Bwletin Gwaith Ieuenctid

COVID-19 Rhifyn Arbennig 5 - 28 Mai 2020

 
 

Gair gan ein Cadeirydd

Keith Towler

Llais Keith

Un o gryfderau mawr gwaith ieuenctid yw ei fod yn caniatáu i bobl ifanc gymryd rhan yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw. Gan adeiladu ar y cyfranogi hwn, mae pobl ifanc yn cael eu galluogi i ddod o hyd i’w llais, llunio a chyfleu eu syniadau, datblygu ymreolaeth, meithrin sgiliau, gwneud ffrindiau a chael hwyl. Mae’r egwyddor hon o gyfranogi yn sail i weithgaredd gwaith ieuenctid ac yn ei gwneud mor werthfawr i bobl ifanc. O ganlyniad, rwy’n falch iawn o gyflwyno bwletin sydd â ffocws arbennig ar gyfranogi. Hyd yn oed nawr, wrth ein gorfodi i weithio ar gyflymder anhygoel, rhaid i gyfranogi fod yn un o’r egwyddorion craidd sy’n parhau i arwain ein gwaith.

Fel y bydd llawer ohonoch yn gwybod, mae’r dull cyfranogol hwn hefyd yn rhywbeth rydym ni wedi’i ymestyn i ddatblygu a chyflawni ein Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru a’i Gynllun Gweithredu ategol. Wedi’i datblygu gyda phobl ifanc a chithau, y sector gwaith ieuenctid, mae wedi darparu gweledigaeth ar y cyd sydd wedi llywio ein holl waith ers yr haf diwethaf. Yn sgil ei chyflawni, rydym wedi sefydlu Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth ac Is-grwpiau ffocws arbennig sy’n cynnwys pobl ifanc, gweithwyr ieuenctid gwirfoddol a chyflogedig proffesiynol, a phartneriaid eraill. Gyda’i gilydd, maen nhw wedi cymryd perchnogaeth am gydweithio â’r sector i geisio cyflawni ein huchelgeisiau cyffredin ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Ond sut mae pethau erbyn hyn? Yn gynharach eleni, daethpwyd i’r penderfyniad anodd i atal gwaith y rhan fwyaf o’r grwpiau hyn dros dro. Cafodd hyn ei wneud er mwyn gwarchod capasiti aelodau’r grŵp i weithio’n uniongyrchol ar y rheng flaen fel rhan o ymateb gwaith ieuenctid i Covid-19, ac rwy’n parhau i fod yn arbennig o falch o’u hymdrechion nhw a’ch ymdrechion chi ar y cyd. Fodd bynnag, mae hyn yn golygu y bydd angen i’r Bwrdd edrych o’r newydd ar yr amserlenni ar gyfer cynhyrchu ein hargymhellion terfynol – wedi’r cyfan, gallai’n argymhellion ar un adeg edrych yn dra gwahanol unwaith y byddwn ni’n ystyried effaith Covid-19, ac yn adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd gan y sector wrth ymateb iddo.

Mae hefyd yn golygu ein bod ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar feddwl sut rydym yn cefnogi’r sector yn ystod yr amser tyngedfennol hwn. Gyda chefnogaeth yr Is-grwpiau Digidol a Marchnata, amlygwyd hyn gan y bwletinau mwy rheolaidd hyn gyda chynnwys a ddatblygwyd gan weithwyr ieuenctid a sefydliadau yng Nghymru. Ond rydym hefyd wedi bod yn cyfranogi mewn trafodaethau strategol ac, wrth weithio gyda’n partneriaid, rydym yn dechrau ystyried yn ddyfal sut dylai’r byd gwaith ieuenctid edrych wrth i ni weld ochr arall yr argyfwng iechyd cyhoeddus presennol a dechrau cynyddu gwaith gwasanaethau gwaith ieuenctid.

Gallwch fod yn sicr nad ar chwarae bach y byddwn yn ystyried y dasg hon ac na fyddwn yn rhuthro i weithredu. Rhaid pwyso a mesur yn ofalus cyn ailagor unrhyw ddarpariaeth gwaith ieuenctid wyneb yn wyneb, gan ystyried arweiniad cyffredinol a chyngor gwyddonol, a chydweithredu’n agos â gwasanaethau cyhoeddus eraill. Rhaid i Waith Ieuenctid barhau i gyfrannu at yr ymdrech a’r strategaeth genedlaethol i frwydro yn erbyn lledaeniad Covid-19, a rhaid i unrhyw gamau a gymerwn fod yn gyson â fframwaith cyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwneud penderfyniadau.

I wneud hyn i gyd, byddwn yn parhau i ddibynnu arnoch chi; mae eich gwybodaeth, eich profiad a’ch cyngor yn parhau’n hanfodol i’n gallu ni i lywio llong gwaith ieuenctid, yn cynnwys ymateb i Covid-19. Bydd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ni adfer peth o waith ein grwpiau cyfranogol dan arweiniad y sector pan fydd yr amser yn iawn. Ond, hyd yn oed cyn hynny, rhaid i ni’n gyntaf fynd yn ôl at ein hegwyddorion arweiniol a sicrhau cyfranogiad pobl ifanc yn ein dull strategol. Rydw i felly’n gobeithio rhoi diweddariad i chi i gyd yn fuan gyda’n cynlluniau ar gyfer gwneud yn union hynny.

Cadwch yn ddiogel.

Keith Towler

Llais y Person Ifanc

Byddwn yn siarad â pherson ifanc ym mhob rhifyn

Urdd

 

Gan Mared Edwards, Aelod ac Is-lywydd yr Urdd

Rwyf yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn astudio Cymraeg a Drama yn fy ail flwyddyn. Yn wreiddiol o Ynys Môn, rwyf wedi bod yn aelod o Fforwm Ieuenctid yr Urdd ers yn bymtheg mlwydd oed ac wedi elwa’n fawr iawn o’r profiad.

Bellach rwyf yn is-lywydd ar yr Urdd a dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod ddigon ffodus i gael swydd rhan amser fel Swyddog Ieuenctid i’r Urdd yng Ngheredigion. Fy mhrif ddyletswydd gyda’r swydd honno oedd bod yn gyfrifol o’r Fforwm Ieuenctid a llysgenhadon y Sir.

Felly, rwyf wedi cael profiad uniongyrchol o redeg fforwm a bod yn aelod.

Fy mhrofiad i

Bues yn gadeirydd o’r Fforwm ym Môn am flwyddyn a'r peth gorau am hynny oedd cael y cyfrifoldeb o gynnal yr holl gyfarfodydd a chael bod ynghlwm â’r holl drafodaethau. Un peth dwi’n credu sy’n bwysig mewn Fforwm yw cynnal etholiadau a dewis Cadeirydd, ysgrifennydd ayyb. Mae’n rhoi dyletswydd i ni, y bobl ifanc ac yn ffordd wych o ddatblygu sgiliau cydweithio a chyfathrebu.

Mae’n bwysig cadw’r cyfarfodydd yn anffurfiol.  I mi, y peth gorau am y cyfarfodydd oedd cael eistedd rownd bwrdd, yn bwyta pitsas a chreision efo fy ffrindiau yn trafod pethau a oedd yn berthnasol i’n hoedran ni; h.y Trefnu gigs, meddwl am ffyrdd o godi arian, dewis elusennau i’w cefnogi trwy’r flwyddyn.

Mae’n rhaid caniatáu i ni, y bobl ifanc wneud penderfyniadau dros eu hunain. Mae rhoi cyfle i bobl ifanc leisio eu barn ac efallai cynnal ambell i ddadl yn datblygu eu hyder a chredaf fod hynny mor bwysig ar gyfer eu dyfodol wrth gyfrannu at drafodaethau, yn enwedig yn y gweithle.

Profiad trefnu Fforwm

Fy niben i gyda’r Fforwm yng Ngheredigion oedd gwrando ar yr hyn roedd gan y fforwm i’w ddweud a cheisio eu cynorthwyo ar sut i fynd o gwmpas gwneud yr hyn yr oeddent yn dymuno. Cyn pob cyfarfod byddwn yn cysylltu gyda’r cadeirydd ac yn trafod beth hoffent nhw ei drafod ar yr agenda. Ambell dro mae gwahodd siaradwr gwadd neu drefnu cwrs byr megis cymorth cyntaf, gweithdy celf neu weithgareddau eraill yn ffordd dda o ychwanegu rhywbeth newydd, cyffrous yn ogystal â rhoi cyfleoedd ychwanegol i’r aelodau; ac yna plethu cyfarfod byr i mewn ar y diwedd a thrafod beth yr hoffent wneud y tro nesaf.

Credaf wrth drefnu gormod o gyfarfodydd byddai’n hawdd iddynt fynd ychydig yn ddiflas. Yn amlwg gyda chyfnod arholiadau rhwng mis Mai/Mehefin mae’n debygol iawn na fydd modd cynnal cyfarfodydd yn ystod yr adegau hynny. Efallai ar gyfer y cyfarfod olaf cyn cyfnod yr arholiadau y gallech drafod ffyrdd gwahanol o adolygu a sut i ymlacio a phwysleisio pa mor bwysig yw siarad gyda’i ffrindiau os ydynt yn cael trafferth.

I mi dyma’r pethau wnaeth fy annog i barhau gyda’r Fforwm, mwynhau’r cyfarfodydd a gwneud y mwyaf o bob cyfle.

Ffocws Arbennig : Cyfranogi

Rydym yn canolbwyntio ar thema benodol ym mhob bwletin. Yn y rhifyn hwn rydym yn canolbwyntio ar Gyfranogi.

Cyfranogiad Ieuenctid yn ystod yr Argyfwng Covid – myfyrdodau gan Rhiannon Bennett a Maisy Evans (cynrychiolydd Torfaen ar Senedd Ieuenctid Cymru).

Mae Erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn datgan fod hawl gan bobl ifanc i fynegi barn ar faterion sydd o bwys iddyn nhw. Mae cyfranogi yn hanfodol yn ystod y cyfnod ansicr hwn er mwyn i bobl ifanc ddod yn ymwybodol o’r argyfwng Covid-9, ac i ddeall y penderfyniadau a wneir gan y Llywodraeth mewn perthynas ag ef. Drwy weithio gyda phartneriaid, mae Cyngor Torfaen yn gallu rhannu negeseuon allweddol gyda phobl ifanc, a’u hannog i gyfranogi mewn trafodaethau i sicrhau bod y negeseuon hynny’n cael eu deall. Gwelwyd enghreifftiau gwych trwy Swyddfa Gwent Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, ble mae pobl ifanc wedi creu negeseuon #ArhoswchmewnermwynGwent i’w rhannu gyda’u cyfoedion. Mae gweithredu o dan arweiniad ieuenctid fel hyn yn anfon neges bwerus i eraill. Mae’r cynnydd mewn ymgysylltiad ieuenctid ar-lein hefyd wedi cynnig cyfleoedd sylweddol i ymgysylltu â grwpiau ehangach o bobl ifanc.

Yn ystod y cyfnod heriol hwn, mae’n rhaid teilwra ein ffyrdd o weithio ar gyfer anghenion unigol, ac mae hynny’n her ynddo’i hun. Mae disgwyl i bobl ifanc weithio mewn ffyrdd newydd, sy’n gofyn am sgiliau newydd. Mae gofyn i Weithwyr Ieuenctid gefnogi pobl ifanc mewn ffyrdd nad oes neb yn eu deall yn iawn – y cwestiwn yw; faint o gefnogaeth allwch chi ei chynnig ar yr adeg hon ac yn bwysicach fyth, sut? Gyda Covid-19 yn cael effaith uniongyrchol ledled y wlad, mae’n hollbwysig bod athrawon a Gweithwyr Ieuenctid yn ymgysylltu â phob unigolyn y mae modd iddyn nhw’u cyrraedd. Gall y dulliau o wneud hynny gynnwys; defnyddio technoleg, yn cynnwys cyfryngau cymdeithasol. Yn ddigon dealladwy, efallai na fydd hyn yn bosibl i bawb ac felly’r dulliau allweddol o ymgysylltu â phobl ifanc yn ystod y cyfnod hwn yw amynedd a dealltwriaeth. Byddwch yn amyneddgar wrth weithio gyda phobl ifanc oherwydd mae’n bosibl nad yw’n hawdd iddyn nhw gael gadael ar adnoddau yn gyson. Mae’n bwysig eich bod chi’n deall sut maen nhw’n cael eu heffeithio.

Mae Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol dros Blant a Phobl Ifanc (Cymru) yn gyfres o 7 safon sy’n nodi beth ddylai plant a phobl ifanc ddisgwyl gan y gwasanaethau maen nhw’n eu defnyddio. Er mwyn gallu cyfranogi’n effeithiol, mae angen i wasanaethau weithredu systemau, prosesau a chyfleoedd i bobl ifanc ddweud eu dweud ac yn hanfodol, sicrhau bod eu barn yn cael ei chlywed. Mae’r Safonau’n seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), sy’n rhoi cyfranogiad plant wrth wraidd gwella llesiant. Gwasanaeth Addysg Torfaen yw’r Gwasanaeth Addysg Awdurdod Lleol cyntaf yng Nghymru i dderbyn Nod Barcud Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc, sy’n golygu eu bod wedi gwireddu pob un o’r 7 Safon Cyfranogiad. Cymeradwyir y Nod Barcud gan Lywodraeth Cymru. I gyflawni’r Nod Barcud, yn gyntaf mae’n rhaid i wasanaeth gyflawni hunanasesiad a chael ei archwilio gan dîm o Arolygwyr Ifanc hyfforddedig.

Mae adnoddau hynod ddefnyddiol ar gyfranogiad ar gael yma.

Ym Mhedwar Ban Byd

Ym mhob rhifyn, byddwn yn taflu goleuni ar rai o’r gwahanol ddulliau neu weithgareddau gwaith ieuenctid sy’n digwydd y tu hwnt i Gymru.

Yn Lloegr yn ddiweddar, cyhoeddodd yr Asiantaeth Ieuenctid Genedlaethol adroddiad Out of Sight?, sy’n tynnu sylw at raddfa anghenion pobl ifanc yn ystod y pandemig.

Yn yr Alban, mae Senedd Ieuenctid yr Alban, YouthLink Scotland a Young Scot wedi cynhyrchu adroddiad Lockdown Lowdown sy’n nodi teimladau pobl ifanc ynghylch Covid-19.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Gogledd Iwerddon wedi cyhoeddi erthygl am effaith Covid-19 ar bobl ifanc yn ddiweddar.

Ydych chi wedi clywed?

Rydym yn neilltuo lle i unigolion a sefydliadau rannu gwybodaeth gyda’u cymheiriaid ym mhob rhifyn.

Ar 13 Mai, lansiodd Llywodraeth Cymru ‘Coronafeirws a fi‘, holiadur i geisio cael barn plant a phobl ifanc am y Coronafeirws. Caeodd yr arolwg ar 27 Mai, ac erbyn 21 Mai roedd mwy na 20,000 o blant a phobl ifanc wedi ymateb iddo. Rydym yn edrych ymlaen at y dadansoddiad manwl a ddaw yn sgil yr arolwg hwn.

Mae Cerdd Gymunedol Cymru wedi bod yn creu fideos byr ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau cerddorol, yn cynnwys; sut i ysgrifennu rap, dechrau ar yr iwcalele, sgiliau drymio sylfaenol a mwy. Mae fideos newydd yn cael eu rhyddhau bob dydd Mercher am 1pm. Mae’r fideos hyn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd am roi cynnig ar hobi cerddorol newydd – edrychwch arnyn nhw ar YouTube neu Facebook @CommunityMusicWales

Community Music Wales
CWVYS

Mae Cyfarfodydd Zoom Rhanbarthol yn ceisio darparu gofod cefnogol i’r sector allu:

  • cadw mewn cysylltiad â’i gilydd
  • canolbwyntio ar themâu allweddol e.e. hyfforddiant, cyllido, gwarchod
  • cefnogi a rhannu gwybodaeth
  • cyfleu pryderon a materion o bwys y sector i eraill
  • cael ychydig bach o hwyl

Bydd y thema ar gyfer y gyfres nesaf o gyfarfodydd yn canolbwyntio ar baratoi ar gyfer Wythnos Gwaith Ieuenctid (23 – 30 Mehefin) a chyllido. Mae’r dyddiadau fel a ganlyn:

  • Canol y De a’r De-ddwyrain – 28/5/20 – 10am tan 11am
  • Y Gogledd – 29/5/20 10am tan 11am
  • Y De-orllewin a’r Canolbarth – 29/5/20 1pm tan 2pm

Cysylltwch â Catrin James (catrin@cwvys.org.uk) i dderbyn y manylion ymaelodi i ymuno â’r cyfarfod yn eich rhanbarth.

NYAS

Mae NYAS Cymru wedi cyhoeddi adroddiad manwl i effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc â phrofiad gofal ledled Cymru, sy’n crynhoi safbwyntiau a thystiolaeth a gasglwyd gan blant a phobl ifanc.

Bydd yr Ysgol Haf Rhithwir Arweinyddiaeth Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Gyfan ar gael o 22-26 Mehefin ar wefan Academi Wales. Mae hyn ar gael yn rhad ac am ddim i gydweithwyr o bob rhan o'r sector cyhoeddus a’r trydydd sector ac mae wedi cael ei gynllunio i gefnogi ein hanghenion arweinyddiaeth a dysgu yn y sefyllfa bresennol. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.

Academi

Mae gwasanaethau cwnsela awdurdodau lleol yn parhau i gynnig cefnogaeth i blant a phobl ifanc o bell, naill ai gan ddefnyddio gwasanaethau ffôn neu drwy ddarpariaeth ar-lein a thrwy ddarparu adnoddau y gall pobl ifanc gael gafael arnyn nhw o bell. Mae manylion cyswllt ar gyfer cael gafael ar gwnsela yn yr ysgol a’r gymuned ar gael yma.

Mae posteri bellach ar gael ar Hwb, yn ymwneud â pherthnasoedd iach a diogel, wedi’u hanelu at bobl ifanc. Mae poster wedi’i anelu at rieni ar gael hefyd, yn ymwneud â cham-drin rhieni gan arddegwyr.

NSPCC

Mewn cyfnod o gyfyngiadau symud, mae’r cartref yn fwy peryglus nag erioed i rai plant, yn anffodus. Mae’r NSPCC yn cynnal ymgyrch genedlaethol, gan atgoffa oedolion i gysylltu â nhw os oes ganddyn nhw bryderon am blant. Os hoffech fwy o wybodaeth am sut gallai eich sefydliad gefnogi’r ymgyrch yng Nghymru, cysylltwch â Vivienne.laing@NSPCC.org.uk.

BBC Wales

I gloi, yn dilyn galwad y BBC i ddathlu a chydnabod Arwyr Cymreig sy’n gwneud gwahaniaeth yn ystod y pandemig, mae’r Gweinidog Addysg wedi trydar neges o ddiolch, gan gyfeirio at waith y gwasanaethau ieuenctid fel rhan o’r neges honno.

Byddwch yn Rhan o Daflen Newyddion Gwaith Ieuenctid

Wythnos Gwaith Ieuenctid fydd ffocws arbennig y daflen newyddion nesaf. Cysylltwch ar e-bost gwaithieuenctid@llyw.cymru os ydych chi eisiau cyfrannu ato, ac fe wnawn ni ddarparu canllaw arddull ar gyfer cyflwyno erthyglau, ynghyd â gwybodaeth am gyfanswm geiriau erthyglau ar gyfer y gwahanol adrannau.

Cofiwch ddefnyddio #GwaithIeuenctidCymru #YouthWorkWales wrth drydar er mwyn hybu proffil Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Ydych chi wedi tanysgrifio ar gyfer Bwletin Gwaith Ieuenctid? 
Cofrestrwch yn gyflym yma

 
 
 

AMDANOM NI

E-gylchlythyr bob pythefnos yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth i'r sector gwaith ieuenctid yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus presennol.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

beta.llyw.cymru/gwaith-ieuenctid-ac-ymgysylltu


Cysylltwch â ni:

gwaithieuenctid@llyw.cymru

Dilyn ar-lein: