Newyddion Caffael gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru

Ebrill 2020 • Rhifyn 027

 
 

Newyddion

Gweithwyr Wrth Gefn yr effeithir arnynt gan COVID-19

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau ychwanegol ar Nodyn Polisi Caffael 02/20: Rhyddhad cyflenwyr oherwydd COVID-19.

Mae'r canllawiau'n ymwneud â mesurau y gall awdurdodau contractio eu defnyddio i'w rhoi ar waith gyda Gweithwyr Wrth Gefn y mae COVID-19 wedi effeithio arnynt.

Mae’r Nodyn Polisi Caffael ar gael yma ac mae’r canllawiau ar gael yma.

Mae Swyddfa Cabinet y DU wedi cyhoeddi tri Nodyn Polisi Caffael ers yr achosion o COVID-19. Mae rhagor o wybodaeth amdanynt ar gael yma.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch: COVID-19.Procurement@llyw.cymru

Rydym ni eisiau clywed gennych chi

 

Yn dilyn yr achosion o COVID-19, rydym wedi dechrau cyhoeddi’r cylchlythyr hwn yn wythnosol, gyda ffocws cryf ar COVID-19 a chaffael. Hoffem glywed eich barn a’ch awgrymiadau ar y dull hwn, er mwyn sicrhau bod ein cylchlythyr yn bodloni’ch anghenion. Cymerwch ychydig funudau i gwblhau’r arolwg byr yma.

 

Os hoffai unrhyw un o'ch cydweithwyr gael eu hychwanegu at y dosbarthiad, gallant ofyn am danysgrifio yma.

 

Os oes gennych awgrymiadau ar gyfer cynnwys, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni: COVID-19.Procurement@llyw.cymru.

Q&A
 
 
 

YNGLŶN Â’R CYLCHLYTHYR HWN

Nod y cylchlythyr hwn yw dwyn ynghyd newyddion gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ac is-adran Gwerth Cymru o fewn Llywodraeth Cymru ac unrhyw wybodaeth bwysig arall a ddaw i law sy'n ymwneud â maes caffael.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

gcc.llyw.cymru/

llyw.cymru/gwerthcymru

Dilyn ar-lein:

twitter link