Bwletin Gwaith Ieuenctid

COVID-19 Rhifyn Arbennig 3 - 23 April 

 
 

Gair gan ein Cadeirydd

Keith Towler

Wrth i ni ddygymod â’r realiti newydd hwn, a llawer ohonom yn brysio i ddod yn gyfarwydd â sianelau ar y cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau digidol eraill, rwyf wedi bod yn meddwl am yr heriau penodol sy’n ein wynebu ni fel sector gwaith ieuenctid. Gan amlaf, gweithwyr ieuenctid yw’r pwynt cyswllt cyntaf i bobl ifanc pan fo pethau’n anodd, neu pan fo pobl ifanc eisiau cyngor neu gymorth ymarferol, ac rwyf wedi cael nifer o drafodaethau’n ddiweddar am yr effaith bryderus a gaiff y cyfyngiadau symud ar ein pobl ifanc, sydd wir yn peri pryder i mi, a fydd yn cynyddu wrth i’r cyfyngiadau symud barhau am gyfnod hirach. Wrth i’r galw am ein gwasanaethau gynyddu, rhaid i ni sicrhau ein bod yn parhau i gynnal perthynas ddiogel o ymddiriedaeth gyda phobl ifanc wrth i ni symud i’r byd ar-lein a gweithio mewn ffyrdd newydd.

Rwy’n rhyfeddu at y modd y mae gweithwyr ieuenctid wedi addasu i’r amgylchiadau newydd hyn, a hynny’n aruthrol o gyflym, heb sôn am y stôr o arferion arloesol sy’n cael eu datblygu wrth i’r sector estyn llaw i’n pobl ifanc.

Er hynny, gall arloesi, weithiau, olygu risgiau ychwanegol, a dyma gyd-destun y bwletin hwn, sy’n canolbwyntio ar ddiogelu. Mae’n bwysig cofio mai’r Gweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan ddylai arwain eich gwaith gyda phobl ifanc yn ystod y cyfnod eithriadol hwn. Ond mae cymhwyso’r gweithdrefnau hyn yn ymarferol, wrth i ni orfod addasu, yn galw am ailedrych ar ein ffyrdd o weithio i sicrhau eu bod yn cael eu dilyn. Mewn cydweithrediad â chynrychiolwyr o’r sector, rydym wedi casglu ynghyd cyfres o erthyglau ar y thema hon, sy’n rhoi’r gefnogaeth a’r cymorth diweddaraf i chi’r ymarferwyr. 

O'r trafodaethau yn ystod yr wythnosau diwethaf, rwyf hefyd yn ymwybodol bod llawer ohonoch yn gweld y ffordd newydd hon o weithio yn dipyn o her. Mae'n bwysig cydnabod hyn a mynd i'r afael ag ef fel ein bod yn parhau i roi dulliau cymorth ar waith i gefnogi ein staff rheng flaen, yn ogystal â diwallu anghenion ein pobl ifanc. Yn ystod y cyfnod hwn, efallai y byddwch mewn sefyllfa lle bydd gennych ffenestr i ystafell fyw rhywun, eu hystafell wely, neu eu cartref. Mae hyn yn ddrych dwy ffordd. Byddwch yn arsylwi ac yn sgwrsio mewn ffordd a allai deimlo'n newydd ac a all wneud ymarferwyr profiadol hyd yn oed yn ddi-hyder. Mae hyn yn codi materion i reolwyr eu hystyried pan fyddant yn cynnal sesiynau goruchwylio unigol ac yn hwyluso ymarfer myfyriol gyda'u tîm.

Gobeithio y bydd y rhifyn hwn o ddefnydd i chi. Fy ngobaith yw y gallwn ddefnyddio'r cyhoeddiad dwyieithog rheolaidd hwn i godi materion ac i ddechrau deialog. Felly, fel erioed, cofiwch gysylltu ynghylch y pethau sydd ar eich meddwl, unrhyw enghreifftiau o arferion da yr hoffech eu rhannu, a syniadau ar yr hyn yr hoffech i ni ei gynnwys mewn bwletinau yn y dyfodol, drwy anfon e-bost i GwaithIeuenctid@llyw.cymru
Cadwch yn ddiogel bawb... mae pobl ifanc yng Nghymru eich angen yn fwy nag erioed yn ystod y cyfnod hwn.

Keith Towler
Cadeirydd – Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro Cymru

Nid yw hyn yn fyd mor newydd wedi’r cwbl

Dyma Nick Hudd, uwch-weithiwr gwaith ieuenctid yng Nghyngor Sir Penfro yn ein hatgoffa o bwysigrwydd cofio'r hanfodion.

"Mae defnyddio technolegau digidol, gweithio o bell o'n cartrefi a'r her o fod mewn amgylcheddau ffisegol ar wahân yn profi ein sgiliau presennol. Mae’n ein hannog i ddatblygu sgiliau newydd ar frys. Er bod y sector gwaith ieuenctid yn addasu i gynnig gwasanaeth digidol newydd yn bennaf, mae egwyddorion diogelu yn parhau'r un fath. Mae'r systemau a ddefnyddiwyd o’r blaen i adrodd am bryderon diogelu a lles yn parhau i fod yn weithredol. Camgymeriad y gallem ni ei wneud yn y cyfnod hwn, nas gwelwyd mo’i debyg o’r blaen, yw ceisio bod yn rhywbeth nad ydym ni, fel cwnselydd neu weithiwr cymdeithasol, gan weithio y tu hwnt i'n sgiliau.

Mae gweithwyr ieuenctid yn datblygu ac yn defnyddio perthynas o ymddiriedaeth gyda phobl ifanc, a hynny er mwyn eu cyfeirio at eraill. Ni fyddem yn cyfeirio pobl ifanc at unrhyw unigolyn neu sefydliad nad oedd wedi bod yn destun system graffu broffesiynol. Dylai'r egwyddor hon aros yr un fath wrth gyfeirio pobl ifanc at adnoddau ar-lein. Ydy, mae'r offer rydyn ni'n eu defnyddio wedi newid ond mae ein hegwyddorion wedi aros yr un fath. "

Diogelu - beth a ddylech wybod

Yn ystod argyfwng COVID-19, mae trefniadau newydd ar waith i ymateb i'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau a'r rhai y maent yn eu cefnogi. Mae'n hanfodol bod pawb sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn cael gwybodaeth glir am sut i roi gwybod am bryder o ran diogelu. Mae diogelu’n parhau i fod yn wasanaeth sydd â blaenoriaeth iddo i’r gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol plant (0-18 oed) a gwasanaethau cymdeithasol i oedolion (18 oed a hŷn) ac mae Timau Argyfwng a Dyletswydd y tu allan i oriau ar agor o hyd. 

• Ni ddylai ofnau ynghylch rhannu gwybodaeth fod yn rhwystr i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso. Rhaid i bob ymarferydd gymryd cyfrifoldeb am rannu'r wybodaeth sydd ganddynt, ac ni allant dybio y bydd rhywun arall yn trosglwyddo gwybodaeth, a allai fod yn hanfodol i gadw plentyn neu oedolyn ifanc yn ddiogel.

• Os byddwch yn cael gwybodaeth gan berson ifanc neu gan rywun arall ei fod mewn perygl, rhaid i chi roi gwybod am y pryderon hyn cyn gynted â phosibl.

• Er mwyn rhoi gwybod am bryder o ran diogelu plant, mae'n bwysig ceisio cofnodi'r wybodaeth ganlynol am y person ifanc: enw, oedran, cyfeiriad, rheswm dros adrodd (beth yw eich pryder).

• Dylai fod gan bob gwasanaeth Swyddog Diogelu Dynodedig. Mae’r amgylchiadau presennol yn golygu y gall y person hwnnw newid wrth i bobl orfod hunanynysu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pwy yw Swyddog Diogelu Dynodedig y dydd ar gyfer eich gwasanaeth. Dylech gysylltu â'r person hwn i drafod eich pryder a bydd yn helpu i wneud y penderfyniad ynghylch a ddylid rhoi gwybod am berson ifanc sydd mewn perygl. Os na allwch gysylltu â'r Swyddog Diogelu Dynodedig, rhaid i chi roi gwybod am eich pryder eich hun - peidiwch ag oedi.

Mae dolenni at wefannau’r Byrddau Diogelu, gyda manylion cyswllt i adrodd am bryderon, ar gael yma. Gallwch hefyd ffonio'r heddlu ar 101. Fodd bynnag, os ydych yn credu fod person ifanc mewn perygl dybryd o gael niwed, rhaid i chi ffonio'r heddlu ar 999.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth yma:

Rhannu gwybodaeth i ddiogelu pobl

Y ddyletswydd i adrodd am blentyn mewn perygl (hyd at 18 oed)

Y ddyletswydd i adrod am oedolyn sydd mewn perygl (dros 18 oed)

Mae nifer o ganllawiau ymarfer Cymru gyfan ar faterion penodol sy’n ymwneud â diogelu plant hyd at 18 oed, gan gynnwys un ar Ddiogelu plant rhag camdriniaeth ar-lein.

Cynghorion wrth symud ar-lein

Mae Mel Ryan (Youth Cymru), David Williams (Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen) a Marco Gil-Cervantes (ProMo Cymru) wedi cynhyrchu rhai awgrymiadau ar gyfer gweithio'n ddiogel ar-lein.

Pan fyddwch ar-lein, mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn parhau’n berthnasol. Fodd bynnag, mae'n aml yn ddefnyddiol i feddwl am ar yr hyn y byddech chi'n ei wneud wyneb yn wyneb a chymhwyso hynny i’r cyd-destun newydd. Er enghraifft, pe byddech yn cyfarfod â pherson ifanc wyneb yn wyneb, byddech yn cynnal asesiad risg, byddech yn mynd gydag ail berson, a byddai cydweithiwr yn cael gwybod beth yw hyd, diben a chanlyniad y cyfarfod. Ceir isod rai awgrymiadau a phethau i feddwl amdanyn nhw i'ch diogelu chi a’r pobl ifanc pan fyddwch ar-lein.
• Atgoffwch y bobl ifanc o'r gweithdrefnau diogelu a chyfrinachedd presennol.

• Ydych chi'n gwybod pa gamau rydych chi'n mynd i'w cymryd os bydd rhywbeth yn cael ei ddatgelu i chi neu os oes gennych bryder?

• Ydych chi'n gwybod pa gymorth sydd ar gael i'r person ifanc ac i chi?

• Sicrhewch eich bod ond yn defnyddio pwyntiau cyswllt proffesiynol (ffôn a chyfryngau cymdeithasol) wrth gysylltu â phobl ifanc.

• Peidiwch â phostio unrhyw beth a allai eich rhoi chi neu berson ifanc mewn perygl.

• Cytunwch ar reolau sylfaenol gyda phobl ifanc ar ddechrau eich cyfarfod ar-lein.

• Gwnewch yn siŵr fod y bobl ifanc yn gwybod mai dim ond rhwng adegau penodol y bydd modd cysylltu â chi.

• Diffoddwch eich gosodiadau lleoliad a rhowch gefndir niwtral er mwyn peidio â datgelu eich lleoliad.

• Byddwch yn glir – rhowch wybod i bobl ifanc beth y gallant gysylltu â chi amdano. Yna byddwch yn barod ar gyfer yr annisgwyl.

Adnoddau a llinell gymorth yr NSPCC

NSPCC

Mae'r NSPCC wedi llunio rhestr o adnoddau i gefnogi eich gwaith gyda phobl ifanc a'u teuluoedd yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Mae hyn yn cynnwys cyngor ar sut i gael sgyrsiau anodd am y pandemig; gwybodaeth ar sut i adnabod arwyddion o gamdriniaeth ac esgeulustod tra'n ymbellhau'n gymdeithasol; ac adnoddau dwyieithog i helpu oedolion i ymateb i blant sy'n datgelu camdriniaeth.

Mae llinell gymorth yr NSPCC yn parhau i fod yn gwbl weithredol yn ystod y cyfnod hwn gyda gweithwyr proffesiynol wrth law i drafod eich pryderon am unrhyw blentyn, i roi cyngor arbenigol ac i gymryd camau priodol i amddiffyn y plentyn. Ffoniwch nhw ar 0808 800 5000 neu e-bostiwch help@nspcc.org.uk.

Adnodd Notion yn mynd o nerth i nerth

Mae'r Rhwydwaith Trawsnewid Gwaith Ieuenctid Digidol, ar ran y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, yn parhau i ychwanegu adnoddau at y safle Notion i helpu’r sector ieuenctid i weithio'n well drwy ddefnyddio dulliau digidol. Adnodd cydweithredol yw hwn, sydd wedi ei gyfoethogi â cyfraniadau gan y sector. Cyflwynwch unrhyw ddolenni a gwybodaeth ddefnyddiol sydd gennych yn uniongyrchol drwy'r llwyfan hwn

Yr wythnos hon, yr hyn sydd o ddiddordeb arbennig yw'r canllawiau a gynhyrchwyd gan Barnardos ar ddefnyddio WhatsApp gyda phobl ifanc, a'r canllawiau gan Wasanaeth Ieuenctid Caerffili ar arfer gorau wrth ddefnyddio cynadledda fideo Zoom gyda phobl ifanc. Ceir dolenni yma: yma

Cofrestrwch ar gyfer Gweminarau Pro-Mo-Cymru

Mae ProMo-Cymru'n cynnal eu gweminar nesaf o'r gyfres Creating Conversations ddydd Iau 30 Ebrill am 13:30-14:15. Byddant yn edrych ar sut y mae algorithmau’r cyfryngau cymdeithasol yn gweithio a sut y gellir defnyddio'r rhain er ein budd ni.

Nid yw'r ddolen gofrestru’n fyw eto, ond cadwch lygad ar eu tudalen Twitter am y newyddion diweddaraf.

Os ydych wedi colli unrhyw un o'r pedair gweminar flaenorol – a oedd yn trafod cynadledda ar-lein, apps negeseua i bobl ifanc, tueddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol a chreu fideos o gartref - gallwch ddal i fyny yma.

Meic – mwy o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael

Mae'r erthygl hon yn rhoi mwy o wybodaeth am y gefnogaeth a ddarperir gan y gwasanaeth Meic i helpu i ddiogelu ein pobl ifanc.

• Mae'r gwasanaeth ar gael o 8am i 12 hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos.

• Mae cymorth ar gael ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys iechyd meddwl, cydberthnasau, tai a materion sy'n seiliedig ar hawliau (llais yr ifanc, dewis a rheolaeth)

• Caiff y gwasanaeth ei staffio gan dîm o Eiriolwyr Gynghorwyr o amrywiaeth o gefndiroedd, gan gynnwys gyrfaoedd, y gwasanaeth ieuenctid, y gwasanaethau cymdeithasol, y gyfraith a'r proffesiwn addysgu.

• Mae'r tîm wedi'i hyfforddi mewn ASIST (atal hunanladdiad) yn ogystal ag anogaeth (coaching), ymyrraeth sy'n canolbwyntio ar atebion, arferion adferol, cymorth cyntaf iechyd meddwl ieuenctid a diogelu, ac felly maent mewn sefyllfa dda i gynnig cymorth cyswllt cyntaf.

• Ceir adnoddau mewnol helaeth sy'n ategu gwybodaeth yr Eiriolwyr Gynghorwyr er mwyn llywio'r broses drosglwyddo 3 ffordd, cyfeirio, ac atgyfeirio a hefyd dolenni i gymorth ar-lein ac wyneb yn wyneb - yn uniongyrchol i bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol.

• Mae system dyletswydd ar alwad yn darparu cymorth i'r Eiriolwyr Gynghorwyr gyda phrotocolau a llwybrau clir lle ceir bygythiad i fywyd a pherygl hanesyddol neu gyfredol o niwed yn ymwneud â'r system ddyletswydd, yr heddlu a'r gwasanaethau cymdeithasol.

• Manylion cyswllt: ffôn 080880 2345; Testun 84001; a negeseua gwib a mynediad i fideos, adnoddau, erthyglau drwy www.meiccymru.org.

#AskAYouthWorker a phwysigrwydd cynnal ymarfer myfyriol yn ystod y dyddiau rhyfedd hyn

Mae Geraint Turner, Cyfarwyddwr Rhaglenni a Phartneriaethau yn MAD Abertawe wedi ysgrifennu atom i roi gwybod i ni am y fenter #AskAYouthWorker; sy’n gyfle i bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol gysylltu â gweithwyr proffesiynol ym maes gwaith ieuenctid ar Twitter ac Instagram.
Menter gydweithredol yw hon gydag ymarferwyr gwaith ieuenctid o amrywiaeth o sefydliadau yn darparu awr yr wythnos yr un o ymgysylltu â'r cyfryngau cymdeithasol.

Mae'r gwasanaeth wedi cael cefnogaeth dda ond mae'r gweithwyr proffesiynol dan sylw wedi cydnabod bod angen i ddod at ei gilydd a meddwl am eu rhyngweithio a'u cysylltiadau. Mae'r lle diogel hwn, sy'n defnyddio meddalwedd fideo gynadledda, yn galluogi'r grŵp i rannu eu gwaith mewn lleoliad cefnogol. Teimla Geraint, er ei bod yn hawdd sgipio sesiynau ymarfer myfyriol wrth wynebu sefyllfa argyfyngus, eu bod yn hollbwysig i gefnogi lles eich staff.

Cyfarfodydd Cymdeithasol ZOOM Rhanbarthol CWVYS

CWVYS

Yn dilyn llwyddiant y gyfres gyntaf o gyfarfodydd ZOOM, pan fynychodd 38 o aelodau CWVYS, mae dyddiadau'r gyfres nesaf o ddyddiadau wedi eu rhyddhau.

Bydd y gyfres nesaf o gyfarfodydd rhanbarthol ZOOM CWVYS yn canolbwyntio ar ddiogelwch a hyfforddiant.
Cysylltwch gyda Catrin James catrin@cwvys.org.uk i dderbyn gwahoddiad i ymuno yn y cyfarfod yn eich rhanbarth chi:-

Canol De a De ddwyrain Cymru - 30/4/20 –10yb to 11yb
Gogledd Cymru – 1/5/20 10yb to 11yb
De Orllewin a Chanolbarth Cymru - 1/5/20 1yp to 2yp

Bydd y cyfarfodydd yn darparu gofod cefnogol i’r sector:-
• Cadw mewn cyswllt gyda’n gilydd
• Canolbwyntio ar themâu penodol e.e. hyfforddiant, diogelwch, cyllido
• Cefnogi a rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth
• Cyfathrebu pryderon a materion o bwys y sector i eraill
• A bach o hwyl 

Covid-19 Canllawiau ETS Cymru

Mae nifer o gydweithwyr wedi codi ymholiadau am effeithiau posibl sefyllfa COVID-19, yn arbennig ar leoliadau gwaith maes mewn rhaglenni Gwaith Ieuenctid a Chymunedol a gydnabyddir gan y JNC.

Darllenwch y cyngor canlynol gan ETS Cymru
Sector Addysg Uwch
Sector Addysg Bellach

Adnoddau Cymorth i Fenywod Cymru ar gyfer pobl ifanc ar gydberthnasau iach

Mae cymorth i ferched Cymru wedi datblygu cyfres o bosteri ar gynnal cydberthnasau iach yn ystod COVID-19.

Mae'r wybodaeth wedi'i thargedu'n benodol at blant yn eu harddegau gan eu cyfeirio i gymorth a chyngor sy'n briodol i’w hoedran i'w cadw'n ddiogel yn ystod y cyfnod hunanynysu.

Dilynwch y ddolen hon i'w gwefan i gael mynediad at y posteri ar-lein yma

Papyrus HOPELINEUK

Papyrus

PAPYRUS yw'r elusen genedlaethol sy'n ymroddedig i atal hunanladdiad ifanc. Mae'r sefydliad yn gweithredu HOPELINEUK, gan ddarparu cefnogaeth gyfrinachol am ddim i bobl ifanc y mae hunanladdiad yn effeithio arnynt a'r rhai a allai fod yn poeni am berson ifanc.

Hunanladdiad yw'r llofrudd mwyaf o bobl ifanc yn y DU a phob blwyddyn, mae miloedd lawer yn ceisio neu'n ystyried lladd eu hunain neu'n dioddef ar eu pennau eu hunain, yn ddiangen i siarad yn agored am sut maen nhw'n teimlo. Yn yr hinsawdd sydd ohoni, mae perygl y gall pobl fod yn ei chael hi'n anodd cael eu hynysu oddi wrth ffrindiau, cael eu heffeithio gan ddadansoddiadau perthynas ac o bosibl yn methu â chyrchu eu gwasanaethau cymorth arferol. Rydym yn ddiolchgar am eich help i hyrwyddo'r gwasanaeth i bobl ifanc a theuluoedd.

Mae HOPELINEUK ar agor 9am - 10pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a 2pm - 10pm yn ystod penwythnosau a gwyliau banc.

Ffôn – 0800 068 4141
Tecstio – 07860 039967
Ebost – pat@papyrus-uk.org

Neges gan y Gweinidog Addysg

Kirsty Williams

Cliciwch ar y ddelwedd uchod i weld neges fideo Kirsty Williams ar Drydar.

Rhannwch y neges fideo hon gan y Gweinidog Addysg , sy'n amlinellu'r cymorth arbenigol sydd ar gael i bobl sy'n dioddef trais a cham-drin domestig. Mae'r llinell gymorth Byw Heb Ofn ar gael 24 awr y dydd, ac mae'n cynnig cymorth a chyngor gan gwnselwyr hyfforddedig. Rhannwch hyn gyda'ch rhwydweithiau a pharhewch i hyrwyddo'r gwasanaeth i unrhyw bobl ifanc yr ydych mewn cysylltiad â nhw.

Dolenni Defnyddiol

Tudalennau Llywodraeth Cymru am y Coronafeirws (Covid-19) yma

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cwestiynau cyffredin am ddiogelu a chynnal plant a phobol ifanc sy’n agored i niwed yn ystod y pandemig coronafeirws. Bydd y cwestiynau hyn yn cael eu diweddaru yn wythnosol. Linc Yma

Byddwch yn rhan o’r Cylchlythyr Gwaith Ieuenctid

Cysylltwch â ni i roi gwybod i ni sut rydych chi'n addasu'ch gwasanaethau i bobl ifanc yn y cyfnod cyfredol.

Cysylltwch â ni trwy e-bost a byddwn yn darparu canllaw arddull ar gyfer cyflwyno erthyglau i ni gwaithieuenctid@llyw.cymru

Gadewch i ni ddathlu’r gwaith rhagorol rydych chi’n ei wneud!

Cofiwch ddefnyddio #YouthWorkWales #GwaithIeuenctidCymru wrth drydar i godi proffil Gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Ydych chi wedi tanysgrifio ar gyfer Bwletin Gwaith Ieuenctid? 
Cofrestrwch yn gyflym yma

 
 
 

AMDANOM NI

E-gylchlythyr bob pythefnos yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth i'r sector gwaith ieuenctid yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus presennol.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

beta.llyw.cymru/gwaith-ieuenctid-ac-ymgysylltu


Cysylltwch â ni:

gwaithieuenctid@llyw.cymru

Dilyn ar-lein: