Aros yn lleol i ddiogelu Cymru: cyhoeddi newidiadau i’r cyfyngiadau symud

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

29 Mai 2020


Coronavirus

Aros yn lleol i ddiogelu Cymru: cyhoeddi newidiadau i’r cyfyngiadau symud

Mae cynlluniau i ganiatáu i deuluoedd a ffrindiau gyfarfod yn yr awyr agored wedi eu datgelu gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford. Daw hyn wrth i’r rheoliadau llym ar aros gartref yn ystod pandemig y coronafeirws gael eu llacio yng Nghymru.

O ddydd Llun, bydd aelodau o ddwy wahanol aelwyd yn yr un ardal leol yn gallu cyfarfod yn yr awyr agored. Wrth wneud hynny, fodd bynnag, mae’n rhaid i bobl ddilyn arferion llym o ran cadw pellter cymdeithasol a golchi dwylo, i reoli lledaeniad y feirws.

Yn gyffredinol mae lleol yn golygu peidio â theithio mwy na phum milltir o’ch cartref, i leihau’r risg y bydd y coronafeirws yn lledaenu o ardal i ardal.

Mae’r newidiadau yn golygu y gall pobl gyfarfod ag aelodau o aelwyd wahanol yn yr awyr agored yn ei hardal leol ond bydd yr holl reolau eraill i ddiogelu pobl rhag y coronafeirws yn parhau ar hyn o bryd.

Mae cyfarfod yn yr awyr agored yn allweddol gan fod y dystiolaeth wyddonol yn dweud wrthym nad yw’r feirws ond yn goroesi am funudau yn yr awyr agored ond ei fod yn goroesi am oriau ar arwynebau o dan do.

Mae’r newidiadau yn dilyn y trydydd adolygiad statudol o’r rheoliadau gan Weinidogion Cymru. Mae’r adolygiad yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf gan y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) a chyngor Prif Swyddog Meddygol Cymru.

Mae Cymru wedi pasio’r brig cyntaf yn nifer yr achosion o’r haint ac mae’r cyfraddau’n gostwng ond mae’r gyfradd R yn parhau ar 0.8. Mae SAGE a Sefydliad Iechyd y Byd wedi cynghori na ddylai newidiadau ond gael eu gwneud un cam ar y tro.

Dysgwch fwy a darllenwch y manylion: Aros yn lleol i ddiogelu Cymru: cyhoeddi newidiadau i’r cyfyngiadau symud.

Gallwch hefyd weld y Datganiad Ysgrifenedig: Adolygu’r Cyfyngiadau a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020.


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram