|
|
Llais Keith
Mae'r wythnosau diwethaf wedi bod yn rhai heriol iawn lle rydym wedi gweld dynoliaeth ar ei gorau ac ar ei gwaethaf, o'r athrylith dechnolegol a lansiodd Space X i farwolaethau drasig George Floyd a Rayshard Brooks. Ac yn y cyfamser, er bod y mannau problemus o ran yr haint wedi symud, mae'r pandemig wedi parhau i ledu. Ar hyn o bryd, mae marwolaethau George Floyd a Rayshard Brooks a'r pandemig yn tynnu sylw, mewn gwahanol ffyrdd, at werth bywyd dynol a phwysigrwydd trin ein gilydd â pharch, caredigrwydd a thosturi.
|
Rydym wedi gweld pobl ifanc yn ymuno â phrotestiadau Black Lives Matter ledled Cymru a'r DU, a rhaid i hynny ein hatgoffa ni bod gwahaniaethu yn dal i fodoli yn ein cymdeithas. Mae Gwaith Ieuenctid yn ymfalchïo mewn dull sy'n seiliedig ar hawliau, a bydd yn parhau i gynnal ymarfer anwahaniaethol. Mae hynny'n bwysig, yn enwedig oherwydd cyhoeddiad diweddar adroddiad Show Racism the Red Card ar hiliaeth yn y system addysg yng Nghymru. Mae Gwaith Ieuenctid yn gwneud cyfraniad allweddol wrth barhau i herio hiliaeth, gan weithio gyda phobl ifanc i ddatblygu gwerthoedd cadarnhaol a pharch at eraill.
Gyda hyn mewn golwg, a chydag wythnos Gwaith Ieuenctid ar y gorwel, hoffwn ailadrodd pa mor werthfawr yw'r gwaith rydym yn ei wneud a'r gwahaniaeth mae hyn yn ei wneud i fywydau pobl ifanc. Dros y misoedd diwethaf, mae Gwaith Ieuenctid wedi dangos dro ar ôl tro pa mor hanfodol yw cefnogi pobl ifanc, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn rhai o'r erthyglau yn y bwletin heddiw.
Rydym yn dal i weithio mewn cyfnod anodd iawn, ond rydym hefyd yn edrych tua'r dyfodol ac i sut y bydd pethau'n gwella. Ar 3 Mehefin, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg y cam nesaf ar gyfer ysgolion yng Nghymru. O 29 Mehefin ymlaen, bydd plant a phobl ifanc yn cael cyfle i "ddal i fyny" a pharatoi gyda'u hathrawon cyn gwyliau'r haf. Bydd rhan o'r broses hon yn cynnwys cadw golwg ar lesiant plant a phobl ifanc. Mewn llawer o ysgolion ac awdurdodau lleol, bydd hyn yn gyfle i weithwyr ieuenctid ychwanegu gwerth, gan eu bod yn arbennig o fedrus o ran ymgysylltu â phobl ifanc; mae ganddynt arbenigedd go iawn yn y maes hwn i'w rannu gyda chydweithwyr addysgu.
Wrth i ysgolion gymryd y camau cyntaf ymlaen, mae'n bwysig cofio nad yw gwaith ieuenctid wedi dod i ben yn ystod y pandemig i lawer; mae wedi parhau i fynd rhagddo yn ofalus ac yn feddylgar, ac wedi arloesi gyda dulliau digidol newydd yn aml. Cafwyd achosion hefyd o waith ieuenctid wyneb yn wyneb lle roedd hynny'n gwbl angenrheidiol, gan ddilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol llym a rheolau a chanllawiau cyffredinol y llywodraeth. I eraill, mae parhau i gyflwyno gwaith ieuenctid wedi bod yn heriol, ac rydym eisiau dysgu mwy am y rhwystrau y maent yn eu hwynebu.
Mae'r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro yn cyflymu gwaith gyda'r sector a chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i ddatblygu canllawiau ar y camau nesaf ar gyfer gwaith ieuenctid, wrth i ni ddechrau llacio'r cyfyngiadau symud. Wrth ddatblygu'r canllawiau hyn, byddwn yn cael ein llywio gan farn pobl ifanc a'r sector, ynghyd â'r cyngor gwyddonol diweddaraf.
Rydym yn parhau i fod yn ofalus ond yn ceisio cyflawni rhywfaint o fusnes fel arfer. Ni fydd yn syndod, felly, ein bod yn symud y Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid ar-lein eleni. Er na fyddant yn cael eu cynnal yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid eleni, byddwn mewn sefyllfa i gyhoeddi'r rhestr fer yn fuan a darparu manylion pryd y bydd y seremoni'n cael ei chynnal.
Yn olaf, bydd digwyddiad arddangos Wythnos Gwaith Ieuenctid yn cael ei gynnal ar-lein yr wythnos nesaf, ac mae sesiwn Holi ac Ateb dros Twitter wedi'i chynllunio gyda'r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro. Edrychaf ymlaen at gael ymgysylltu â chi a chlywed eich cwestiynau. Gobeithio y cewch chi Wythnos Gwaith Ieuenctid wych!
Cofion gorau.
Keith Towler
Llais y Person Ifanc
Gan Tilly Hall
Mae gwaith ieuenctid wedi bod yn rhan bwysig o'm bywyd - mynychu Clwb Ieuenctid ym Mro Morgannwg a chymryd rhan yng Ngwobr Dug Caeredin a Chynlluniau Mentoriaeth Cyfoedion, gyda phob un yn fy helpu i ddatblygu fel person ifanc a datblygu i fod yn oedolyn ifanc. Helpodd gwaith ieuenctid fi i ymgysylltu â phobl ifanc eraill, i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy ac i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau na fyddwn wedi gallu eu gwneud fel arall.
|
|
|
Mae gwaith ieuenctid yn datblygu diddordeb pobl ifanc mewn materion cymdeithasol ehangach ac yn cefnogi dysgu a thwf personol mwy cyfannol. Yn y clwb ieuenctid, roeddwn yn eithaf egnïol a gofynnodd y gweithiwr ieuenctid i mi wirfoddoli; pethau syml fel gweithio yn y siop byrbrydau a chynnal gemau y tu allan; yn raddol, dechreuais fanteisio ar y cyfleoedd niferus eraill a oedd ar gael, gan gynnwys fy Ngwobr Dug Caeredin. Defnyddiais fy ngwaith yn y clwb ieuenctid ar gyfer fy adran wirfoddoli a, thrwy hyn, cefais lawer o gyfleoedd a chymwysterau ychwanegol. Mynychais gwrs Arweinydd Ifanc Cymru Dug Caeredin i ddatblygu fy sgiliau arwain, gan ganiatáu i mi helpu grwpiau eraill drwy eu hyfforddiant Dug Caeredin. Helpodd hyn fi i ddatblygu fy arddull fy hun o weithio gyda phobl ifanc. Tra’n gwirfoddoli yn y gwasanaeth ieuenctid, enillais y Wobr Dinasyddiaeth Fyd-eang a Rhyngwladol a'r Wobr Iechyd a Llesiant; roedd hyn yn gyflawniad enfawr i mi.
Helpodd y ddarpariaeth gwaith ieuenctid fi i ddatblygu ymdeimlad o hunan, hyder a gwydnwch. Mae clybiau ieuenctid hefyd yn darparu mannau diogel sy'n anffurfiol, yn hygyrch ac yn croesawu amrywiaeth o bobl ifanc. Fel person ifanc, roeddwn i wir yn gwerthfawrogi'r mannau hyn a'r berthynas a ddatblygais gyda gweithwyr ieuenctid. Mae'n wirioneddol anodd egluro pa mor ffurfiannol oedd y cyfleoedd hyn a'u rôl o ran llywio fy nyfodol.
Rwy'n teimlo nad oes hanner digon o werth yn cael ei roi ar yr effaith mae gwaith ieuenctid yn ei chael ar bobl ifanc. Er bod y rhan fwyaf o bobl yn cydnabod hyn, ychydig iawn o sylw gwleidyddol mae gwaith ieuenctid yn ei gael, ac mae adnoddau a chyllid yn brin ac annigonol. Mae llawer o bobl ifanc wedi cymryd rhan mewn gwaith ieuenctid, gan eu gwneud nhw'n ased i ddeall pwysigrwydd gwaith ieuenctid. Dylid rhoi cyfle iddynt gael y sgyrsiau hyn gydag aelodau o'r gymuned a phobl ddylanwadol megis gwleidyddion ac arweinwyr gwaith ieuenctid.
Mae bod yn Llysgennad Ieuenctid Rhanbarthol yn Dug Caeredin Cymru yn enghraifft dda o hyn – rydym ni i gyd wedi elwa ar gymryd rhan ac felly rydym yn eiriolwyr gwych i'r elusen ac yn gallu llywio penderfyniadau o safbwynt person ifanc. Mae angen i bobl ifanc fod yn eiriolwyr dros y cyfleoedd cadarnhaol y gall gwaith ieuenctid eu cyflwyno.
Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yn ddathliad blynyddol o Waith Ieuenctid, gan roi cyfle i fudiadau ieuenctid, gweithwyr ieuenctid a phobl ifanc ddathlu eu llwyddiannau ac effaith Gwaith Ieuenctid. Yng Nghymru, cynhelir Wythnos Gwaith Ieuenctid o 23 i 30 Mehefin bob blwyddyn, ac mae'n ein helpu i ddathlu grym ac effaith gadarnhaol gwaith ieuenctid a rhannu'r neges honno mor eang â phosibl.
Mae sefydliadau ledled Cymru yn nodi Wythnos Gwaith Ieuenctid mewn pob math o wahanol ffyrdd. Gofalwch fod eich digwyddiadau'n cael eu nodi drwy galendr CWVYS, sydd ar gael yma.
Yn lle'r Dathliad Cenedlaethol o Waith Ieuenctid fel rhan o Wythnos Gwaith Ieuenctid 2020, y bwriadwyd ei gynnal yn y Senedd, cynhelir arddangosfa ar-lein ddydd Mawrth 23
Mehefin. Fel gyda'r digwyddiad ffisegol, y nod yw arddangos amrywiaeth ac effaith gwaith ieuenctid ledled Cymru, gan rannu ei bwysigrwydd gyda chynulleidfa eang. Bydd amryw o fideos yn cael eu rhyddhau ar y cyfryngau cymdeithasol gydol y dydd, gyda Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg, yn siarad am 10am, Keith Towler am 11am a Llyr Gruffydd am hanner dydd. Yn ogystal, bydd sesiwn holi ac ateb gydag aelodau o'r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro a gallwch gyflwyno cwestiynau gan ddefnyddio’r hashnod #HolwchYBGIDD drwy gyfrif @YWWales.
Ymunwch yn y sgwrs gan ddefnyddio'r hashnodau #YouthWorkWales a #GwaithIeuenctidCymru
Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid eleni yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, ond gallwch chi gymryd rhan a rhannu eich straeon a gweithgareddau wedi'u cynllunio mor eang â phosibl ar-lein a dathlu gwerth Gwaith Ieuenctid.
Rydym yn canolbwyntio ar thema benodol ym mhob bwletin. Yn y rhifyn hwn, cyn Wythnos Gwaith Ieuenctid, mae'r ffocws ar werth ac effaith Gwaith Ieuenctid
Diben StreetGames yw galluogi pobl ifanc a chymunedau difreintiedig i fod yn iachach, yn fwy diogel ac yn fwy llwyddiannus drwy chwaraeon, gweithgarwch corfforol a gwirfoddoli. Gall cyfranogiad rheolaidd effeithio ar sawl agwedd ar fywyd, iechyd corfforol, llesiant meddyliol a chysylltiadau cymdeithasol. I bobl ifanc, mae statws economaidd-gymdeithasol yn aml yn effeithio ar eu gallu i gymryd rhan mewn chwaraeon. Nod StreetGames yw rhoi mwy o gyfleoedd i'r bobl ifanc hyn gymryd rhan, gan roi cyfle iddynt newid eu bywydau a'u cymunedau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r wefan.
Fel rhan o ymateb StreetGames i'r pandemig COVID-19, mae'r sefydliad wedi bod yn sgwrsio'n gyson â phobl ifanc a Locally Trusted Organisations (LTOs) sy'n ffurfio'r rhwydwaith StreetGames. Mae hyn yn sicrhau eu bod yn cefnogi sefydliadau ac unigolion mewn ffyrdd ystyrlon, i alluogi'r sefydliad i eirioli ar eu rhan. O ganlyniad, mae StreetGames wedi cyhoeddi dau ddarn o waith.
“The Experience of the Coronavirus Lockdown in Low-Income Areas of England and Wales”
Mae llawer o LTOs wedi ehangu o gefnogi pobl ifanc i gefnogi teuluoedd cyfan. Maent yn gwneud cyfraniad pwysig o ran cefnogi rhieni a theuluoedd i ymwneud â’r awdurdodau drwy'r cyfyngiadau symud: ffonio ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol a dosbarthu parseli bwyd a nwyddau eraill.
Mae rhywfaint o'r gwaith wedi symud ar-lein, gan ddod o hyd i ffyrdd newydd o ennyn diddordeb pobl ifanc. Mae llawer o LTOs yn monitro eu cyfranogwyr o bell, gan gysylltu â'r bobl ifanc bob wythnos, ond y rhai mwyaf agored i niwed 2 neu 3 gwaith yr wythnos.
Mae llawer yn poeni y bydd eu cymunedau’n cael eu gadael ar eu pennau eu hunain i godi'n ôl ar eu traed ar ôl i'r cyfyngiadau symud gael eu codi. Bydd mwy o ddiweithdra, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, a bydd llawer mwy o bobl yn cael trafferth gyda'u llesiant a'u hiechyd meddwl.
Youth Voice Research - COVID19 and Lockdown
Mae rôl oedolyn y gellir ymddiried ynddo yn hollbwysig er mwyn cyflawni cenhadaeth y sefydliad; mae'r gwaith hwn yn dangos hefyd y rôl glir sydd gan weithiwr/coets ieuenctid o ran dylanwadu ar ymddygiad pobl ifanc. Mae'r rhan fwyaf o bobl ifanc a holwyd yn colli eu ffrindiau a chymdeithasu, ond yr hyn sy'n bwysig yw bod 23% yn colli eu gweithiwr/coets ieuenctid, sy'n amlygu rôl allweddol a gwerth gwaith ieuenctid.
Atgyfnerthwyd negeseuon allweddol hefyd: eu bod yn colli hyfforddiant, bod â 'rhywle i fynd', y staff a chael 'rhywun i siarad â nhw’. Soniodd un unigolyn fod ymgysylltu â gweithwyr ieuenctid yn ystod y cyfnod hwn wedi bod o gymorth mawr iddo. Dywedodd: "Y cyfle i siarad â rhywun. Mae rhai o'r oedolion yn fy ngrŵp wedi bod o fudd mawr i'm hiechyd meddwl.”
I gael rhagor o wybodaeth am StreetGames a sut mae'n cefnogi'r sector ieuenctid, cysylltwch â ni.
Twitter: @StreetGameWales Instagram: @streetgameswales
E-bost: wales@streegames.org Gwefan: www.streetgames.org
Yn olaf, roedd StreetGames Wales eisiau dweud Diolch wrth y sector Gwaith Ieuenctid am bopeth rydych chi'n ei wneud i bobl ifanc. Mae Clybiau Ieuenctid, Gweithwyr Ieuenctid a Darpariaeth Ieuenctid yn cyfrannu'n fawr at genhadaeth elusennol StreetGames, ac mae'r gwaith rydych chi'n ei wneud ar hyn o bryd i gefnogi pobl ifanc yn amhrisiadwy.
Byddwn yn taflu goleuni ar sefydliad gwaith ieuenctid gwahanol ym mhob rhifyn.
|
|
Addasu Darpariaeth Gwaith Ieuenctid yn Ddigidol ar gyfer ein Gwasanaethau Ieuenctid LGBT+
Gan Stacey Brown, Swyddog Celfyddydau a Gweithiwr Cymorth Ieuenctid i Grŵp Ieuenctid LGBT Good Vibes yn YMCA Abertawe
|
C: Dywedwch wrthym am eich gwaith a’r heriau sy’n eich wynebu:
Rwy'n gweithio i YMCA Abertawe yn arwain y Grŵp Ieuenctid LGBT+ 'GoodVibes' sy'n cefnogi pobl ifanc 11-25 oed. Mae GoodVibes yn darparu man diogel i bobl ifanc LGBT lle gallant feithrin perthnasoedd llawn ymddiriedaeth â gweithwyr a phobl ifanc eraill sy'n cael profiadau tebyg iddyn nhw'u hunain.
Mae hi wedi bod mor bwysig i ni ddod o hyd i ffordd o barhau i ddarparu'r gwasanaeth GoodVibes yn ystod Covid-19 ar gyfer y 62 o bobl ifanc sy'n ymgysylltu â'r gwasanaeth hwn bob wythnos. Rwyf hefyd yn darparu grŵp ieuenctid rhithiol bob dydd Iau a sesiynau un-i-un gydag unrhyw aelodau unigol sydd eu heisiau yn ystod ein slotiau amser un-i-un. Yn ogystal, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Llinell Gymorth LGBT+ Cymru fel rhan o'n prosiect Y-Connect, a gallwn hefyd atgyfeirio holl aelodau GoodVibes i wasanaeth cwnsela LGBT arbenigol.
Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar Brosiect o'r enw Alternative MX Wales sy'n caniatáu i bobl ifanc greu a dylunio eu trawsffurfiadau eu hunain.
Yr hyn rydym wedi'i gael yn anodd, fodd bynnag, yw er bod pobl ifanc yn ei chael hi'n anodd peidio â mynd i GoodVibes, mae llawer o bobl ifanc yn gyndyn o gymryd rhan yn y sesiynau grŵp ieuenctid rhithiol gan eu bod yn hunanymwybodol ac yn bryderus yn defnyddio'r cyfrwng hwn. Mae pobl ifanc yn ymateb ac yn dweud bod ganddynt ddiddordeb mewn mynychu'r grŵp ieuenctid rhithiol, ond nid ydynt yn ymuno ar yr amser a nodir. Rydym yn gwybod bod angen cymorth ar bobl ifanc gan fod cymhareb yr atgyfeiriadau rydym yn eu gwneud i gael gwasanaeth cwnsela gan Linell Gymorth LGBT+ Cymru wedi codi'n sylweddol 100%. Mae pobl ifanc yn dioddef trawma o golli anwyliaid ac yn teimlo'n unig ac ynysig. Felly, rydym yn canolbwyntio ar ddarparu cymorth caeedig un-i-un yn ystod y cyfnod hwn, yn ogystal â sesiynau Grŵp rhithiol a sesiynau Clwb caeedig.
Mae hyn yn gryn straen yn emosiynol gan fy mod i eisiau bod yn gefn i bob un ohonynt. Ni allaf fynd i gyfarfod â nhw wyneb yn wyneb er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn cael cefnogaeth. Rydym yn lwcus bod gennym ni ddull ymarfer myfyriol sydd wedi ennill ei blwyf, lle gallwn ni gefnogi ein gilydd yn wythnosol gyda'n cyfoedion a chydweithwyr, rhannu ein profiadau a rhoi help llaw i'n gilydd i ddod o hyd i atebion a llywio ein hymarfer gwaith ieuenctid.
Rydym hefyd yn ffodus bod gennym berthynas wych â Llinell Gymorth LGBT Cymru a darparwyr eraill sy'n gwneud gwaith gwych a gallwn ddysgu oddi wrth ein gilydd a chefnogi ein gilydd.
C: Beth sy’n wych am yr hyn rydych chi’n ei wneud a pha wahaniaeth mae’n ei wneud yn eich ardal?
Y peth gwych am Grŵp Ieuenctid LGBT+ Good Vibes yw'r diwylliant a’r naws y mae wedi'i feithrin iddo'i hun. Does dim ots pwy ydych chi na beth yw’ch problemau; mae'r grŵp yn eich croesawu chi a byddwch chi'n dod yn rhan o deulu GoodVibes cariadus. Maent yn grŵp creadigol a thalentog iawn o bobl ifanc sy'n gallu canu, dawnsio, gwneud gwaith celf anhygoel ac eirioli dros gydraddoldeb ac amrywiaeth.
C: Sut ydych chi’n rhoi’ch sgiliau ar waith:
Rwy'n rhoi fy sgiliau ar waith drwy barhau i ddarparu pob math o gymorth lle bo angen a chynllunio sesiynau creadigol a fydd yn gweddu i gynifer â phosibl o ddiddordebau ein haelodau er mwyn parhau i gysylltu â nhw ac, yn bwysicaf oll, ddarparu cyfleoedd lle gallant gysylltu â'i gilydd
Ym mhob rhifyn, byddwn yn taflu goleuni ar rai o’r gwahanol ddulliau neu weithgareddau gwaith ieuenctid sy’n digwydd y tu hwnt i Gymru
Gwirfoddoli ar draws y byd gydag UNA Exchange
Mae rhaglen European Solidarity Corps UNA Exchange yn cynnig profiadau gwirfoddoli tramor tymor byr a thymor hir gwych sydd wedi'u hariannu'n llawn i bobl ifanc rhwng 18 a 30 oed. Maent hefyd yn cynnig profiadau gwirfoddoli rhyngwladol mewn gwersylloedd gwaith i bawb, heb unrhyw gyfyngiad oedran.
Mae Abigail Hansford yn un o'r bobl ifanc a gymerodd ran yn y rhaglen hon ac fe'i lleolwyd ym Moldova, a ddisgrifir fel y wlad dlotaf yn Ewrop, sy'n ymdrin ag allfudo torfol. Crynhodd yr hyn a ddysgodd o'r profiad hwn fel a ganlyn:
- nid yw mudo byth yn ddewis a wneir ar chwarae bach;
- gallwch ganfod cymuned gyffredin (ond hynod) mewn lleoedd anodd, ond hardd; a
- bydd gwybodaeth am yr iaith leol a gwên bob amser yn ddefnyddiol!
Dysgwch fwy am brofiadau Abigail yma.
Rydym yn neilltuo lle i unigolion a sefydliadau rannu gwybodaeth gyda’u cymheiriaid ym mhob rhifyn.
Sesiwn Democratiaeth
Sut i gychwyn deiseb a pha gamau mae angen i chi eu cymryd i wneud newid. I bobl ifanc 11-25 oed ar Zoom gyda Steven Williams sy'n gweithio i Dîm Addysg ac Ymgysylltu'r Senedd yng Nghymru. Ddydd Mawrth 23 Mehefin am 3pm.
Cysylltwch ag: Egija Cinovska, egija@ymcaswansea.org.uk, 07946348878
Sesiynau cyflogadwyedd ar-lein
Mae’r Prince’s Trust Cymru yn lansio cyfres wythnosol newydd o sesiynau cyflogadwyedd ar-lein. Mae'r pynciau'n cynnwys defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, chwilio am gyfleoedd, ysgrifennu CV a gosod nodau, gyda chyfranogwyr yn derbyn tystysgrif ar ôl cwblhau'r sesiynau. Chwiliwch am 'Prince's Trust Cymru' ar Facebook, Twitter neu cysylltwch â ni i ddysgu mwy am ein cymorth i bobl ifanc.
|
|
|
|
|
New Normal
Mae Fio yn darparu gweithdai wythnosol i wneud cymariaethau rhwng pandemigau mewn gwaith creadigol. Bydd y bobl ifanc yn defnyddio eu dychymyg i gyfrannu at gyfres archifol llawn hwyl ar y we...trwy animeiddio!
Mwy o wybodaeth yma.
|
#FioPen2PaperChallenge
Mae Fio yn herio pobl ifanc i ysgrifennu llythyr. Pam? I hyrwyddo ymwybyddiaeth ofalgar all-lein! Mae hyn yn golygu dim negeseuon testun byr na negeseuon e-bost wedi'u hysgrifennu ar frys, ond gwneud pethau yn y ffordd draddodiadol. Byddwn yn ymateb i bob llythyr hefyd, felly ewch ati i ysgrifennu!
Mwy o wybodaeth yma.
|
|
|
Datblygu'r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru
Mae'r EWC wedi ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cymryd rhan yn ei holiadur am ddyfodol y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru. Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 30 Mehefin.
Ymunodd y gweithiwr ieuenctid Andy Borsden â'r EWC yn ddiweddar fel ei swyddog datblygu. Bydd yn gwneud cyfraniad allweddol o ran datblygu’r Marc Ansawdd.
Iechyd a Lles Meddyliol
Er mwyn cefnogi pobl ifanc yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi creu adnodd ar-lein sy'n hyrwyddo'r adnoddau digidol niferus a ddyluniwyd yn benodol i gefnogi pobl ifanc â'u hiechyd meddwl a'u lles emosiynol eu hunain. Mae Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn cysylltu pobl ifanc 11 i 25 oed â gwefannau, apiau, llinellau cymorth a mwy i feithrin gwydnwch a'u cefnogi drwy bandemig y coronafeirws a thu hwnt.
Mae'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl wedi cyhoeddi canllawiau ar gefnogi pobl sydd wedi profi digwyddiadau trawmatig
Gofalwyr ifanc
Mae'r Ymddiriedolaeth Gofalwyr wedi lansio arolwg newydd ar lefel y DU i gasglu safbwyntiau gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy'n ofalwyr (12 -25 oed) ledled y DU. Y nod yw casglu profiadau cadarnhaol a negyddol.
Gellir dod o hyd i'r fersiwn Gymraeg yma a'r fersiwn Saesneg yma. Bydd yr arolwg yn cau ar 23 Mehefin 2020.
Mae YMCA Caerdydd wedi darparu seibiant a gwasanaethau i Ofalwyr Ifanc ledled y ddinas ers 2009, ond mae partneriaeth gyffrous newydd gyda Chyngor Caerdydd wedi ffurfio! Bydd YMCA Caerdydd yn gweithio'n agos gyda Chyngor Caerdydd, gan dderbyn atgyfeiriadau o'r porth i #nodi, #ymgysylltu, #cefnogi a #grymuso Gofalwyr Ifanc Caerdydd.
Dewch o hyd i ni ar y cyfryngau cymdeithasol i ddysgu mwy am y prosiect:
- Instagram - @cardiffyoungcarers a @ymcacyc_robyn
- Twitter - @robyncymca_g
- Facebook – Cardiff Young Carers @ Cardiff YMCA
|
|
Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd
Ers 1922, mae'r Urdd wedi cynhyrchu neges Heddwch ac Ewyllys Da gyda'r nod o uno pobl ifanc y byd. Eleni, roedd y neges yn ymateb i bandemig y coronafeirws, gan rannu'r awydd i gael y byd i wrando a dysgu o'r argyfwng. Cafodd neges eleni ei rhannu fwy nag unrhyw neges arall yn hanes 98 mlynedd y neges flynyddol, gan gyrraedd dros 40 o wledydd, cael ei chyfieithu i dros 50 o ieithoedd a chyrraedd dros 15 miliwn o bobl drwy'r cyfryngau cymdeithasol.
|
Help a chefnogaeth i'r rhai sy'n dioddef, neu’n adnabod rhywun sy’n dioddef, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ystod yr argyfwng coronafeirws
Nod yr ymgyrch Ddylai neb deimlo'n ofnus gartre yw rhoi gwybod i'r rhai sy'n wynebu risg o gam-drin domestig, trais rhywiol a rheolaeth orfodol yn ystod y cyfnod hwn bod cymorth yn dal i fod ar gael 24 awr y dydd, bob dydd, drwy Byw Heb Ofn.
Gellir lawrlwytho holl ddeunyddiau'r ymgyrch (gan gynnwys jpegs, posteri ac asedau cyfryngau cymdeithasol) yma.
Sgiliau a chyflogadwyedd fydd ffocws arbennig y rhifyn nesaf o'r cylchlythyr. Cysylltwch ar e-bost (gwaithieuenctid@llyw.cymru) erbyn 2 Gorffennaf os ydych chi eisiau cyfrannu ato, ac fe wnawn ni ddarparu canllaw arddull ar gyfer cyflwyno erthyglau i ni, ynghyd â gwybodaeth am gyfanswm geiriau erthyglau ar gyfer y gwahanol adrannau.
Cofiwch ddefnyddio #GwaithIeuenctidCymru #YouthWorkWales wrth drydar er mwyn hybu proffil Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.
Ydych chi wedi tanysgrifio ar gyfer Bwletin Gwaith Ieuenctid? Cofrestrwch yn gyflym yma
|