We only use cookies that are necessary for this site to function to provide you with the best experience. The controller of this site may choose to place supplementary cookies to support additional functionality such as support analytics, and has an obligation to disclose these cookies. Learn more in our Cookie Statement.
Newyddlen Bwyd a Diod Cymru - Mai 2020
Mai 2020 • Rhifyn 015
Newyddlen Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru
Mewn ymateb i COVID-19, mae Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru wedi creu cylchlythyr sy’n crynhoi’r wybodaeth a’r cymorth diweddaraf sydd ar gael i fusnesau bwyd a diod yng Nghymru yn ystod y pandemig ac a fydd ar gael yn ystod y cyfnod adfer ar ei ôl. Mae’n ymdrin â materion ac atebion sy’n gysylltiedig â sectorau penodol ac mae ynddo hefyd erthyglau a gwybodaeth sy’n berthnasol i’r diwydiant bwyd a diod, ynghyd ag erthyglau wythnosol ar safbwyntiau’r diwydiant.
Cafodd y Bwrdd, sy’n un annibynnol, ei greu er mwyn rhoi llais i’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, gan bennu cyfeiriad ar ei gyfer, annog busnesau i rwydweithio ac i rannu gwybodaeth, a chynnig cyngor i Weinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru.
Mae’r cylchlythyr wedi cael ei gyhoeddi’n rheolaidd yn ystod y pandemig COVID-19, ac mae’r rhifynnau cynharach i’w gweld ar Twitter, LinkedIn a thudalen y Bwrdd ar y we.
Rydych wedi nodi yn y gorffennol eich bod yn awyddus i gael cylchlythyr Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru ac rydym yn rhoi gwybod ichi am gylchlythyr y Bwrdd oherwydd ein bod yn teimlo y gallai fod o ddiddordeb ichi, yn enwedig yn ystod yr argyfwng sydd ohoni. Os hoffech gael y cylchlythyr, dylech nodi hynny gan ddefnyddio’r ddolen isod. Bydd angen ichi roi’ch cyfeiriad e-bost a byddwch wedyn yn gallu rheoli’ch tanysgrifiadau ar gyfer newyddion a hysbysiadau Llywodraeth Cymru.