Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

21 Mai 2020


bulletin image

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Mae’r sefyllfa’n datblygu’n gyflym. Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd am yr ymateb i’r coronafeirws

Ar 20 Mai 2020, gwnaeth  Ken Skates MS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd ddatganiad llafar lle dywedodd:

“Mae’r gwaith yn dod yn ei flaen yn dda ac rydym wrthi’n cwblhau’r manylion ar gyfer cam nesaf y Gronfa Cadernid Economaidd (ERF). Rwy’n disgwyl ailagor y gwiriwr cymhwystra ar gyfer ceisiadau newydd am gymorth o dan yr ERF erbyn canol mis Mehefin, gan roi amser i gwmnïau baratoi eu ceisiadau. Ar ôl hynny, rwy’n disgwyl y bydd y Gronfa’n agor ar gyfer ceisiadau llawn yn ddiweddarach y mis hwnnw. 

O ran bod yn gymwys i gael cymorth, bydd Cam 2 y Gronfa yn gweithio yn yr un ffordd â Cham 1 ond bydd y cynllun ar gyfer microfusnesau’n cael ei ddiweddaru. Bydd hynny’n golygu y bydd cwmnïau cyfyngedig nad ydynt wedi cofrestru at ddibenion TAW yn gallu manteisio ar y Gronfa, sy’n rhywbeth y mae cynifer o fusnesau bach wedi bod yn galw amdano.  

Yng Nghymru, nid yw’n blaenoriaethau wedi newid − ein prif flaenoriaethau o hyd bydd iechyd y cyhoedd a rheoli’r pandemig. Dyna pam, ar 14 Mai, y cyhoeddais neges bwysig i atgoffa unrhyw un sy’n ystyried teithio i Gymru − “Arhoswch gartref”.  Byddwn yn croesawu ymwelwyr â breichiau agored unwaith y bydd yr argyfwng wedi dod i ben, ond am y tro, mae’n rhaid inni fynd i’r afael â’r feirws drwy aros gartref.”  Darllenwch y Datganiad Llafar llawn.


Impact onYr Effaith ar y Diwydiant − Canfyddiadau’r arolwg tracio diweddaraf

Er mwyn darparu data am yr effaith ar y diwydiant a’i helpu drwy’r cyfnod anodd hwn, aethom ati ddiwedd mis Ebrill i gynnal ein harolwg dros y ffôn am y trydydd tro, gan gysylltu ag 800 o fusnesau twristiaeth yng Nghymru. Mae canfyddiadau yn yr adroddiad am yr effeithiau ar refeniw busnesau ac ar staffio, am gael gafael ar gymorth oddi wrth y llywodraeth ac am ddisgwyliadau o ran goroesi yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau symud ac yn ystod y cyfnod adfer ar ôl i’r argyfwng ddod i ben. Rhoddir manylion rhanbarthol pan fo hynny’n bosibl. Cyhoeddwyd crynodeb yr wythnos ddiwethaf – mae’r adroddiad llawn i’w weld yma.

Diolch o galon am eich cymorth drwy gymryd rhan yn yr ymchwil hon. 


Cynyddu’r dirwyon am aildroseddu yn erbyn rheolau’r cyfyngiadau yng Nghymru

Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi y bydd y ddirwy uchaf am aildroseddu yn erbyn cyfyngiadau’r coronafeirws yng Nghymru yn cynyddu o £120 i £1,920.

Mae’r cynnydd yn y dirwyon yn cael ei gyflwyno cyn penwythnos Gŵyl y Banc ac mae’n dilyn cais gan bedwar heddlu Cymru a’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu i gynyddu’r cosbau i helpu i atal pobl rhag torri’r rheoliadau aros gartref dro ar ôl tro.

Mae tystiolaeth gan y pedwar heddlu yn dangos bod lleiafrif bach o bobl yn torri’r rheoliadau a gyflwynwyd yn sgil y coronafeirws, yn enwedig drwy deithio i lecynnau hardd adnabyddus ledled Cymru, er eu bod wedi bod ynghau ers diwedd mis Mawrth. Rhagor o wybodaeth am dirwyon ar gyfer torri’r rheolau ar gyfyngiadau symud oherwydd y coronafeirws dro ar ôl tro.


Cymorth i Fusnesau:

Cronfa’r Dyfodol Coronafeirws

Bydd Cronfa’r Dyfodol yn darparu benthyciadau’n amrywio o £125,000 i £5 miliwn oddi wrth Lywodraeth y DU i gwmnïau sydd wedi’u lleoli yn y DU, ar yr amod bod cyllid cyfatebol, o leiaf, ar gael oddi wrth fuddsoddwyr preifat.

Gallai’r benthyciadau trosi hyn fod yn opsiwn addas i fusnesau sy’n dibynnu ar fuddsoddiadau ecwiti ac sy’n methu manteisio ar y Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws. Rhagor o wybodaeth am Cronfa’r Dyfodol Coronafeirws

Busnesau mwy i fanteisio ar fenthyciadau o hyd at  £200 miliwn

Bydd busnesau yn gallu manteisio ar fenthyciadau mwy o dan gynllun gan Lywodraeth y DU, sef Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws (CLBILS).

Bydd uchafswm y benthyciad sydd ar gael o dan y cynllun yn cynyddu o £50 miliwn i £200 miliwn i helpu i sicrhau bod gan y cwmnïau mawr hynny nad ydynt yn gymwys ar gyfer Cyfleuster Ariannu Corfforaethol Covid-19 (CCFF) Banc Lloegr ddigon o gyllid i ddiwallu anghenion llif arian yn ystod cyfnod yr argyfwng.

Bydd y benthyciadau estynedig, sydd wedi cael eu cyflwyno ar ôl trafodaethau gyda benthycwyr a grwpiau busnes, ar gael o 26 Mai 2020 ymlaen. Rhagor o wybodaeth am Busnesau mwy i fanteisio ar fenthyciadau.


Y Diweddaraf am Farchnata:

Ar drothwy Gŵyl y Banc ac er gwaethaf y newidiadau diweddar i’r cyfyngiadau yn Lloegr, mae’r neges ar gyfryngau cymdeithasol Croeso Cymru yn parhau’n glir, h.y. canolbwyntio ar wybodaeth am iechyd y cyhoedd a’r neges syml “Hwyl Fawr. Am y Tro”. Diolch i’n holl gydweithwyr mewn cyrchfannau ac ar draws y diwydiant am y ffordd y mae llawer ohonoch wedi mabwysiadu’r un neges ac wedi sicrhau cysondeb o ran llawer o’r hyn a gaiff ei bostio ar y cyfryngau cymdeithasol.

Cofiwch, rhag ofn y bydd yn ddefnyddiol ichi, ein bod hefyd wedi paratoi cyngor a chanllawiau ar  gyfer y diwydiant i’ch helpu i gyfathrebu â’ch cwsmeriaid eich hun ar yr adeg hon. Mae’r canllawiau’n seiliedig ar yr hyn y mae Croeso Cymru yn ei wneud ar hyn y bryd, ac maen nhw’n cynnwys awgrymiadau am y math o gynnwys y gallech ei rannu â’ch cwsmeriaid yn ystod y cyfyngiadau symud. ’Croeso Cymru − Cyngor ar gyfer y Diwydiant Twristiaeth − Cyfathrebu gyda'ch cwsmeriaid.  

Rydym yn bwriadu cyflwyno cynnwys ychwanegol addas ar ein sianeli cymdeithasol yn fuan, gan ddibynnu  ar y sefyllfa ac yn unol â theimladau’r cyhoedd. Bydd hynny’n cynnwys deunydd a fydd yn cefnogi’n cyrchfannau a’n partneriaid yn y diwydiant. Mae’r cysylltiadau dyddiol rhyngom a llawer o randdeiliaid yn dal i fod yn werthfawr wrth inni gynllunio, gan sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau i gefnogi’r sector yn y tymor byr a chanolig drwy adlewyrchu safbwyntiau’r diwydiant ochr yn ochr â safbwyntiau cyrchfannau a chymunedau.


Cyflymu Cymru i Fusnesau −  Cyrsiau ar-lein am ddim a chanllawiau ‘sut mae?’ ymarferol

Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau yn cynnig cyfres o weminarau rhad am ddim i helpu busnesau y mae COVID-19 wedi effeithio arnynt. Mae’r rhain yn cynnwys nifer o sesiynau BLASU ymarferol sy’n para 20 munud a chyfres o gyrsiau mwy trylwyr.

Mae yna hefyd amrywiaeth o ganllawiau ymarferol i'ch helpu i ddod i delerau â gweithio gartref, i hyrwyddo’ch busnes ac i gystadlu ar-lein.

Mae rhagor o wybodaeth am y cyrsiau ar-lein am ddim ar gael ar hyb gwybodaeth Cyflymu Cymru i Fusnesau ac mae’r canllawiau ymarferol i’w gweld yno hefyd.   


UKinbound – aelodaeth dros dro am ddim

UKinbound yw’r unig gymdeithas fasnach sy’n cynrychioli buddiannau’r rhan honno o sector twristiaeth y DU sy’n ymdrin ag ymwelwyr o dramor, ac mae’n sicrhau bod y sector yn cael ei gydnabod yn un o’r rhai pwysicaf yn y DU o ran sbarduno’r economi  a chyflogaeth. Mae UKinbound wedi lansio opsiwn newydd lle mae’n cynnig aelodaeth dros dro yn rhad ac am ddim oherwydd Covid-19. Mae am gynnig cefnogaeth i’r rhannau hynny o’r sector twristiaeth a all fanteisio ar rai o’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig fel arfer i aelodau llawn o UKinbound. Ymhlith rhai o’r manteision y mae gweminarau, y newyddion diweddaraf am COVID-19 a newyddion rheolaidd ar gyfer y diwydiant, a chael bod yn rhan o weithgareddau lobïo’r gymdeithas.

Dim ond tan ddiwedd y flwyddyn aelodaeth gyfredol, sef 20 Medi 2020, y bydd yr opsiwn i fod yn aelod cyswllt dros dro ar gael.

Gallwch wneud cais i fod yn aelod cyswllt dros dro drwy fynd i www.ukinbound.org.


Y Cyfnod Ymgeisio ar gyfer y Rhaglen Twf Digwyddiadau Busnes 2020/21 wedi dechrau

Mae’r Cyfnod Ymgeisio ar gyfer y Rhaglen Twf Digwyddiadau Busnes 2020/21 wedi dechrau a chroesewir ceisiadau oddi wrth amrywiaeth o sefydliadau gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, drefnwyr digwyddiadau, trefnwyr confensiynau/sefydliadau rheoli cyrchfannau, prifysgolion neu gymdeithasau

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys y mathau o gymorth sydd ar gael ar gyfer digwyddiadau, y meini prawf presennol a sut i wneud cais am gymorth ariannol ar gael ar-lein.


Cefnogi’ch gweithwyr yn ystod coronafeirws: Cam-drin domestig

Gall y gorchymyn i aros gartref achosi gorbryder i’r bobl hynny sy’n profi neu’n teimlo eu bod mewn perygl o gam-drin domestig.

Fel cyflogwr, gallwch wneud cyfraniad pwysig o ran sicrhau staff y gallannhw ddal i adael eu cartrefi os ydyn nhw’n dioddef cam-drin domestig a bod cymorth ar gael, gan gynnwys cymorth ar-lein, llinellau cymorth, llochesi a’r heddlu.

Gall Byw Heb Ofn gynnig cymorth a chyngor i:

  • unrhyw un sy’n profi cam-drin domestig
  • unrhyw un sy’n gwybod am rywun y mae angen cymorth arno/arni, er enghraifft ffrind, perthynas neu gydweithiwr
  • ymarferwyr sydd am gael cyngor proffesiynol

Dysgwch fwy am gefnogi gweithwyr.


Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod yr adeg anodd, ddigynsail hon, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).  Mae’r bwletinau diweddaraf isod:

  • 15 Mai: Llacio'r cyfyngiadau ar ein cymdeithas a'n heconomi: cyhoeddi map ffordd Cymru
  • 15 Mai: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
  • 13 Mai: Rheoliadau Coronafeirws, y Cynllun Cadw Swyddi, y Gronfa Cadernid Economaidd, Podlediad Busnes Cymru: Twristiaeth
  • 06 Mai: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
  • 01 Mai: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y newyddion diweddaraf ar gyfer y diwydiant twristiaeth drwy ein dilyn ar @CroseoCymruBus, a hefyd anogwch eraill a allai fod ar eu hennill i gael y newyddion diweddaraf drwy danysgrifio i’n cylchlythyr.

HomepageFacebookTwitterInstagram