Bwletin: Cronfa Cadernid Economaidd - £100m ychwanegol; Yswiriant aflonyddwch busnes - galwad am dystiolaeth; Cynllun Cadw Swyddi ar agor

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

20 Ebrill 2020


C19

Llywodraeth Cymru yn rhyddhau cefnogaeth fusnes ychwanegol o £100m wrth i’r Gronfa Cadernid Economaidd dderbyn nifer digynsail o geisiadau

Mae cam diweddaraf Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru wedi elwa o ryddhau £100 miliwn yn rhagor gan weinidogion o fewn 72 awr i lansio, oherwydd galw aruthrol.

Derbyniwyd mwy na 6,000 o geisiadau grant gan fusnesau bach a chanolig a mentrau cymdeithasol o fewn 24 awr i’r lansiad ddydd Gwener – ymateb digynsail gan ddatgelu graddfa’r heriau mae busnesau Cymru’n eu hwynebu.

Nod y Gronfa yw ategu a llenwi’r bylchau sydd wedi’u gadael gan gynlluniau Llywodraeth y DU, fel y Cynllun Cadw Swyddi, gyda grantiau o hyd at £10,000 ar gyfer micro-fentrau a hyd at £100,000 ar gyfer BBaCh a system arfarnu cyffyrddiad ysgafn wedi’i chynllunio i gael arian i fusnesau heb fawr ddim oedi – yn ogystal â chronfa benthyciadau newydd sy’n cael ei gweinyddu gan Fanc Datblygu Cymru.

Mwy o fanylion ar gael yma.

Edrychwch a ydych yn gymwys ar: https://fundchecker.businesswales.gov.wales/cy


Ydy eich cwmni yswiriant wedi gwrthod hawliad am darfu ar fusnes?

Ar 15 Ebrill 2020, ysgrifennodd Prif Weithredwr dros dro yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol lythyr at Brif Swyddogion Gweithredol yn y sector yswiriant, yn benodol ynglŷn ag yswiriant tarfu ar fusnes: Os yw eich cwmni yswiriant wedi gwrthod hawliad am darfu ar fusnes, gofynnir ichi rannu’r wybodaeth ganlynol â Vist Britain:

  • Enw’r cwmni yswiriant
  • Yr union fath o hawliad a wnaed
  • Y rheswm a roddwyd gan y cwmni yswiriant am beidio â thalu.

Anfonwch eich ymateb at TIER@visitbritain.org

Rydym yn deall bod y wybodaeth y gofynnir amdani yn gyfrinachol ac yn sensitif, a hoffem roi sicrwydd i fusnesau na fydd yn cael ei rhannu ond â’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ac na fydd yn cael ei defnyddio ond at y dibenion a nodwyd uchod.

 


Y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws ar agor

Mae gwasanaeth hawlio ar-lein y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws wedi’i lansio heddiw ar GOV.UK. Gall unrhyw endid ar gyflogres y DU ymgeisio, gan gynnwys busnesau, elusennau, asiantaethau recriwtio ac awdurdodau cyhoeddus. I baratoi eich hawliad, bydd angen i chi:

  • gael Rhif Adnabod a Chyfrinair ar gyfer Porthol y Llywodraeth – os nad oes gennych gyfrif, gallwch ymgeisio am un ar-lein
  • bod wedi eich cofrestru ar gyfer PAYE ar-lein – os nad ydych wedi cofrestru eto, gallwch gofrestru yma.
  • cael yr wybodaeth ganlynol ar gyfer pob gweithiwr ar y cynllun seibiant y byddwch yn hawlio ar eu cyfer: Enw, Rhif Yswiriant Gwladol, Cyfnod yr hawliad a swm yr hawliad, rhif PAYE/cyflogwr (opsiynol).
  • os oes gennych lai na 100 o staff ar y cynllun seibiant, nodi’r wybodaeth yn uniongyrchol yn y system ar gyfer pob gweithiwr. Os oes gennych 100 neu fwy o staff ar y cynllun seibiant – bydd angen ichi lanlwytho ffeil sy’n cynnwys gwybodaeth pob gweithiwr; bydd HMRC yn derbyn y mathau a ganlyn o ffeiliau: .xls .xlsx .csv .ods.

Dylech gadw pob cofnod a chyfrifiad mewn perthynas â’ch hawliadau. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y cynllun ac i weld a ydych yn gymwys yma.


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram