Cefnogi’r Diwydiant Twristiaeth wrth ofyn i ymwelwyr ‘Aros Gartref’

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

22 Mai 2020


Coronavirus

Cefnogi’r Diwydiant Twristiaeth wrth ofyn i ymwelwyr ‘Aros Gartref’

Gyda Gŵyl Banc arall yn prysur nesáu, mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth, a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi bod yn annog pobl i aros gartref ac aros yn lleol.

Dywedodd y Gweinidog: “Er bod hynny’n mynd yn groes i’n natur groesawgar, rydyn ni wedi bod yn gofyn i bobl aros gartref. Bydden ni wedi bod wrth ein boddau’n gweld pobl yn dod yma i fwynhau ein golygfeydd prydferth a’n hatyniadau gwych, ond er mwyn diogelu ein GIG a phobl ein neges yw ‘arhoswch gartref’.

“Rydyn ni’n ymwybodol iawn o’r effaith mae’r coronafeirws yn ei chael ar ein sector twristiaeth a lletygarwch. A gan fod y diwydiant yn parhau i fod ar gau i helpu i atal y feirws rhag lledaenu, rydyn ni’n gwneud popeth yn ein gallu i helpu’r diwydiant yn yr adeg hynod anodd hon.”

Yr wythnos hon cyhoeddodd y Gweinidog y bydd y gwirydd cymhwysedd ar gyfer y Gronfa Cadernid Economaidd ar gael ar gyfer ceisiadau newydd erbyn canol mis Mehefin, gan roi amser i gwmnïau baratoi eu ceisiadau. Bydd hyn yn galluogi mynediad at y £100 miliwn sydd ar ôl o’r £300 miliwn sydd wedi cael ei gymeradwyo a’i ddyrannu i gefnogi microfusnesau, busnesau bach a chanolig a busnesau mawr. 

Bydd Cam 2 o’r Gronfa yn gweithredu yn yr un modd â Cham, ond mae’r cynllun ar gyfer microfusnesau wedi cael ei ddiweddaru. Bydd hyn yn galluogi cwmnïau cyfyngedig nad ydynt wedi eu cofrestru ar gyfer TAW gael mynediad at y Gronfa – rhywbeth mae llawer o fusnesau bach, yn enwedig y rhai yn y sector lletygarwch, wedi bod yn gofyn amdano. 

 “Mae ein diwydiant twristiaeth yn rhan sylfaenol o’n heconomi ac yn chwarae rhan bwysig mewn llawer o gymunedau ledled Cymru. Mae llawer o fusnesau wedi addasu i helpu eu cymunedau a’r GIG – drwy roi llety i weithwyr allweddol neu bobl sy’n agored i niwed, neu redeg cynlluniau dosbarthu bwyd ar gyfer ysbytai lleol. 

“Er bod yr argyfwng wedi bod yn ergyd drom i’r sector, mae’n wych gweld bod natur groesawgar a gofalgar y diwydiant yn parhau i fod yn amlwg – hyd yn oed yn y dyddiau anodd hyn.”

Pwysleisiodd y Gweinidog yr wythnos hon mai’r pecyn cymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig yw’r pecyn mwyaf hael i fusnesau unrhyw le yn y DU, gan gynnwys:

  • Benthyciadau gwerth £100 miliwn i dros 1,000 o fusnesau drwy Fanc Datblygu Cymru;
  • Cynllun grantiau gwerth £400 miliwn gan y Gronfa Cadernid Economaidd – derbyniwyd dros 9,500 o geisiadau yn ystod Cam 1 y cynllun, gyda dros 6,000 o gynigion gwerth dros £100 miliwn eisoes wedi eu gwneud;
  • Cymorth grant ar sail ardrethi annomestig ar gyfer busnesau bach a busnesau sy’n gweithio yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, gyda 51,100 o grantiau gwerth dros £626 miliwn wedi eu dyfarnu hyd yn hyn.
  • Cyfanswm y pecyn yw £1.7 biliwn – sef 2.7% o’r cynnyrch domestig gros.

I gloi dywedodd y Gweinidog: “Nid yw’r rheolau yn newid oherwydd yr Ŵyl Banc. Byddai codi’r cyfyngiadau nawr yn cynyddu’r risg o ledaenu’r feirws, a byddai hynny’n rhoi rhagor o fywydau mewn perygl ac yn peri problemau a chaledi ar gyfer ein heconomi ymwelwyr yn y tymor hirach. Gyda’r diwydiant, dw i’n edrych ymlaen at groesawu pobl i Gymru unwaith eto – ond rhywbryd yn y dyfodol, dim ar hyn o bryd.”


Cydnabod archebion a hysbysebu llety sydd ar gael

I egluro ymhellach, nid yw’n gyfreithlon cydnabod unrhyw archebion mewn perthynas ag arosiadau yn ystod unrhyw gyfnod pan fydd cyfyngiadau ar waith, ar hyn o bryd hyd at 28 Mai 2020, oni bai y gofynnir ichi ailagor gan yr Awdurdod Lleol neu weinidogion Cymru at ddibenion penodol.   

I’ch atgoffa, ni ddylai busnesau hysbysebu llety sydd ar gael yn ystod cyfnod pan fydd cyfyngiadau ar waith. Os ydych yn hysbysebu drwy wefannau trydydd partïon neu’r Asiantaethau Teithio Ar-lein, cymerwch yr amser i adolygu eich cynnwys ar y gwefannau hyn a diwygio’r llety sydd ar gael gennych yn ôl y gofyn.

Cewch dderbyn neu aildrefnu archebion sydd y tu allan i’r cyfnod hwn o gyfyngiadau; fodd bynnag, mae perygl y bydd y cyfyngiadau’n parhau i fod ar waith ar y dyddiad newydd a drefnir, a chi a’ch cwsmer fydd yn gyfrifol os yw’r trefniadau newydd yn methu. Bydd rhaid ichi sicrhau bod hyn yn glir wrth wneud unrhyw gontractau. Dyma rai Cwestiynau Cyffredin.


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram