Coronafeirws (COVID-19)
Aros yn lleol a diogelu Cymru:
- cadwch bellter cymdeithasol drwy'r amser
- golchwch eich dwylo'n rheolaidd
- os ydych yn cyfarfod un cartref arall, arhoswch tu allan ac arhoswch yn lleol
- gweithiwch o gartref os gallwch chi
Arhoswch gartref os oes gyda chi neu unrhyw un sy’n byw gyda chi symptomau.
Datganiad Taliadau Gwledig Cymru (RPW) ynghylch Coronafeirws (COVID-19)
Mewn ymateb i gyngor gan Lywodraeth y DU ac Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) ynghylch coronafeirws, mae Taliadau Gwledig Cymru wedi cyflwyno rhai newidiadau i rai o’i wasanaethau er mwyn gwarchod iechyd, diogelwch a lles staff a chwsmeriaid yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Bydd y newidiadau hyn yn helpu Taliadau Gwledig Cymru i sicrhau parhad gwasanaethau, cymorth a chyfarwyddyd ynghylch yr holl wahanol gynlluniau, rheolau a rheoliadau y maent yn eu gweinyddu. Daliwch i edrych ar y wefan am y wybodaeth ddiweddaraf.
COVID-19 (Coronafeirws) - Newyddion
Cymorth Cymunedol / Busnes
COVID-19 Gweithgareddau LEADER
COVID-19 Cylchlythyrau
Os oes unrhyw weithgareddau yn eich ardal i gefnogi cymunedau yn ystod y pandemig, anfonwch unrhyw wybodaeth at rhwydwaithgwledig@llyw.cymru
Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 - Ffenestri Cynllun
|
|
Mae’r Gronfa Busnesau Micro a Bychan (MSBF) yn gronfa fuddsoddi ar gael i brosiectau yn y sector twristiaeth yng Nghymru. Gellir ei ddefnyddio naill ai i ddiweddaru cynnyrch newydd o safon uchel neu i uwchraddio cynnyrch sy’n bodoli eisoes.
|
|
|
Mae’r cyfnod ar gyfer datganiadau o ddiddordeb yng Nghynllun Creu Coetir Glastir bellach ar agor. Mae’r dyddiad cau wedi ei ymestyn tan 31 Gorffennaf 2020. Bu nifer o newidiadau i’r broses ymgeisio ar gyfer Creu Coetir Glastir. Mae gwybodaeth bwysig am y newidiadau hyn ar gael ar ein wefan.
|
|
|
Mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws (COVID-19) presennol, mae’r dyddiad cau ar gyfer hawlio wedi cael ei estyn tan 30 Medi 2020. Rhaid i bob hawliad gael ei gyflwyno erbyn y dyddiad hwn.
|
|
|
Datblygu eich sgiliau, datblygu eich busnes . . . gyda Cyswllt Ffermio
- Mae cymhorthdal o hyd at 80% ar gael ar gyfer cyrsiau hyfforddiant fusnesau sydd wedi cofrestru
- Mae mwy na 80 o gyrsiau ar gael, dan gategorïau Busnes, Tir a Da Byw
- Rhwydwaith o ddarparwyr hyfforddiant, wedi’u lleoli ledled Cymru
|
Cymorth a Chefnogaeth i Ffermwyr yng Nghymru
|
|
Bydd ceisiadau ar gyfer y cynllun newydd i roi cymorth i’r diwydiant llaeth yng Nghymru yn agor ar 18 Mehefin, i gefnogi’r ffermwyr yr effeithiwyd fwyaf arnynt gan yr amodau eithriadol diweddar o fewn y farchnad oherwydd Covid 19.
|
|
|
Cymorth un-i-un cyfrinachol. Os ydych angen trafod unrhyw beth cysylltwch gyda un o’r swyddogion.
|
|
|
Gan weithio gyda Menter a Busnes, rydym yn ymgymryd â rhaglen gydlunio i gydweithio â ffermwyr i edrych ar rai o agweddau mwy ymarferol y cynigion a oedd yn rhan o’r ymgynghoriad Ffermio Cynaliadwy a’n Tir a gynhaliwyd y llynedd.
|
|
|
Mae menter i helpu ffermwyr Cymru gyda chadernid eu busnes a nhw eu hunain fel unigolion wedi cael ei lansio gan Grŵp Cymorth Ffermydd Cymru. Am ragor o wybodaeth ewch i farmwell.cymru.
|
Cynnydd yn lefel y porfa a borir gan fuches Holstein gyda pherfformiad llaetha uchel drwy reoli’r borfa’n fwy effeithiol
Llysgennad iechyd anifeiliaid newydd i brosiect Stoc+
Anna Truesdale, seren ‘Instagram’, yw un o brif atyniadau wythnos Merched mewn Amaeth Cyswllt Ffermio ar-lein (Mehefin 15 – 21)
Dosbarthiadau meistr mewn argyfwng i gynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru
Mae Cyswllt Ffermio yn benderfynol o estyn allan at ferched sy’n ffermio – y sbardun y tu ôl i nifer o fusnesau gwledig llwyddiannus yng Nghymru
Cymorth Cyllid Newydd
Diwrnod Amgylchedd y Byd – Arian newydd i natur yn helpu cymunedau i fraenaru’r tir ar gyfer y Gymru rydym am ei gweld ar ôl Covid-19 - I ddathlu Diwrnod Amgylchedd y Byd, mae Llywodraeth Cymru yn creu dwy gronfa newydd fydd yn helpu pobl ledled y wlad i greu lleoedd ar gyfer natur yn eu cymunedau, unwaith y cawn fynd heibio’r pandemig hwn.
|
|
Rydym wedi bod yn gwneud rhai newidiadau i’r hafan – ewch i’n gwefan i weld achosion yr wythnos ar gyfer diwrnodau ‘dathlu’ ac wythnosau fel
Coronafeirws
Os oes unrhyw weithgareddau yn eich ardal i gefnogi cymunedau yn ystod y pandemig, anfonwch unrhyw wybodaeth at rhwydwaithgwledig@llyw.cymru
|
|
|
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar newidiadau i'r canllawiau ar gyfer asesu effaith amonia a nitrogen o ddatblygiadau amaethyddol a bydd yn cau ar 31 Awst 2020.
|
|
|
Ar 31 Ionawr gadawodd y DU yr UE ac rydym nawr mewn cyfnod pontio; yn ystod y cyfnod hwn, ni fydd y ffordd yr ydych yn gwneud busnes gyda'r UE yn newid. Fodd bynnag, bydd angen i chi baratoi a gwneud newidiadau er mwyn parhau i wneud busnes ar ddiwedd y cyfnod pontio. Fe welwch yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar wefan Paratoi Cymru.
|
|
|
Edrychwch ar dros 50 o werthusiadau newydd gan yr Aelod-wladwriaethau ar LEADER/Datblygu Lleol a Arweinir gan y Gymuned, NRNau, Bioamrywiaeth, yr Amgylchedd, Hinsawdd, Band Eang, a llawer mwy!!!
Mae hyn yn cynnwys erthygl 'Focus on...' casgliad o arferion da i’w lledaenu a nifer o erthyglau.
Cynhaliwyd y Gweithdy Arfer Da a drefnwyd gan Linell Gymorth Gwerthuso Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig, ‘Rheoli data ar gyfer asesu effeithiau Cynllun Datblygu Gwledig’ ar 13-14 Mai, 2020 Ar-lein.
Mae Food Drink Europe yn casglu enghreifftiau o weithgareddau eu haelodau yn ystod cyfnod COVID-19.
(Saesneg yn Unig)
|
|
|
Dyddiad - 21 & 22 Medi Lleoliad – Yr Almaen
Dyddiad - 7 & 8 Hydref
Lleoliad - Portiwgal
|
Oes gennych newyddlen yn ymwneud â'r Cynllun Datblygu Gwledig?
Ydych chi eisiau i ni gynnwys dolen i’ch newyddlenni diweddaraf yn yr adran hon? E-bostiwch ddolen tanysgrifio at rhwydwaithgwledig@llyw.cymru a byddwn yn rhannu'ch straeon.
|