Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
Mae’r sefyllfa’n datblygu’n gyflym. Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.
Neges Prif Weinidog Cymru i Bobl Cymru
Ar ddydd Sul amlinellodd Prif Weinidog y DU y newidiadau bach y cynigir eu gwneud i’r cyfyngiadau symud yn Lloegr dros y tair wythnos nesaf.
Yma yng Nghymru mae’r rheoliadau’n newid i alluogi pobl i wneud ymarfer corff yn fwy rheolaidd ac i ganiatáu i ganolfannau garddio agor – os ydyn nhw’n cydymffurfio â rheolau cadw pellter cymdeithasol.
Darllenwch fwy am Neges Prif Weinidog Cymru i Bobl Cymru a’r Rheoliadau coronafeirws: canllawiau Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i adolygu’r rheoliadau ac i ddiweddaru’r cwestiynau cyffredin ar y wefan i ateb cwestiynau’n cyhoedd.
Mae’r crynodeb sy’n egluro mynd allan i wneud ymarfer corff yng Nghymru yn ystod y cyfyngiadau symud coronafeirws yn Gadael y cartref i wneud ymarfer corff: canllawiau.
Gyda’r newidiadau diweddar i’r cyfyngiadau yn Lloegr, rydym yn cadw ein neges ar gyfryngau cymdeithasol Croeso Cymru yn glir, h.y. canolbwyntio ar wybodaeth am iechyd y cyhoedd a’r neges seml “Hwyl Fawr. Am y Tro”.
Cofiwch, rhag ofn y bydd yn ddefnyddiol i chi, rydym hefyd wedi paratoi cyngor a chanllawiau gyfer y diwydiant i’ch helpu i gyfathrebu â’ch cwsmeriaid eich hun ar yr adeg hon. Mae’r canllawiau yn seiliedig ar ddull gweithredu Croeso Cymru ar hyn y bryd, ac mae’n cynnwys awgrymiadau ynghylch y math o gynnwys y gallech chi ei rannu â’ch cwsmeriaid yn ystod y cyfyngiadau symud. Croeso Cymru - Cyngor ar gyfer y Diwydiant Twristiaeth - Cyfathrebu gyda’ch cwsmeriaid.
Rydym yn bwriadu cyflwyno cynnwys ychwanegol addas ar ein sianeli cymdeithasol yn fuan, sy’n amodol ar y sefyllfa ac yn unol â theimladau’r cyhoedd. Bydd hynny’n cynnwys deunydd sy’n ategu ein cyrchfannau ac yn cefnogi ein partneriaid o fewn y diwydiant. Mae parhau i gysylltu’n ddyddiol â llawer o randdeiliaid yn dal i fod yn werthfawr wrth inni gynllunio, gan sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau i gefnogi’r sector yn y tymor byr a chanolig drwy adlewyrchu safbwyntiau’r diwydiant ochr yn ochr â safbwyntiau cyrchfannau a chymunedau.
Pam nad yw teithio i Gymru yn opsiwn – nodyn pwysig i’ch atgoffa
Mae’r rheoliadau aros gartref yn parhau’n gadarn yn eu lle i ddiogelu iechyd pobl. Mae hyn yn golygu bod teithio i Gymru at ddibenion hamdden yn amhosibl o hyd.
Mae safleoedd gwersylla, gweithgareddau awyr agored ac atyniadau i dwristiaid ynghyd â llawer o lwybrau cerdded ac ardaloedd o harddwch poblogaidd, megis Eryri, yn dal i fod ar gau i’r cyhoedd er mwyn cadw pobl yn ddiogel a diogelu’r GIG.
Nid yw’r newidiadau i’r gyfraith yn Lloegr sy’n caniatáu i bobl fynd allan at ddibenion hamdden yn yr awyr agored yn berthnasol i Gymru.
Yng Nghymru, mae’r rheolau aros gartref wedi’u llacio fel bod pobl yn gallu gwneud ymarfer corff yn yr awyr agored fwy nag unwaith y dydd. Rhaid i’r ymarfer corff hwnnw gael ei wneud yn lleol.
Mae Gweinidog yr Economi a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi cyhoeddi’r neges bwysig hon ar gyfer unrhyw un sy’n ystyried teithio i Gymru.
Mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi llythyr i’r cyfryngau ar y gororau yr wythnos hon, yn annog ymwelwyr i beidio â theithio i Gymru, ond yn dweud ein bod ni’n edrych ymlaen at weld pawb pan fydd y pandemig drosodd.
Cymorth i Fusnesau:
Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig ar gael nawr
Mae unigolion hunangyflogedig neu aelodau o bartneriaethau y mae eu busnesau wedi dioddef effeithiau niweidiol o ganlyniad i’r coronafeirws yn gallu gwneud cais am grant Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig gwerth 80% o gyfartaledd eu helw masnachu misol.
Mae pobl yn gallu gwneud cais ar ddyddiad penodol rhwng 13 a 18 Mai 2020, ar sail eu Cyfeirnod Treth Unigryw. Gellir gwirio’r cyfeirnod hwn ar wiriwr ar-lein CThEM a bydd y rhai sy’n gymwys yn derbyn grant o hyd at £7,500 gan y llywodraeth.
Mae rhagor o fanylion ar wefan Busnes Cymru.
Yr Effaith ar y Diwydiant – Arolygon Tracio
Er mwyn darparu data ar effaith ac i helpu’r diwydiant yn ystod y dyddiau heriol hyn, gwnaethom gynnal drydedd gyfres o arolygon dros y ffôn yn hwyr ym mis Ebrill. Gwnaethom gysylltu ag 800 o fusnesau twristiaeth yng Nghymru. I weld crynodeb o ganfyddiadau’r Baromedr.
Diolch yn fawr am ein helpu ni drwy gymryd rhan yn yr ymchwil hon.
Fforymau Twristiaeth Rhanbarthol
Gwnaeth y pedwar Fforwm Twristiaeth Rhanbarthol gynnal eu cyfarfodydd rhithwir cyntaf ym mis Ebrill. Bydd y rownd nesaf o Fforymau Twristiaeth Rhanbarthol yn cael eu cynnal fel a ganlyn:
- Gogledd – 20 Mai
- De-orllewin – 21 Mai
- Canolbarth – 27 Mai
- De-ddwyrain – 28 Mai
Os hoffech chi gyflwyno unrhyw gwestiynau i’ch fforwm rhanbarthol, cysylltwch â’ch Rheolwr Ymgysylltu Rhanbarthol.
Gweminarau ar gyfer y Diwydiant Twristiaeth
Yn fuan byddwn ni’n rhoi gwybod ichi am gyfleoedd i ymuno â gweminarau gan Groeso Cymru. Gydag amrediad enfawr o weminarau, o gymaint o wahanol ffynonellau – gan gynnwys y rhai sy’n cynnig cyngor busnes penodol gan ein cydweithwyr ym Musnes Cymru – mae ein gweminarau ni yn cael eu teilwra i ychwanegu gwerth at y rhai sydd eisoes ar gael i ddiwydiant twristiaeth Cymru a’i randdeiliaid.
Yn y cyfamser, dyma restr o’r gweminarau/digwyddiadau ar-lein sydd ar gael gan Fusnes Cymru.
Gweminarau twristiaeth diweddar a’r rhai sydd ar y gweill
Marchnad Deithio’r Byd yw prif ddigwyddiad y byd ar gyfer y diwydiant teithio, ac i ategu’r arddangosfa flynyddol maent yn cynnal cyfres o weminarau. Cewch wylio Prif Olygydd Teithio The Independent yn cyflwyno ei safbwyntiau a’i farn ar ddyfodol teithio yng ngoleuni COVID-19, gan rannu ei ddealltwriaeth a’i wybodaeth. Yn ystod y cyfweliad hwn â Lisa Francesca Nand, mae’n egluro’r sefyllfa mae pawb yn y diwydiant teithio’n ei hwynebu, gan gynnwys cwmnïau hedfan, gwestai, gweithredwyr mordeithiau as asiantaethau teithio.
Mae ETOA (Cymdeithas Trefnwyr Teithiau Ewropeaidd) wedi drefnu cyfres amrywiol o weminarau, gan gynnwys sesiynau galw i mewn, canfod ffeithiau, cyngor arbenigol, cynlluniau ar gyfer adfer cyrchfannau a gwybodaeth am y gwledydd y mae ymwelwr yn teithio ohonynt i helpu’r diwydiant yn Ewrop. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys Crisis and recovery – the USA FIT market (teithio llawn annibynnol) a COVID-19 Immediate Crisis Concerns – USA Market Drop-In (yn bennaf o safbwynt teithio mewn grŵp). Mae gweminarau mewn ieithoedd Ewropeaidd eraill ar gael.
Gweminarau Ukinbound
UKinbound yw yr unig gymdeithas fasnach sy’n cynrychioli buddiannau sector twristiaeth dramor y DU ac maent yn sicrhau ei fod yn cael ei gydnabod fel ysgogwr economaidd a chyflogaeth amlwg yn y DU. Yn ystod yr achos o COVID-19 maent yn cynnal cyfres o weminarau ar gyfer eu haelodau.
Am ragor o wybodaeth am Ukinbound edrychwch ar www.ukinbound.org
Nodwch fod yr holl weminarau’n cael eu recordio ymlaen llaw, felly ni fydd yn bosibl ichi ofyn cwestiynau
Gweminarau Busnes a chanllawiau diweddaraf CThEM
Mae CThEM yn parhau i gynnal gweminarau ar y pynciau canlynol:
Hefyd, mae Coronavirus Job Retention Scheme: step by step guide for employers wedi’i ddiweddaru.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.
Canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar y coronafeirws ar gyfer cyflogwyr
Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei chanllawiau dan reoliad 7A Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 ar gyfer cyflogwyr.
Mae’r canllawiau ‘Cymryd pob cam rhesymol i gynnal pellter corfforol yn y gweithle’ yn cynnwys:
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan LLYW.Cymru.
Cadw pellter cymdeithasol a chadw’ch busnes ar agor drwy weithio’n ddiogelu
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi llunio canllawiau ar sut mae’n rhaid i fusnesau gynnal rheolau cadw pellter cymdeithasol a diogelu eu staff yn ystod yr argyfwng coronafeirws (COVID-19).
Mae’r canllawiau yn egluro’r hyn sy’n rhaid i gyflogwyr ei wneud i gadw eu busnesau ar agor ac maent yn cynnwys:
- Cadw pellter cymdeithasol
- Gwaith hanfodol a gwaith sydd ddim yn hanfodol
- Gweithgarwch diogel yn y gwaith
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr Awdurdod.
Cofiwch: Canllawiau pellach ar dderbyn archebion cyn 26 Medi 2020
I helpu i egluro a gaiff busnesau twristiaeth dderbyn archebion cyn 26 Medi 2020, rydym wedi cyhoeddi rhai Cwestiynau Cyffredin.
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod yr adeg anodd, ddigynsail hon, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). Mae’r bwletinau diweddaraf isod:
- 13 Mai: Rheoliadau Coronafeirws, y Cynllun Cadw Swyddi, y Gronfa Cadernid Economaidd, Podlediad Busnes Cymru: Twristiaeth
- 06 Mai: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
- 01 Mai: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
- 27 Ebrill: Grantiau cyntaf y Gronfa Cadernid Economaidd i gael eu talu i fusnesau ac yn cael ei rhewi am hanner dydd HEDDIW
- 24 Ebrill: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y newyddion diweddaraf ar gyfer y diwydiant twristiaeth drwy ein dilyn ar @CroseoCymruBus, a hefyd anogwch eraill a allai fod ar eu hennill i gael y newyddion diweddaraf drwy danysgrifio i’n cylchlythyr.
|