Amserlen ar gyfer ailagor sector twristiaeth a lletygarwch Cymru yn raddol

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

2 Gorffennaf 2020


Covid-19 Update

Amserlen ar gyfer ailagor sector twristiaeth a lletygarwch Cymru yn raddol

Bydd sector lletygarwch Cymru yn paratoi i ailagor yn yr awyr agored o 13 Gorffennaf ymlaen, mae’r Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan, wedi cyhoeddi heddiw.

Cyhoeddodd y Gweinidog y cam cyntaf o gynlluniau i ailagor barrau, bwytai a caffis sydd â mannau awyr agored, yn dilyn adolygiad cyflym o’r sector.   

Gwneir penderfyniad terfynol ynghylch ailagor yn yr adolygiad nesaf o’r Rheoliadau Coronafeirws ar 9 Gorffennaf, a bydd yn dibynnu ar a yw nifer yr achosion o’r coronafeirws yn parhau i ostwng.   

Gwneir penderfyniadau ynghylch ailagor y sector o dan do maes o law, a bydd llawer yn dibynnu ar lwyddiant y cam cyntaf o agor y sector yn yr awyr agored.

Heddiw mae y Gweinidog hefyd wedi cyhoeddi amserlen ar gyfer ailagor atyniadau ymwelwyr yn yr awyr agored, ac agor yn rhannol y diwydiant twristiaeth yng Nghymru am weddill tymor yr haf. 

Os yw’r gofyniad i aros yn lleol yn cael ei godi yng Nghymru ar 6 Gorffennaf, bydd atyniadau i ymwelwyr yn yr awyr agored yn gallu ailagor ar ddydd Llun.

Yn ogystal, yn dibynnu ar yr adolygiad o’r Rheoliadau Coronafeirws ar 9 Gorffennaf, mae’r sector twristiaeth yn paratoi i ailagor llety hunangynhaliol.

Mae y Gweinidog wedi cyhoeddi heddiw y caiff perchnogion llety hunangynhaliol dderbyn archebion o 11 Gorffennaf ymlaen – nid 13 Gorffennaf – i gyd-fynd a’r patrwm o aros o ddydd Sadwrn i ddydd Sadwrn

Dywedodd y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol a’r Gymraeg, Eluned Morgan:  

“Mae twristiaeth yn rhan hanfodol o economi Cymru ar lefel genedlaethol, lefel ranbarthol a lefel leol. Hoffwn i ddiolch i’n holl bartneriaid yn y diwydiant am weithio gyda ni i ailagor yr economi ymwelwyr yn ofalus.

“Bydd dychwelyd yn llwyddiannus, yn ddiogel ac yn raddol yn rhoi hyder i fusnesau, cymunedau ac ymwelwyr i barhau i adfer yr economi ymwelwyr.

“Hoffen ni ofyn i bawb sy’n teithio i Gymru ac o amgylch Cymru i fwynhau eu hamser yma – ond i barchu cymunedau lleol bob amser. Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr yn ôl i Gymru – ond rydyn ni am i bawb ymweld â Chymru mewn modd diogel.”

Mae canllawiau wedi cael eu cyhoeddi yr wythnos hon i helpu busnesau sy’n gweithio yn economi ymwelwyr yng Nghymru.  Bydd canllawiau i gaffis, barrau a thafarnau yn dilyn.

Mae Croeso Cymru hefyd wedi gweithio gyda’r sefydliadau twristiaeth cenedlaethol eraill i greu safon diwydiant a nod ansawdd ar gyfer y DU gyfan, i roi sicrwydd i gwsmeriaid wrth i’r sector baratoi i ailagor.

Mae’r safon diwydiant a’r nod ansawdd cysylltiedig Barod Amdani yn golygu y gall busnesau ddangos eu bod yn dilyn y gwahanol ganllawiau gan y Llywodraeth a chanllawiau iechyd y cyhoedd; eu bod wedi cynnal asesiad risg ar gyfer COVID-19 a’u bod wedi gwirio bod ganddynt y prosesau gofynnol ar waith. Caiff pob busnes ar draws y diwydiant ymuno â’r cynllun, yn rhad ac am ddim.

Bydd Folly Farm yn barod i groesawu ei ddeiliaid pasys blynyddol yn ôl o 8 Gorffennaf ymlaen, a bydd yn agor i bawb ar 13 Gorffennaf.

Dywedodd Zoe Wright, Pennaeth Marchnata Folly Farm:

“Rydyn ni wedi bod yn paratoi i ailagor ers nifer o wythnosau, ac rwy’n edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr yn ôl i Folly Farm – mewn modd diogel.  

“Mae’r holl gefnogaeth rydyn ni wedi ei derbyn gan ein hymwelwyr a’n cymuned leol wedi bod yn galonogol iawn. Mae llawer o ddarparwyr llety lleol wedi bod yn rhannu ein canllawiau ar ailagor yn ddiogel cyn i’w gwesteion ddychwelyd ar 13 Gorffennaf.

“Rydyn ni wedi rhoi llawer o fesurau ar waith i ddiogelu ein hymwelwyr, ein staff, a’n cymuned ehangach, gan gynnwys y gofyniad i drefnu ymweliadau ymlaen llaw fel y gallwn ni gyfyngu ar nifer yr ymwelwyr a darparu mwy o le byth ar draws ein safle 120 erw. Fel atyniad lle mae pobl yn dod i weld anifeiliaid, rydyn ni wedi hen arfer â chynnig cyfleusterau golchi dwylo ac annog pobl i wneud hynny’n rheolaidd, ond rydyn ni wedi ychwanegu gorsafoedd diheintio dwylo ledled y parc hefyd.  

“Mae ein anifeiliaid yn darparu ffordd llawn hwyl o annog ymwelwyr, yn enwedig y rhai ifanc, i ddilyn ein harwyddion cadw pellter cymdeithasol, gydag olion pawennau yn nodi’r pellter diogel mewn ardaloedd ciwio, a saethau ar thema pengwiniaid a moch i ddangos ein system unffordd.”

Mae Sean Taylor, sylfaenydd Zip World, yn gwneud paratoadau i agor ar y 6ed o Orffennaf a dywedodd: "Fel un o atyniadau twristaidd awyr agored mwyaf Gogledd Cymru, mae gennym gyfrifoldeb enfawr yn y ffordd rydym yn ailgychwyn ein gweithrediadau.  Mae gennym ymdeimlad cryf o gymuned ac mae gennym ran bwysig i'w chwarae wrth ailadeiladu economi ymwelwyr y rhanbarth ac mae'n rhaid rheoli hynny i gyd yn gyfrifol ac yn gadarn yn unol â chanllawiau cyfredol y Llywodraeth.

"Rydym wedi treulio'r misoedd diwethaf yn ailfeddwl am logisteg ein gweithrediadau i gadw staff, cwsmeriaid a'r gymuned yn ddiogel.  I ddechrau, bydd y dull ailagor yn cael ei weithredu fesul dipyn drwy agor dau o'n tri safle i ddechrau a 6 o'n hanturiaethau. Mae hyn yn golygu lleihad mewn capasiti ac rydym hefyd wedi cyflwyno cyfundrefnau hylendid cadarn, arwyddion clir, cyfarpar diogelwch a defnyddio technoleg lle bo'n bosibl i leihau pwyntiau cyffwrdd defnyddwyr. Erbyn hyn, mae yna ganllaw 6 cham syml i'r holl gwsmeriaid ei ddilyn cyn ac yn ystod eu hymweliad - mae hyn yn cynnwys llofnodi'r ildiad ar-lein cyn yr ymweliad, taliadau digyswllt ac ati."


Mae’r cynigion presennol a gyflwynwyd yn ystod yr adolygiad diwethaf ar 19 Mehefin, sy’n ddarostyngedig i newid, yn rhagweld y gellir agor yr economi ymwelwyr fel a ganlyn:

 

6 Gorffennaf 2020

 

 

 

Atyniadau awyr agored i ymwelwyr

Bydd Gweinidogion yn codi'r gofyniad ar 6 Gorffennaf os bydd yr amodau yn caniatau

Bydd codi’r gofyniad presennol i aros yn lleol yn golygu bod pobl yn gallu teithio o gwmpas Cymru a bydd yn caniatáu i atyniadau awyr agored agor i ymwelwyr, yn ddarostyngedig i ganllawiau cadw pellter cymdeithasol a hylendid dwylo caeth

11 Gorffennaf 2020

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ailagor lletyau gwyliau hunangynhaliol

Bydd opsiynau ar gyfer ailagor  a’r penderfyniad terfynol yn cael ei wneud yn ystod yr adolygiad nesaf o'r rheoliadau ar 9 Gorffennaf.

Gellir archebu ar gyfer gwyliau ar ôl 11 Gorffennaf, gan wneud hynny ar eich menter eich hun, a dylid gwirio gyda darparwr y llety cyn archebu.

Mae hyn yn cynnwys unrhyw lety sy’n gwbl hunangynhaliol, ee bythynnod gwyliau, carafanau gwyliau gan gynnwys carafanau teithiol a chartrefi modur modern a rhai lletyau glampio sydd â’u ceginau a’u hystafelloedd ymolchi eu hun na fyddant yn cael eu defnyddio gan westeion eraill.

Hefyd yn y categori hwn mae:

  • Gwestai a lletyau eraill â gwasanaeth (ee lletyau gwely a brecwast, hosteli etc) sy’n darparu ystafelloedd en-suite ac sy’n gallu darparu prydau bwyd drwy wasanaeth ystafell.
  • Parciau carafanau lle y mae’r lletyau yn gwbl hunan-gynhaliol – ond bydd y cyfleusterau a rennir ar y safle yn dal i fod ar gau, megis pyllau nofio, cyfleusterau hamdden, cyfleusterau cawod a thoiledau a rennir, cyfleusterau a rennir ar gyfer golchi dillad etc, ac ardaloedd cyhoeddus mewn mathau eraill o lety. Mae hyn yn golygu unrhyw safle carafanau neu garafanau teithiol lle y mae gan bob llety ei gyflenwad ei hun o ddŵr ar gyfer cawod, toiled a choginio gan gydymffurfio â’r canllawiau caeth ar fannau gwaredu gwastraff a dŵr a rennir.

Dylai pob cyfleuster a rennir, ac eithrio mannau dŵr a gwaredu, aros ar gau gan gynnwys blociau toiledau, cawodydd, cyfleusterau golchi dillad, bwytai, clybiau nos, tafarnai, caffis, etc. 

13 Gorffennaf 

Sector lletygarwch, bariau, bwytai a chaffis gyda mannau awyr agored sy’n rhan o’r eiddo ac sy'n berchen i'r busnes ac yn amodol ar drwyddedau cyfredol

 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram