i gynorthwyo â hyn.

Ffermio

cows

Cynllun Cymorth Llaeth

Mae cynllun cymorth llaeth Cymru, sydd â'r nod o helpu cynhyrchwyr llaeth i gynnal eu gallu i gynhyrchu yn ystod Covid-19, ar gael nawr ar RPW ar-lein a bydd yn cau ar 14 Awst.

Cyswllt Ffermio

fc

Darllediadau byw i gadw ffermwyr mewn cysylltiad â phrosiectau ffermydd arddangos Cyswllt Ffermio

O ganlyniad i’r ffaith bod digwyddiadau ar ffermydd wedi cael eu gohirio ar gyfer yr haf, mae Cyswllt Ffermio am gynnal cyfres o ddarllediadau digidol byw oddi ar ei safleoedd arddangos er mwyn parhau i ymgysylltu â ffermwyr yn ystod y pandemig. Bydd yr holl ddigwyddiadau yn dechrau am 19:30 ac yn cael eu ffrydio yn fyw ar blatfform Zoom.

Cymorth a Chefnogaeth i Ffermwyr yng Nghymru

milk

Lansio ymgynghoriad i fynd i’r afael â phroblemau yn y gadwyn gyflenwi ar draws sector llaeth y DU

Mae ymgynghoriad i fynd i’r afael â phroblemau yn y gadwyn gyflenwi ledled sector llaeth y DU ac i ddarparu amodau tecach newydd i gontractau llaeth wedi eu lansio gan Lywodraethau’r DU.

farmwell

FarmWell Cymru – cyfeiriadur gwybodaeth a chymorth

Mae menter i helpu ffermwyr Cymru gyda chadernid eu busnes a nhw eu hunain fel unigolion wedi cael ei lansio gan Grŵp Cymorth Ffermydd Cymru. Am ragor o wybodaeth ewch i farmwell.cymru.

fc covid

Cyswllt Ffermio - Coronafirws (Covid 19)

“Pa bryderon bynnag sydd gennych am eich busnes, nid dyma'r amser i gadw’r pryderon i chi eich hun, byddwn yn dod o hyd i arbenigwr a fydd yn gwrando arnoch ac yn cynnig yr arweiniad a'r cymorth cyfrinachol sydd eu hangen arnoch naill ai dros y ffôn neu'n ddigidol,” yw neges Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglenni Gwledig gyda Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar y cyd â Lantra Cymru, ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

liaison

Tîm Cysylltwyr Fferm

Cymorth un-i-un cyfrinachol. Os ydych angen trafod unrhyw beth cysylltwch gyda un o’r swyddogion.

COVID-19 (Coronafeirws)

kws

Coronafeirws (COVID-19)

Diogelu Cymru:

  • cadwch bellter cymdeithasol drwy'r amser
  • golchwch eich dwylo'n rheolaidd
  • os ydych yn cwrdd ag aelodau cartref arall heblaw eich aelwyd estynedig chi, arhoswch y tu allan
  • gweithiwch o gartref os gallwch chi

Arhoswch gartref os oes gyda chi neu unrhyw un sy’n byw gyda chi symptomau.

Datganiad Taliadau Gwledig Cymru (RPW) ynghylch Coronafeirws (COVID-19)

COVID-19 (Coronafeirws) - Newyddion

COVID-19 Gweithgareddau LEADER

COVID-19 Cylchlythyrau

Os oes unrhyw weithgareddau yn eich ardal i gefnogi cymunedau yn ystod y pandemig, anfonwch unrhyw wybodaeth at rhwydwaithgwledig@llyw.cymru

Gwasanaeth Paru Sgiliau

Mae gwasanaeth newydd ar-lein, fydd yn paru gweithwyr gyda ceiswyr swyddi sy’n chwilio am waith amaethyddol, ar y tir a gwaith milfeddygol yn ystod yr achosion o coronafeirws (COVID-19), wedi cael ei lansio.

Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Rydym wedi cynhyrchu arolwg busnes i edrych ar effaith COVID-19, sut mae wedi effeithio ar fusnesau lleol a’i diwydiannau er mwyn cael dealltwriaeth o’r anghenion ynghyd a’r hyn sydd ei angen er mwyn cefnogi adferiad bydd y cyfyngiadau yn cael ei codi.

Straeon newyddion o Gymru

news

Cyhoeddi Dosbarth 2020 Academi Amaeth Cyswllt Ffermio – yn aros i ddod yn fyw ar zoom!

Gallai ysgall y meirch fod yn allweddol i sicrhau cynnydd uwch ym mhwysau byw dyddiol (DLWG) ŵyn ar fferm ddefaid yn Sir Ddinbych

TUCK IN - rhannu gwybodaeth am farchnata mewn argyfwng

Bandiau Bodiau Yn Helpu I Dynnu Sylw At Gimychiaid Cymru

Angen barn ffermwyr defaid Cymru

Cyhoeddwyd gwenfan bwyd a diod leol

Cynnal gwasanaethau bws lleol allweddol hyd fis Rhagfyr

Safle newydd yn hyrwyddo cyflogaeth mewn cyfnod tyngedfennol i’r sector bwyd a diod

Ffigurau Manwerthu yn Dangos Twf mewn Gwerthiant Cig Coch

Cyfoeth Naturiol Cymru

nr

Lansio ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar newidiadau i'r canllawiau ar gyfer asesu effaith amonia a nitrogen o ddatblygiadau amaethyddol a bydd yn cau ar 31 Awst 2020.

Brexit

brexit

Wefan Paratoi Cymru

Ar 31 Ionawr gadawodd y DU yr UE ac rydym nawr mewn cyfnod pontio; yn ystod y cyfnod hwn, ni fydd y ffordd yr ydych yn gwneud busnes gyda'r UE yn newid. Fodd bynnag, bydd angen i chi baratoi a gwneud newidiadau er mwyn parhau i wneud busnes ar ddiwedd y cyfnod pontio. Fe welwch yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar wefan Paratoi Cymru.

Ffynonellau Cyllid Eraill - DU

grants

Grantiau Ar-lein

Grantiau ar gyfer Datblygu Gwledig ledled y DU.
(Saesneg yn Unig)

Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol

Gall grant gan y Loteri Genedlaethol helpu gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned.

Beth sy’n digwydd yn Ewrop?

eip

Gwaith EIP-AGRI a ffermio organig

Mae rhwydwaith EIP-AGRI yn cefnogi ffermio organig trwy hyrwyddo a rhannu arferion arloesol.

EIP-AGRI - Gwasanaeth Cefnogi Arloesedd

Fideo newydd EIP-AGRI am y Gwasanaeth Cefnogi Arloesedd.

Tri ymgynghoriad cyhoeddus ar y newid yn yr hinsawdd

Mae Bargen Werdd Ewrop yn esbonio sut i wneud Ewrop y cyfandir hinsawdd-niwtral cyntaf rbyn 2050.

(Saesneg yn Unig)

enrd

Adnoddau cydweithredu newydd LEADER ar-lein!

Bydd y ddogfen hon yn cael ei diweddaru ddwywaith bob blwyddyn (y tro nesaf ym mis Hydref 2020) ac yn darparu gwybodaeth i randdeiliaid LEADER am y sefyllfa o ran cydweithredu rhwng gwledydd yn yr UE ar LEADER, gan ategu gwybodaeth berthnasol arall gan Fan Cyswllt ENRD.

Prosiect Treialu ar bentrefi eco-gymdeithasol clyfar - adroddiad terfynol

Mae adroddiad terfynol y Prosiect Treialu ar bentrefi eco-gymdeithasol clyfar – a gomisiynwyd gan Senedd Ewrop – ar gael nawr.

Gwledig, digidol, deniadol - atebion digidol ar gyfer cefn gwlad

Astudiaeth gan Swyddfa Cymhwysedd TG ffederal yr Almaen (ÖFIT) i ystyried y ffactorau sy’n herio ac yn golygu llwyddiant i 49 o brosiectau datblygu gwledig sy’n chwilio am atebion digidol i wella gwasanaethau lleol ac ansawdd bywyd yng nghefn gwlad.

(Saesneg yn Unig)

Digwyddiadau Ewropeaidd

events

10fed Uwchgynhadledd flynyddol Diwydiant Algâu Ewrop
Dyddiad: 20/21 Hydref 2020
Lleoliad: Reykjavik
Cyfraniad da byw at fioamrywiaeth a phridd iach
Dyddiad: 31 Awst 2020
Lleoliad: Portiwgal
Tuag at amaethyddiaeth carbon-niwtral
Dyddiad: 09/10 Medi 2020
Lleoliad: Estonia
Seminar EIP-AGRI: Priddoedd iach i Ewrop: rheolaeth gynaliadwy trwy wybodaeth ac arfer
Dyddiad: 07/08 Hydref 2020
Lleoliad: Portiwgal

(Saesneg yn Unig)

Gwefannau Defnyddiol

Cylchlythyrau Eraill

Oes gennych newyddlen yn ymwneud â'r Cynllun Datblygu Gwledig?

Ydych chi eisiau i ni gynnwys dolen i’ch newyddlenni diweddaraf yn yr adran hon? E-bostiwch ddolen tanysgrifio at rhwydwaithgwledig@llyw.cymru a byddwn yn rhannu'ch straeon.

 
 
 

Amdanom ni

Mae Newyddion Rhwydwaith Gwledig Cymru yn cynnig crynodeb o newyddion, gwybodaeth a chyfleoedd rhwydweithio sy’n gysylltiedig â Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020. Mae’n ffordd hwylus i rannu gwybodaeth ac enghreifftiau o arferion da yng Nghymru, y DU ac Ewrop. Os hoffech chi gyfrannu unrhyw beth sy’n berthnasol i ddatblygu gwledig yng Nghymru, cysylltwch â Rhwydwaithgwledig@llyw.cymru

Rhagor o wybodaeth ar y we:

businesswales.gov.wales/walesruralnetwork/cy

Dilyn ar-lein: