Cynnwys Bwletin - Y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig a chadarnhau’r camau nesaf ar gyfer ffyrlo; Y Gronfa Cadernid Economaidd; COVID-19 – Traciwr Ymddygiad Defnyddwyr; Yswiriant Tarfu ar Fusnes; Profi, Olrhain, Diogelu: canllawiau i gyflogwyr; Canllawiau Arferion Gorau ar weithio’n ddiogel
Estyn y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig a chadarnhau’r camau nesaf ar gyfer ffyrlo
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi’r newyddion diweddaraf am y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig a’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod Coronafeirws. Mae rhagor o fanylion ar wefan Busnes Cymru.
Cafodd y Gronfa Cadernid Economaidd, sy’n werth £500 miliwn, ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru er mwyn llenwi’r bylchau yn y cynlluniau cymorth a oedd wedi cael eu cyhoeddi eisoes gan Lywodraeth y DU. Mae’r cynlluniau hynny’n cynnwys y Cynllun Cadw Swyddi a’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig, a fydd yn gwarantu 80% o gyflogau ac incwm pobl.
Daeth bron 9,000 o geisiadau i law yn ystod wythnos gyntaf y Gronfa Cadernid Economaidd, pan oedd £300 miliwn ar gael. O’r herwydd, cafodd y Gronfa ei hatal dros dro er mwyn rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru ystyried pa gymorth arall sydd ei angen ar fusnesau, elusennau a mentrau cymdeithasol. Bydd yr ail gam yn dechrau’n fuan.
Cafodd cam nesaf y Gronfa Cadernid Economaidd, pan fydd £100 miliwn ar gael, ei gyhoeddi’n ddiweddar. Bydd y meini prawf ar gael ganol mis Mehefin gan roi amser i fusnesau baratoi cyn i’r gronfa agor ar gyfer ceisiadau ddiwedd mis Mehefin. Mae’n bwysig nodi y bydd Cam 2 yn dechrau pan fyddwn wedi cau’r cam cyntaf a dyna pam na allwn roi dyddiad penodol ar hyn o bryd.
O ran bod yn gymwys i gael cymorth o dan y Gronfa, bydd Cam 2 yn gweithio yn yr un ffordd â Cham 1 ond bydd y cynllun ar gyfer microfusnesau’n cael ei ddiweddaru, er mwyn i gwmnïau cyfyngedig nad ydynt wedi cofrestru at ddibenion TAW gael manteisio ar y Gronfa, ar yr amod eu bod yn bodloni’r meini prawf ehangach ar gymhwystra.
Ewch i wefan Busnes Cymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.
Mae Croeso Cymru yn cydweithio gyda Visit Scotland a Visit England ar draciwr ymddygiad defnyddwyr. Mae’n canolbwyntio ar bobl sy’n byw ym Mhrydain ac yn asesu’r hyn y maent yn bwriadu’i wneud o ran gwyliau domestig ar gyfer gweddill 2020 a misoedd cynnar 2021. Bydd yr arolwg yn cael ei gynnal yn wythnosol am gyfnod o dri mis. Mae canlyniadau cam cyntaf y gweithgarwch ar gael ac maent yn ymdrin â:
- Meddylfryd y genedl – ei fesur
- Hyder defnyddwyr o ran cymryd seibiant byr/gwyliau, a phryd y maent yn debygol o gynllunio, archebu a chymryd unrhyw wyliau
- I ble yn y DU y byddant yn debygol o fynd, pa fath o lety y byddant yn ei ddefnyddio a sut y maent yn bwriadu teithio yno
- Pa fathau o weithgareddau y maent yn debygol o ymgymryd â nhw yn y gyrchfan y byddant yn ei dewis
Bydd dadansoddiadau manylach ar gael bob mis ar gyfer Cymru.
Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) wedi cyhoeddi’r newyddion diweddaraf am yr achos cyfreithiol y mae’n ei ddwyn mewn perthynas ag yswiriant tarfu ar fusnes. Mae datganiad FCA i’r wasg i’w weld yma.
Profi, Olrhain, Diogelu yw cynllun Llywodraeth Cymru i brofi ac olrhain cysylltiadau a fydd yn helpu dinasyddion Cymru i ddychwelyd i'w bywydau bob dydd yn raddol ac yn ddiogel. Ewch i wefan Busnes Cymru i gael rhagor o wybodaeth.
Rydym wrthi’n ymgynghori, drwy’r Fforymau Twristiaeth Rhanbarthol, ar ganllawiau arferion gorau ar gyfer gweithio’n ddiogel yn yr economi ymwelwyr/y sector twristiaeth yn barod ar gyfer yr adeg y caiff y cyfyngiadau eu llacio. Dim ond pan fydd yn ddiogel gwneud hynny y bydd unrhyw gyfyngiadau’n cael eu llacio yng Nghymru, a dim ond yn unol â map ffordd Llywodraeth Cymru ar gyfer adfer yr economi Llacio'r cyfyngiadau ar ein cymdeithas a'n heconomi: dal i drafod.
Yn y cyfamser, mae amrywiaeth o gymorth ymarferol a chanllawiau ar gyfer cyflogwyr ar draws amryfal feysydd busnes i’w gweld yma − Diogelu Cymru yn y Gweithle: Ailddechrau ac ailagor busnes.
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|