Y Gronfa Cadernid Economaidd; datganiad y Prif Weinidog ar dwristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

9 Mehefin 2020


Covid-19 Update

Y Gronfa Cadernid Economaidd – dod i wybod a yw eich busnes yn gymwys am gymorth o’r cam nesaf

Gall busnesau bellach ddod i wybod a ydynt yn gymwys i wneud cais am gymorth ariannol o gam nesaf Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru.

Mae’r gwiriwr cymhwysedd ar-lein wedi ail-agor heddiw a bydd busnesau yn gallu gwneud ceisiadau am gymorth o’r cam hwn o’r gronfa erbyn diwedd y mis.

Mae’r Gronfa wedi’i chynllunio i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol ac elusennau, nad ydynt yn gymwys am gynlluniau cymorth eraill Llywodraeth y DU.

Bydd cam nesaf y gronfa yn galluogi busnesau i gael mynediad at £10 miliwn yn ychwanegol o gymorth ariannol. Caiff ei dargedu at microfusnesau, BBaChau a busnesau mawr o bwysigrwydd economaidd hanfodol, sydd heb dderbyn cymorth hyd yma gan y Gronfa Cadernid Economaidd.

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

“Mae ein pecyn o gymorth ar gyfer busnesau o Gymru wedi bod yn hollol hanfodol i gefnogi miloedd o gwmnïau drwy’r cyfnod hynod anodd hwn.

“Mae bron £200 miliwn bellach wedi’i ddarparu i fusnesau o’r Gronfa Cadernid Economaidd gyda phob cais sydd wedi ei brosesu.

“Rydyn ni heddiw yn ail-agor ein gwiriwr cymhwysedd ar gyfer cam nesaf y cyllid. Bydd hyn yn rhoi amser i gwmnïau baratoi eu ceisiadau, cyn i’r gronfa ail-agor ar gyfer ceisiadau ar ddiwedd y mis.

“Mae’r mesurau yr ydyn ni wedi’u cymryd yn ychwanegol i’r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth y DU, gan wneud ein pecyn y pecyn mwyaf cynhwysfawr a hael yn y DU.

“Bydd y cam nesaf yn cyrraedd busnesau sydd heb dderbyn cyllid hyd yn hyn, ond rydym yn gwybod na fydd yn cyrraedd pawb sydd mewn angen. Rydyn ni’n gweithio’n broactif ar opsiynau pellach, ond mae’n amlwg bod angen i Lywodraeth y DU gamu i mewn a darparu’r cyllid mwy hirdymor ac ychwanegol sydd ei angen i fynd â busnesau Cymru drwy’r pandemig hwn.”

Bydd y cam diweddaraf hwn yn gweithredu yn yr un modd â’r cam cyntaf mwy neu lai ond gan ddiweddaru pwy sy’n gymwys ar gyfer y cynllun micro. Bydd hyn yn galluogi rhai cwmnïau cyfyngedig nad ydynt wedi cofrestru gyda TAW i gael mynediad at y gronfa, ar yr amod bod y meini prawf eraill yn cael eu bodloni.

Mae’n bosibl y bydd busnesau mawr, sydd wedi gweld gostyngiad o dros 60% mewn trosiant ers 1 Mawrth 2020 hefyd yn gymwys ar gyfer cyllid os ydynt yn bodloni amodau eraill. Mae £10 miliwn yn ychwanegol wedi bod ar gael drwy’r Gronfa Cadernid Economaidd i gefnogi cwmnïau mwy.

Hyd yma, mae bron £200 miliwn o gyllid y Gronfa Cadernid Economaidd wedi ei ddosbarthu i gwmnïau ledled Cymru, gan gefnogi ystod eang o fusnesau i ddelio gydag effaith y coronafeirws.

Mae hyn yn cynnwys elfen cynllun benthyca Banc Datblygu Cymru y gronfa, sydd wedi gweld dros £90 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn dros 1,300 o gwmnïau.

Mae’r gwaith yn parhau i ddatblygu rhagor o opsiynau i gefnogi’r busnesau hyn, nad ydynt wedi gallu derbyn cymorth hyd yn hyn, megis cwmnïau newydd sydd ddim yn gymwys ar gyfer Cynllun Cymorth Incwm Llywodraeth y DU i’r Hunangyflogedig.

Gwiriwch a ydych yn gymwys ar gyfer Cronfa Cadernid Economaidd COVID-19 – nodwch na fydd modd i chi gyflwyno cais arall os ydych eisoes wedi derbyn cymorth yn y cam cyntaf.


Datganiad y Prif Weinidog ar dwristiaeth

Yn dilyn yr erthygl newyddion ddiweddar gallwch weld ymateb Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.

Mae’r Prif Weinidog wedi pwysleisio’r ffaith bod y Llywodraeth hon yn llwyr ymrwymedig i wneud popeth posibl er mwyn cefnogi’r sector a sicrhau bod modd ailagor yn ddiogel ac yn raddol.

Mae’r adborth rydym wedi’i dderbyn gan y diwydiant twristiaeth wedi bod yn ddefnyddiol iawn ac wedi ein galluogi i’w gefnogi yn ystod y pandemig. Rydym yn ymwybodol iawn o’r pryderon a’r awydd i ailagor, ond ni fydd hynny ond yn bosibl pan fydd hi’n ddiogel. Rydym hefyd yn ymwybodol iawn o bryderon cymunedau a’u hawydd i sicrhau na fydd unrhyw beth yn achosi i’r coronafeirws ledaenu ymhellach.

Mae twristiaeth yn agwedd allweddol ar economi Cymru, a hynny ar lefel genedlaethol, rhanbarthol a lleol. Mae’n hanfodol felly ein bod yn parhau i gydweithio â’r diwydiant ac â chymunedau lleol er mwyn sicrhau bod twristiaeth yn ailddechrau’n ddiogel. Mae hyn yn cynnwys datblygu canllawiau a phrotocoliau manwl er mwyn cefnogi’r sector a diogelu’r gymuned, y staff ac ymwelwyr.


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram