Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

5 Mehefin 2020


bulletin image

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Mae’r sefyllfa’n datblygu’n gyflym. Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


Arfer Gorau ar weithio yn ddiogel

Hoffem ddiolch i bawb a ymatebodd i’r dogfennau ymgynghori drafft a anfonwyd allan gan aelodau y Ffora Twristiaeth Rhanbarthol yr wythnos hon.  Rydym yn sylweddoli bod y cyfnod i gynnig sylwadau yn fyr iawn, ac rydym yn gweithio’n gyflym i ddarparu canllawiau i’r sector.  Diolch am eich cymorth parhaus.


COVID-19 – Traciwr Ymddygiad Defnyddwyr

Fel a nodwyd yn ein bwletin yn gynharach yr wythnos hon, mae Croeso Cymru yn cydweithio gyda Visit Scotland a Visit England ar y traciwr ymddygiad defnyddwyr newydd hwn.  Mae’n canolbwyntio ar bobl sy’n byw ym Mhrydain ac yn asesu’r hyn y maent yn bwriadu’i wneud o ran gwyliau domestig ar gyfer gweddill 2020 a misoedd cynnar 2021. Bydd yr arolwg yn cael ei gynnal yn wythnosol am gyfnod o dri mis. Mae canlyniadau cam cyntaf y gweithgarwch ar gael ac maent yn ymdrin â:

  • Meddylfryd y genedl – ei fesur
  • Hyder defnyddwyr o ran cymryd seibiant byr/gwyliau, a phryd y maent yn debygol o gynllunio, archebu a chymryd unrhyw wyliau 
  • I ble yn y DU y byddant yn debygol o fynd, pa fath o lety y byddant yn ei ddefnyddio a sut y maent yn bwriadu teithio yno
  • Pa fathau o weithgareddau y maent yn debygol o ymgymryd â nhw yn y gyrchfan y byddant yn ei dewis

Bydd dadansoddiadau manylach ar gael bob mis ar gyfer Cymru.

Mae Visit Britain wedi diweddaru eu rhagolygon yn ddiweddar o ran teithio I’r DU yn 2020.  Mae’r data effaith ar y rhagdybiaethau diweddaraf i’w gweld ar wefan Visit Britain.

Mae’r model sylfaenol yn cynnwys data ar gyfer Cymru yn seiliedig ar yr un rhagdybiaethau sy’n dangos gostyngiad o 64% o ran ymweliadau i 369,000 a 67% mewn gwariant i £169 miliwn.


Ydych chi wedi diweddaru rhestriad eich cynnyrch?

Rydym wedi bod yn gweithio’n galed yn y cefndir i wella’r ffordd y caiff eich cynnyrch ei ddarparu drwy ein gwefan. A oeddech yn gwybod eich bod yn gallu lanlwytho delweddau ‘hero’, cynnwys fideo a chynnwys sawl dolen i’ch cyfryngau cymdeithasol a’ch gwefannau? Ewch i'r offeryn rhestru cynnyrch i ddiweddaru eich rhestriad ac i edrych am ein Bwletin Rhestru Cynnyrch yn yr wythnosau nesaf gyda mwy o wybodaeth a chymorth i wella eich cofnod. I elwa gymaint â phosibl ar eich rhestriad, edrychwch ar ein tudalen Gweithio Gyda Croeso Cymru sy’n nodi awgrymiadau ynghylch sut i greu rhestriad epig, lle gallwch lawrlwytho ein canllaw.  Cofiwch y gallwch fel rhan o’r rhestriad hwnnw gynnwys dolen yn uniongyrchol i’ch system archebu eich hunan.


Ken Skates Gweinidog yr Economi: ymrwymiad i’r sector twristiaeth

Ysgrifennodd Ken Skates Gweinidog yr Economi at y Daily Post yn ddiweddar ynghylch ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r sector twristiaeth.  Darllenwch gopi o destun yr erthygl dan sylw (Saesneg yn unig).


Cydnabod archebion a hysbysebu llety sydd ar gael

I egluro ymhellach, nid yw’n gyfreithlon cydnabod unrhyw archebion mewn perthynas ag arosiadau yn ystod unrhyw gyfnod pan fydd cyfyngiadau ar waith, ar hyn o bryd hyd at 18 Mehefin 2020, oni bai y gofynnir ichi ailagor gan yr Awdurdod Lleol neu weinidogion Cymru at ddibenion penodol.   

I’ch atgoffa, ni ddylai busnesau hysbysebu llety sydd ar gael yn ystod cyfnod pan fydd cyfyngiadau ar waith. Os ydych yn hysbysebu drwy wefannau trydydd partïon neu’r Asiantaethau Teithio Ar-lein, cymerwch yr amser i adolygu eich cynnwys ar y gwefannau hyn a diwygio’r llety sydd ar gael gennych yn ôl y gofyn.

Cewch dderbyn neu aildrefnu archebion sydd y tu allan i’r cyfnod hwn o gyfyngiadau; fodd bynnag, mae perygl y bydd y cyfyngiadau’n parhau i fod ar waith ar y dyddiad newydd a drefnir, a chi a’ch cwsmer fydd yn gyfrifol os yw’r trefniadau newydd yn methu. Bydd rhaid ichi sicrhau bod hyn yn glir wrth wneud unrhyw gontractau. Dyma rai Cwestiynau Cyffredin.


Canllawiau drafft ar gyfer cwmnïau yswiriant

Fel rhan o’u hymchwiliad I yswiriant tarfu ar fusnes yn gysylltiedig â’r Coronafeirws, mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) wedi cyhoeddi canllawiau drafft ar eu disgwyliadau o ran yswirwyr a chyfryngwyr yswiriant wrth ddelio gyda ceisiadau a chwynion ar gyfer polisïau tarfu ar fusnes yn ystod yr achos prawf.  Mae’r canllawiau yn tynnu sylw at y camau y dylai cwmnïau eu cymryd i: 

  • nodi goblygiadau posibl yr achos prawf ar eu penderfyniadau I wrthod hawliadau
  • rhoi’r wybodaeth I ddeiliaid polisïau ynghylch yr achos profi a’I oblygiadau I bolisïau, hawliadau ac unrhyw gynigion ar gyfer setliadau
  • trin deiliaid polisïau yn deg pan gaiff yr achos prawf ei ddatrys.  

Hefyd, maent wedi, darparu diweddariad ar ble y maent o ran eu hachos cyfreithiol – maent wedi edrych ar dros 500 o bolisïau perthnasol gan 40 o yswirwyr ac wedi nodi sampl o 17 geiriad polisi sy’n cynnwys mwyafrif y materion y gellid bod yn destun dadl – gan nodi amserlen ar gyfer yr achos llys sydd i ddechrau yn ail hanner mis Gorffennaf. 


Ysgolion yng Nghymru i ddechrau ar y cam nesaf: caiff gwyliau hanner tymor ei ymestyn i bythefnos

Bydd pob plentyn yn cael cyfle i “Ddod i’r Ysgol, Dal Ati i Ddysgu, Paratoi ar gyfer yr haf a mis Medi”, cyhoeddodd Kirsty Williams heddiw wrth iddi gyhoeddi manylion y cam nesaf i ysgolion yng Nghymru. 

Mae’n fwriad i bob ysgol ddechrau’r cam nesaf ar y 29 Mehefin, gyda’r tymor yn cael ei ymestyn am wythnos hyd at 27 Gorffennaf.

Yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf, sy’n dechrau ym mis Medi, y bwriad yw ymestyn hanner tymor mis hydref i bara am bythefnos.  Darllenwch fwy yng nghyhoeddiad Llywodraeth Cymru.


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).  Mae’r bwletinau diweddaraf isod:

  • 03 Mehefin Bwletin - Y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig a chadarnhau’r camau nesaf ar gyfer ffyrlo; Y Gronfa Cadernid Economaidd; COVID-19 – Traciwr Ymddygiad Defnyddwyr; Yswiriant Tarfu ar Fusnes; Profi, Olrhain, Diogelu: canllawiau i gyflogwyr; Canllawiau Arferion Gorau ar weithio’n ddiogel
  • 29 Mai: Aros yn lleol i ddiogelu Cymru: cyhoeddi newidiadau i’r cyfyngiadau symud
  • 28 Mai: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
  • 22 Mai: Cefnogi’r Diwydiant Twristiaeth wrth ofyn i ymwelwyr ‘Aros Gartref’
  • 21 Mai: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y newyddion diweddaraf ar gyfer y diwydiant twristiaeth drwy ein dilyn ar @CroseoCymruBus, a hefyd anogwch eraill a allai fod ar eu hennill i gael y newyddion diweddaraf drwy danysgrifio i’n cylchlythyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram