Canllawiau’r Economi Ymwelwyr
Mae canllawiau’r Economi Ymwelwyr bellach ar gael.Bydd fersiwn Gymraeg o'r canllawiau ar gael cyn bo hir.
Diben y canllawiau yw rhoi gwybod i fusnesau sy’n gweithio yn yr economi ymwelwyr yng Nghymru am y cyfyngiadau a’r gofynion cyfreithiol sy’n parhau mewn perthynas â’r coronafeirws, a’u helpu i ailagor pan fo hynny’n cael ei ganiatáu.
Ynddo fe welwch ddolenni i'r Strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu, ei nod yw gwella gwyliadwriaeth iechyd yn y gymuned, olrhain cysylltiadau yn effeithiol ac yn helaeth, a chefnogi pobl i hunan-ynysu pan fo angen.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfrifoldebau cyflogwyr i helpu gyda phrofion COVID-19 ac olrhain cysylltiadau. Mae olrhain cysylltiadau yn rhan bwysig o'n strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu, a fydd yn ein helpu i fyw ac i weithio ochr yn ochr â'r feirws tra bod ymchwil yn parhau i ddod o hyd i driniaethau mwy effeithiol a brechlyn.
Mae trafod yn gynnar gyda’r sector twristiaeth, lletygarwch a digwyddiadau wedi bod yn hanfodol tuag at ailagor yn raddol.
Dros y tri mis diwethaf, mae'r adborth gan y grŵp tasglu twristiaeth Gweinidogol, ynghyd â fforymau rhanbarthol, busnesau unigol a chyrff cynrychiadol ar lefel Cymru a'r DU wedi ein galluogi i ddatblygu dull hyddysg o cyflwyno cyfleoedd i Weinidogion fel rhan o'r broses adolygu 21 diwrnod.
Rydym yn diolchgar i'r unigolion a'r sefydliadau hynny sydd wedi cydweithio â Llywodraeth Cymru i baratoi'r canllawiau hyn gan gynnwys UK Hospitality Cymru a Chynghrair Twristiaeth Cymru
Rydym yn gobeithio eu bod yn rhoi ichi fframwaith ymarferol i feddwl am yr hyn sydd ei angen arnoch i barhau i weithio neu i ailddechrau eich gwaith.
Mae’r canllawiau hefyd ar gael i’w lawrlwytho fel PDF ac maent yn cynnwys rhestr wirio a thabl o ddolenni er rhwyddineb.
Maent yn gyfredol ar 29 Mehefin 2020 a byddant yn cael eu hadolygu os bydd unrhyw newidiadau.
Fel gyda phob penderfyniad arall, bydd y sefyllfa derfynol yn dibynnol ar sefyllfa iechyd y cyhoedd a'r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf am ledaeniad coronafeirws. Y cynllun presennol yw y caiff hyn ei gadarnhau yn yr adolygiad nesaf ar 9 Gorffennaf.
Mae’r cynigion presennol a gyflwynwyd yn ystod yr adolygiad diwethaf ar 19 Mehefin, sy’n ddarostyngedig i newid, yn rhagweld y gellir agor yr economi ymwelwyr fel a ganlyn:
6 Gorffennaf 2020
|
Atyniadau awyr agored i ymwelwyr
Bydd Gweinidogion yn codi'r gofyniad ar 6 Gorffennaf os bydd yr amodau yn caniatau
Bydd codi’r gofyniad presennol i aros yn lleol yn golygu bod pobl yn gallu teithio o gwmpas Cymru a bydd yn caniatáu i atyniadau awyr agored agor i ymwelwyr, yn ddarostyngedig i ganllawiau cadw pellter cymdeithasol a hylendid dwylo caeth.
|
13 Gorffennaf 2020
|
Ailagor lletyau gwyliau hunangynhaliol
Bydd opsiynau ar gyfer ailagor a’r penderfyniad terfynol yn cael ei wneud yn ystod yr adolygiad nesaf o'r rheoliadau ar 9 Gorffennaf.
Gellir archebu ar gyfer gwyliau ar ôl 13 Gorffennaf, gan wneud hynny ar eich menter eich hun, a dylid gwirio gyda darparwr y llety cyn archebu.
Mae hyn yn cynnwys unrhyw lety sy’n gwbl hunangynhaliol, ee bythynnod gwyliau, carafanau gwyliau gan gynnwys carafanau teithiol a chartrefi modur modern a rhai lletyau glampio sydd â’u ceginau a’u hystafelloedd ymolchi eu hun na fyddant yn cael eu defnyddio gan westeion eraill.
Hefyd yn y categori hwn mae:
- Gwestai a lletyau eraill â gwasanaeth (ee lletyau gwely a brecwast, hosteli etc) sy’n darparu ystafelloedd en-suite ac sy’n gallu darparu prydau bwyd drwy wasanaeth ystafell.
- Parciau carafanau lle y mae’r lletyau yn gwbl hunan-gynhaliol – ond bydd y cyfleusterau a rennir ar y safle yn dal i fod ar gau, megis pyllau nofio, cyfleusterau hamdden, cyfleusterau cawod a thoiledau a rennir, cyfleusterau a rennir ar gyfer golchi dillad etc, ac ardaloedd cyhoeddus mewn mathau eraill o lety. Mae hyn yn golygu unrhyw safle carafanau neu garafanau teithiol lle y mae gan bob llety ei gyflenwad ei hun o ddŵr ar gyfer cawod, toiled a choginio gan gydymffurfio â’r canllawiau caeth ar fannau gwaredu gwastraff a dŵr a rennir.
Dylai pob cyfleuster a rennir, ac eithrio mannau dŵr a gwaredu, aros ar gau gan gynnwys blociau toiledau, cawodydd, cyfleusterau golchi dillad, bwytai, clybiau nos, tafarnai, caffis, etc.
|
I’w gadarnhau
|
Gwersylla a Charafanio; Atyniadau dan do i ymwelwyr; tafarndai, bariau a bwytai; mathau eraill o lety; ac unrhyw fusnes arall yn yr economi ymwelwyr.
(*Tafarndai, bariau a bwytai – Mae adolygiad carlam yn cael eu gynnal)
|
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|