Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

28 Mai 2020


bulletin image

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Mae’r sefyllfa’n datblygu’n gyflym. Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


Ymateb gwerth £2.4 biliwn gan Lywodraeth Cymru i COVID-19, gan gynnwys £640 miliwn i fusnesau

Mae’r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans wedi nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i neilltuo mwy na £2.4 biliwn i argyfwng y coronafeirws pan gyhoeddwyd y gyllideb atodol ddoe.

Mae’r ymdrech ariannol sylweddol yma nid yn unig wedi darparu £750miliwn i gyllido ymateb ein GIG a’r gwasanaethau cyhoeddus, helpu i gyflenwi cyfarpar diogelu personol, buddsoddi mewn profi ac olrhain a recriwtio ar gyfer y GIG, ond mae wedi helpu hefyd i ddarparu’r pecyn cefnogi busnesau haelaf yn y DU.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod mwy na 52,000 o grantiau, sy’n gyfanswm o £640miliwn, wedi’u talu i fusnesau yng Nghymru, sydd hefyd yn elwa ar ryddhad ardrethi drwy’r pecyn gwerth £1.4biliwn a gyhoeddwyd ym mis Mawrth.

Mae’r Gweinidog Cyllid hefyd wedi galw ar Lywodraeth y DU i lacio’r rheolau ariannol llym sy’n cyfyngu ar allu Llywodraeth Cymru i gyfeirio mwy o adnoddau er mwyn ymateb i COVID.

Darllenwch fwy yma: Ymateb gwerth £2.4 biliwn gan Lywodraeth Cymru i COVID-19, gan gynnwys £640 miliwn i fusnesau.


Cynllun grantiau COVID-19 sy’n gysylltiedig ag ardrethi annomestig

Bydd cynllun grantiau Covid-19 sy’n gysylltiedig ag ardrethi annomestig yn cau i geisiadau newydd am 5pm ar 30 Mehefin 2020. Darllenwch fwy am gau’r cynllun grantiau sy’n gysylltiedig ag ardrethi annomestig.


Y Diweddaraf am Farchnata:

Ydych chi wedi diweddaru rhestriad eich cynnyrch?

Rydym wedi bod yn gweithio’n galed yn y cefndir i wella’r ffordd y caiff eich cynnyrch ei ddarparu drwy ein gwefan. A oeddech yn gwybod eich bod yn gallu lanlwytho delweddau ‘hero’, cynnwys fideo a chynnwys sawl dolen i’ch cyfryngau cymdeithasol a’ch gwefannau?

Ymwelwch â'r offeryn rhestru cynnyrch i ddiweddaru eich rhestriad ac i edrych am ein Bwletin Rhestru Cynnyrch yn yr wythnosau nesaf gyda mwy o wybodaeth a chymorth i wella eich cofnod.

I elwa gymaint â phosibl ar eich rhestriad, edrychwch ar ein dudalen Gweithio Gyda Croeso Cymru sy’n nodi awgrymiadau ynghylch sut i greu rhestriad epig, lle gallwch lawrlwytho ein canllaw.


MeetGB Virtual 

Eleni, bydd digwyddiad cyfarfodydd, mentrau, cynadleddau ac arddangosfeydd (MICE) blynyddol MeetGB yn cael ei gynnal fel digwyddiad addysgol rhithwir ar 17 a 23 Mehefin 2020.

Bydd MeetGB Virtual, mewn partneriaeth gyda Meet In Wales, VisitBritain, MeetEngland, digwyddiadau busnes VisitScotland, Tourism Northern Ireland a’r London Convention Bureau yn gweld prynwyr rhyngwladol o bedwar ban byd yn cysylltu ar-lein i ddarganfod y cyfleoedd amrywiol ar gyfer digwyddiadau busnes ledled y DU. Darllenwch fwy am MeetGB Virtual.


Un bleidlais arall sydd ei hangen ar Gymru i gynnal digwyddiad coginio byd-eang yn 2024

Dim ond un bleidlais arall sydd ei angen ar Gymru i ddod â’r byd coginio i’r genedl yn 2024 drwy gynnal y Worldchefs Congress and Expo.

Yn dilyn buddugoliaeth anhygoel yn y rownd gyntaf a sicrhau ei bod hyd yn oed mwy ar y blaen yn yr ail rownd, mae angen i Gymru ennill y drydedd rownd, sef y rownd derfynol yn erbyn Singapôr ym mis Gorffennaf neu Awst i gynnal Worldchefs Congress and Expo 2024 yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC Cymru), Casnewydd. Mae’r digwyddiad coginio pwysig hwn yn denu tua 1,000 o gogyddion a rhwng 5,000 a 10,000 o ymwelwyr o bedwar ban byd.

Mae’r ymgais wedi’i fabwysiadu gan Dîm Cymru, gyda Chymdeithas Coginio Cymru (CAW) a gefnogir gan ICC Cymru, Gwesty’r Celtic Manor a Llywodraeth Cymru.

Darllenwch yn llawn: Un bleidlais sydd ei hangen ar Gymru i gynnal digwyddiad coginio byd-eang yn 2024.


Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod yr adeg anodd, ddigynsail hon, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).  Mae’r bwletinau diweddaraf isod:

  • 15 Mai: Llacio'r cyfyngiadau ar ein cymdeithas a'n heconomi: cyhoeddi map ffordd Cymru
  • 15 Mai: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
  • 13 Mai: Rheoliadau Coronafeirws, y Cynllun Cadw Swyddi, y Gronfa Cadernid Economaidd, Podlediad Busnes Cymru: Twristiaeth
  • 06 Mai: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
  • 01 Mai: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y newyddion diweddaraf ar gyfer y diwydiant twristiaeth drwy ein dilyn ar @CroseoCymruBus, a hefyd anogwch eraill a allai fod ar eu hennill i gael y newyddion diweddaraf drwy danysgrifio i’n cylchlythyr.

HomepageFacebookTwitterInstagram