Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

1 Mai 2020


bulletin image

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Mae’r sefyllfa’n datblygu’n gyflym. Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


Cymorth i Fusnesau:

Dros £500 miliwn o gymorth yn cyrraedd busnesau yng Nghymru

Mae hanner biliwn o bunnoedd o grantiau wedi cyrraedd 41,000 o fusnesau bach yng Nghymru ymhen ychydig wythnosau.

Mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru , ynghyd a Rebecca Evans Gweinidog Cyllid  wedi diolch i’r awdurdodau lleol ledled Cymru heddiw am eu gwaith caled yn prosesu’r taliadau grant yn gyflym, gan sicrhau bod busnesau bach yn derbyn y cymorth ar frys i helpu i ddelio gydag effaith y coronafeirws (COVID-19).

Mae’r ymdrech sylweddol hon wedi gweld dros £508 miliwn yn mynd o’r llywodraeth i fusnesau yn ystod y mis diwethaf. Mae busnesau manwerthu, hamddena a lletygarwch yng Nghymru sydd mewn lleoliadau â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £51,000 wedi derbyn grant o £25,000. Ac mae grant o £10,000 wedi ei dalu i gwmnïau sy’n gymwys am gymorth rhyddhad ardrethi busnesau bach, ac sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai.

Bydd pob busnes cymwys hefyd yn elwa o wyliau blwyddyn o’u hardrethi.

Mae’r gwaith o brosesu’r ceisiadau sy’n weddill yn parhau, ac mae mwy o gwmnïau yn derbyn grantiau coronafeirws brys bob diwrnod. Mae’r pecyn gwerth £1.7 biliwn o gymorth gan Lywodraeth Cymru, sy’n cynnwys y Gronfa Cadernid Economaidd, yn fwy na’r hyn sydd ar gael i fusnesau yn Lloegr. Darllenwch mwy yma. 

COVID-19: Benthyciadau Bounce Back

Bydd busnesau bach yn elwa ar gynllun cyllid-carlam newydd ar gyfer y DU sy’n darparu benthyciadau gyda gwarant 100% a gefnogir gan y llywodraeth ar gyfer benthycwyr.    

Byddai’r cynllun benthyciadau Bounce Back yn helpu i gryfhau’r pecyn cymorth presennol sydd ar gael i’r busnesau lleiaf a effeithiwyd gan y pandemig coronafeirws.

Mae’r manylion fel a ganlyn:

  • bydd busnesau’n gallu benthyg rhwng £2,000 a £50,000 a chael gafael ar yr arian o fewn ychydig ddyddiau
  • bydd y benthyciadau’n ddi-log am y 12 mis cyntaf, a gall busnesau wneud cais ar-lein trwy gwblhau ffurflen fer a syml

Bydd y cynllun ar agor i dderbyn ceisiadau ddydd Llun 4 Mai 2020. Gall cwmnïau gael gafael ar y benthyciadau hyn trwy rwydwaith o fenthycwyr achrededig.  Darllenwch mwy yma.

Gwneud cais am Gronfa’r Dyfodol coronafeirws

Bydd Cronfa’r Dyfodol yn darparu benthyciadau gan y llywodraeth DU i gwmnïau sydd wedi’u lleoli yn y DU, a fydd yn amrywio o £125,000 i £5 miliwn, yn amodol ar gyllid cyfatebol o leiaf gan fuddsoddwyr preifat.

Gallai’r benthyciadau trosi hyn fod yn opsiwn addas i fusnesau sy’n dibynnu ar fuddsoddiadau ecwiti ac sy’n methu cael mynediad at y Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws.

Bydd y cynllun yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth â Banc Busnes Prydain.

Bydd y cynllun yn cael ei lansio ym mis Mai 2020. Darllenwch mwy yma.

Canllawiau Yswiriant Busnes COVID-19

Mae aelodau Cymdeithas Yswirwyr Prydain yn gweithio'n ddiflino i gefnogi eu cwsmeriaid, drwy dalu ceisiadau dilys yn gyflym, taliadau dros dro i'w cwsmeriaid, a darparu atebion clir a chyflym i'w cwestiynau. Darllenwch mwy ar gwefan Busnes Cymru.   

Mae’r Gymdeithas Yswirwyr Prydain wedi darparu'r canllawiau canlynol ar y cwestiynau cyffredin sy'n ymwneud ag yswiriant a materion busnes eraill.

Mae rhagor o wybodaeth gan gynnwys cyngor, canllawiau a chwestiynau cyffredin sy'n ymwneud ag yswiriant ar gael ar Hwb Wybodaeth Coronafeirws ar wefan y Gymdeithas Yswirwyr Prydain.

Gweler hefyd cyngor y Gymdeithas Yswirwyr Prydain ar sicrwydd yswiriant busnes.

Ewch i’n tudalen COVID-19 Cymorth i Fusnesau ar ein gwefan i gael gwybodaeth ar gyfer eich busnes ynglŷn â delio â’r coronafeirws.

COVID-19: podlediad cymorth i fusnesau Busnes Cymru

Mae busnes Cymru yma i'ch cefnogi chi a'ch busnes trwy’r achosion COVID-19.  Beth am danysgrifio a gwrando ar bodlediad Busnes Cymru am ddiweddariadau a gwybodaeth i fusnesau yng Nghymru.

Mae podlediadau blaenorol wedi cynnwys:

  • trafodaethau gyda Phrif Weithredwr Banc Datblygu Cymru, Giles Thorley, a'r Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru - Ken Skates a
  • sgwrs gyda dau o'r busnesau sydd wedi derbyn arian gan Fanc Datblygu Cymru, Jonathan Greatorex, Rheolwr Gyfarwyddwr The Hand yn Llanarmon a Phil Scott, Perchennog-Gyfarwyddwr RibRide Velocity ar Ynys Môn sy'n siarad am ba mor syml oedd y broses

Ymwelwch â Phodlediadau Busnes Cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Cymorth ar-lein ar gael i fusnesau yng Nghymru sy’n teimlo effeithiau COVID-19

Mae Busnes Cymru wedi lansio cyfres newydd o weminarau a chyrsiau digidol ar gyfer busnesau bach a chanolig yng Nghymru sy’n dioddef yn sgil COVID-19.

Mae cyfres ‘COVID-19 a’ch Busnes’ yn rhoi sylw i bynciau pwysig, gan gynnwys:

  • arallgyfeirio a modelau busnes amgen
  • llif arian a chyllid
  • gweithdrefnau a pholisïau Adnoddau Dynol
  • rheoli timau a llif gwaith o bell
  • hybu cynhyrchiant
  • negodi â chyflenwyr ac yswiriant

Mae'r gweminarau yn rhedeg yn ddyddiol. Dysgwch fwy yma a chadwch lygad ar dudalennau Digwyddiadur Busnes Cymru.


Yr wybodaeth ddiweddaraf am farchnata 

Rydym yn parhau i fod ar y cyfryngau cymdeithasol, ac yn canolbwyntio ar wybodaeth am iechyd y cyhoedd a’r neges syml “Hwyl Fawr. Am y Tro”. Rydym hefyd yn ail-drydar ac yn rhannu negeseuon dethol ar draws platfformau, o gyrchfannau, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Heddlu ac eraill er mwyn cefnogi’r neges gyffredinol. Rydym hefyd wedi paratoi cyngor ac arweiniadar gyfer y diwydiant i’ch helpu i gyfathrebu â’ch cwsmeriaid eich chi’n ar yr adeg hon. Mae’r canllawiau yn seiliedig ar ddull gweithredu Croeso Cymru ar hyn y bryd, ac mae’n cynnwys awgrymiadau ynghylch y math o gynnwys y gallech chi ei rannu â’ch cwsmeriaid yn ystod y cyfyngiadau symud. Rydym yn gobeithio eu bod yn ddefnyddiol ichi: Croeso Cymru - Cyngor ar gyfer y Diwydiant Twristiaeth - Cyfathrebu gyda’ch cwsmeriaid. 

Mewn perthynas â gweithgareddau marchnata, er i’r holl waith ymgyrchu gael ei atal ym mis Mawrth, mae’r sefyllfa’n cael ei hadolygu bob dydd, gan ddibynnu ar deimladau’r cyhoedd a’r sefyllfa bryd hynny, rydym yn anelu at yn raddol gyflwyno cynnwys addas ar ein sianeli cymdeithasol, gan gynnwys yr hyn sy’n cefnogi llawer o’n cyrchfannau a’n rhanddeiliaid ni. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn am y trafodaethau yn y fforymau diweddar, a’r cysylltiadau rydym yn eu cael bob dydd â llawer o randdeiliaid;  mae hyn oll yn amhrisiadwy wrth inni gynllunio, gan sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau bosib i gefnogi’r diwydiant yn y tymor byr a’r tymor canolig.  Mae’r gwaith hwnnw yn golygu ystyried gweithgarwch fydd yn cynnwys nifer o randdeiliaid a phartneriaid. Edrychwch ar ein gohebiaeth o fewn y diwydiant yn rheolaidd i wneud yn siŵr eich bod yn gwybod y newyddion diweddaraf.


Diweddariad gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gymorth ar gyfer cyflogeion a chyflogwyr

Mae COVID-19 wedi cael effaith enfawr ar lawer o rannau o’r farchnad lafur, gyda rhai sectorau’n crebachu a rhai sectorau’n ehangu’n gyflym.  I helpu ceiswyr gwaith i gael swyddi mewn meysydd newydd, a chyflogwyr i fanteisio ar farchnadoedd llafur newydd, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi lansio’r gwefannau jobhelp ac employerhelp. Mae’r rhain yn darparu gwybodaeth am y farchnad lafur ar gyfer pobl sy’n chwilio am waith ar hyn o bryd, a chyngor ar gyfer cyflogwyr.


Darparu cyfarpar critigol a chyfarpar diogelu personol (PPE)

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda busnes a diwydiant i gael cyflenwadau o gyfarpar critigol, gan gynnwys cynhyrchion glanhau a PPE i weithwyr rheng flaen sy'n wynebu prinder yn ystod yr achosion o COVID 19. 

Os ydych yn gyflenwr PPE neu offer hanfodol eisoes neu os ydych yn gallu darparu unrhyw gymorth ychwanegol ar weithgynhyrchu, ail-greu cynhyrchion neu arloesi, cysylltwch â'r Ganolfan Gwyddor Bywyd drwy eu porth arloesi

Ar gyfer unrhyw gynigion eraill o gefnogaeth

Os rydych yn gallu cynnig unrhyw gymorth arall, nad yw'n uniongyrchol gysylltiedig ag offer meddygol neu PPE, hoffai ein timau rhanbarthol glywed gennych. Byddwn yn nodi pob cynnig ar lefel ranbarthol a lleol. I gofrestru cynigion o'r math yma, a wnewch gwblhau y ffurlen arlein canlynol yma.


Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y Diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod yr adeg anodd, ddigynsail hon, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael yma.  Mae’r rhain yn cynnwys:

  • 27 Ebrill: Grantiau cyntaf y Gronfa Cadernid Economaidd i gael eu talu i fusnesau ac yn cael ei rhewi am hanner dydd HEDDIW
  • 24 Ebrill: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
  • 20 Ebrill: Bwletin: Cronfa Cadernid Economaidd - £100m ychwanegol; Yswiriant aflonyddwch busnes - galwad am dystiolaeth; Cynllun Cadw Swyddi ar agor
  • 17 Ebrill: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
  • 17 Ebrill: Y Gronfa Cadernid Economaidd - y cyfnod ymgeisio yn dechrau
  • 10 Ebrill: Dysgwch a yw eich busnes yn gymwys i gael cymorth gan y Gronfa Cadernid Economaidd newydd
  • 09 Ebrill: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
  • 08 Ebrill: Hysbysiad Brys i Fusnesau Llety Gwyliau (Diwygio) / Cais i Fusnesau Llety Gwyliau ddarparu llety i grwpiau bregus
  • 02 Ebrill: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
  • 30 Mawrth: Cronfa Cadernid Economaidd newydd gwerth £500 miliwn wedi’i lansio ar gyfer Cymru
  • 27 Mawrth: Neges Frys i Fusnesau Llety Gwyliau
  • 27 Mawrth: Cynllun Cymorth Incwm ar gyfer yr Hunangyflogedig; Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws
  • 26 Mawrth: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
  • 25 Mawrth: Neges Frys: COVID-19 – Cyngor i Berchnogion a Gweithredwyr Parciau Gwyliau
  • 24 Mawrth: Canllawiau ar y Coronafeirws ar gyfer Busnesau ac Eiddo a fydd yn cau
  • 23 Mawrth: Cyflwyno mesurau newydd cadarn heddiw i arafu lledaeniad y coronafeirws
  • 19 Mawrth: Gweinidogion yn cyhoeddi pecyn cymorth newydd gwerth £1.4 biliwn i fusnesau
  • 12 Mawrth: Coronafeirws: gwybodaeth i’r diwydiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y newyddion diweddaraf ar gyfer y diwydiant twristiaeth drwy ein dilyn ar @CroseoCymruBus, a hefyd anogwch eraill a allai fod ar eu hennill o wneud hynny i danysgrifio i’n cylchlythyr ni yma.


HomepageFacebookTwitterInstagram