Rydyn ni yng nghanol argyfwng o ran iechyd y cyhoedd ac mae ein dibyniaeth ar ein gilydd yn hollbwysig er mwyn gallu ‘gostwng y gromlin’, lleihau’r baich ar ein GIG gwych, ac achub bywydau yn y pen draw. Ar yr adeg hon, mae ymateb Gwaith Ieuenctid ledled Cymru wedi dangos ei fod yn greadigol, yn ymroddgar ac yn ymarferol yn ei ddulliau. Oherwydd bod prosiectau a chanolfannau ieuenctid wedi cau yn sgil y cyfyngiadau symud, mae gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid yn cefnogi ysgolion sydd wedi’u haddasu at ddibenion gwahanol, yn dosbarthu prydau ysgol am ddim, yn dyfeisio dulliau digidol o gysylltu â phobl ifanc ac ymateb i’w pryderon, eu hanghenion a’u ceisiadau am gymorth.
Yn amlwg, rydyn ni’n ceisio dod o hyd i ffyrdd newydd o weithio. Mae hwn yn gyfnod rhyfedd ac anodd i bawb, ac mae’r sylw yn y cyfryngau hyd yn hyn wedi canolbwyntio’n helaeth ar yr effaith ar blant, teuluoedd, pobl hŷn a phobl agored i niwed. Ond beth am yr effaith ar ein pobl ifanc? Y bobl ifanc mae gwaith ieuenctid yma i'w gwasanaethu. Sut mae’n teimlo iddyn nhw?
Gall bod yn agored i niwed olygu llawer o wahanol bethau, ac mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn meddwl yn aml am y bobl ifanc sy’n ddigartref, y rheini mae eu llesiant yn dibynnu ar ryngweithio cymdeithasol a chyswllt ag oedolyn maen nhw’n ymddiried ynddo, y rheini nad yw eu cartrefi’n ddiogel, y rheini sydd mewn perygl o wynebu camfanteisio, y rheini sy’n dioddef gorbryder a straen, y rheini sydd mewn mannau diogel, a’r rheini sy’n wynebu problemau o ran talu rhent a chael dau ben llinyn ynghyd.
Mae gwaith ieuenctid, wrth gwrs, yn dangos ei werth unwaith eto ac yn ymgymryd â'r her o gefnogi llawer o'r bobl ifanc hyn yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau symud. Fodd bynnag, fel rydw i wedi clywed gan lawer ohonoch chi eisoes, mae’r sector gwaith ieuenctid ei hun yn teimlo’r straen ac yn ei chael yn anodd cynnal lefel y gwasanaeth ac ymateb i'r galw cynyddol. Yn ystod y cyfnod hwn, mae’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro a minnau wedi ymrwymo i’ch helpu chi sut bynnag y gallwn ni. Rydyn ni’n ymgysylltu â chynrychiolwyr y sector ac yn casglu eu cwestiynau at ei gilydd. Byddwn yn dechrau mynd ati i ateb y rhain yn y cylchlythyr – gweler yr adran cwestiynau cyffredin isod; byddwn yn parhau i ddatblygu’r adran ym mhob bwletin.
Un peth rydw i’n sicr ohono yw y dylai gwaith ieuenctid, sy’n cael ei ddarparu gan weithwyr ieuenctid yn y sector gwirfoddol a'r sector a gynhelir, gael ei gydnabod fel gwasanaeth allweddol hanfodol, ac nid yn ystod yr argyfwng hwn yn unig. Er bod llawer o ymdrech wedi cael ei wneud i’w gryfhau, mae pa mor fregus y sector yn amlygu pa mor werthfawr ydyw i bobl ifanc.
Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom ni gynnal cyfarfod Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro Cymru. Yn ystod y cyfarfod, cytunom i atal rhywfaint o’n gwaith dros dro er mwyn canolbwyntio ar ymateb y sector gwaith ieuenctid i Covid-19. Un o'r pethau a drafodwyd oedd bod angen gwell cydlyniant cenedlaethol a chymorth i fentrau lleol. Un maes y mae angen y math hwn o gymorth arno ar frys yw gwaith ieuenctid digidol. Felly, rydw i’n falch iawn o roi gwybod i chi bod y Rhwydwaith Trawsnewid Ieuenctid Digidol, sef Is-grŵp Digidol y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, wedi dechrau canolbwyntio ar y maes hwn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr erthygl isod. Ewch ati i ddarllen, pori drwy’r dolenni a ddarperir ac ystyried sut gallech chi gyfrannu at yr ymdrechion hyn.
Un o flaenoriaethau eraill y Bwrdd yw ymgysylltu’n uniongyrchol â phobl ifanc ac anfon negeseuon atynt. Fel y soniais uchod, mae llawer o’r cyfathrebu hyd yn hyn wedi cael ei anelu at blant a theuluoedd. Mae’n bwysig ein bod yn cyfathrebu â phobl ifanc yn uniongyrchol yn ystod y cyfnod hwn, er mwyn esbonio’r camau maen nhw’n gallu eu cymryd i’w diogelu eu hunain ac eraill, ac i ymateb i’w pryderon – yn enwedig y rheini sy’n teimlo eu bod ar yr ymylon neu’n agored i niwed. Rydw i’n gwybod bod rhywfaint o waith eisoes yn cael ei wneud yn y maes. Bydd cydweithwyr yn y Grŵp Marchnata yn gweithio i ddarparu Fframwaith Cyfathrebu cenedlaethol i gefnogi'r gwaith hwn a bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyflwyno mewn bwletinau yn y dyfodol.
Mae gan y bobl ifanc eu hunain ran hollbwysig i'w chwarae yn yr ymateb i Covid-19. Drwy weithio mewn partneriaeth, mae’r Bwrdd yn bwriadu rhoi mesurau ar waith i sicrhau ein bod yn clywed lleisiau pobl ifanc ac yn dod o hyd i ffordd o ymateb i’r hyn sydd ganddyn nhw i’w ddweud.
I gefnogi’r holl ymdrechion hyn, ac ymdrechion y sector yn ehangach, rydyn ni’n bwriadu symud tuag at amserlen lle byddwn yn cyhoeddi'r Bwletin bob pythefnos, gan ddechrau heddiw. A fyddech cystal ag annog holl aelodau’ch tîm i gofrestru i gael y cylchlythyr, a’i rannu cymaint â phosib drwy eich sianeli cyfryngau cymdeithasol i sicrhau bod y bwletin yn cyrraedd cymaint o wirfoddolwyr, ymarferwyr a rheolwyr â phosib ym maes gwaith ieuenctid.
Wrth gwrs, os yw'r Bwletin Gwaith Ieuenctid hwn am fod yn werthfawr, bydd angen i chi gyfrannu ato – drwy ddarparu enghreifftiau o arferion da, pethau yr hoffech chi eu rhannu, neu gwestiynau yr hoffech chi gael atebion iddynt. Anfonwch eich holl gyfraniadau at: gwaithieuenctid@llyw.cymru
Un neges fach arall gen i ... mae hi wedi bod yn bleser gweld nad yw gwaith ieuenctid wedi colli ei synnwyr o hwyl, a’i fod yn parhau i gydnabod pa mor bwysig yw chwarae, hyd yn oed mewn cyfnod fel hwn. Rydyn ni wedi cynnal amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys fideos o weithwyr yn chwarae ‘keepy uppy’ gyda rhôl o bapur toiled (rwyt ti’n gwybod pwy wyt ti ... Grant), nosweithiau cwis, gweithdai cerddoriaeth a chanu, ymarferion cadw’n heini, syniadau celf a chrefft, a thrin gwallt yn y cartref. Gobeithio y bydd hyn yn parhau am amser hir...
Keith Towler Cadeirydd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro
Fel mae Keith yn ei nodi uchod, mae'r trydydd sector a'r sector a gynhelir wedi bod yn ddyfeisgar dros ben yn defnyddio llawer o ddulliau digidol ac ar-lein er mwyn parhau i wneud gwaith ieuenctid yn ystod y pandemig hwn. Er bod hyn oll enghraifft wych o gydnerthedd y sector, mae heriau newydd yn dod yn ei sgil. Mae sefydliadau nad ydynt wedi arfer gweithio’n ddigidol yn chwilio am gyngor ar y ffyrdd gorau a mwyaf diogel o weithio ar-lein, ac mae’r rheini sydd wedi arfer gwneud hynny yn gwneud eu gorau glas i’w cynghori mewn cyd-destun sy’n newid yn gyson ac yn anodd cadw ar ei ben.
Dyna pam mae'r Bwrdd wedi gofyn i'r Rhwydwaith Trawsnewid Ieuenctid Digidol addasu ei gylch gwaith i fod yn gyfrifol am gydlyniant cenedlaethol o ran rhannu gwybodaeth, adnoddau, dulliau gweithredu, hyfforddiant a chanllawiau ar waith ieuenctid digidol mewn ymateb i'r cyfyngiadau yn sgil Covid-19.
Un o’n camau gweithredu cyntaf oedd mabwysiadu llwyfan rhannu gwybodaeth newydd a ddatblygwyd gan Nathan Williams o ProMo Cymru. Bydd y wefan hon yn cael ei defnyddio i gadw'r adnoddau rydyn ni’n eu casglu neu eu datblygu ac i osgoi dyblygiad ar draws ein sefydliadau amrywiol.
Y peth cyntaf rydyn ni’n gofyn i chi ei wneud yw ateb dau gwestiwn gan ddefnyddio'r ffurflen syml hon ar y wefan.
1. Pa wasanaethau mae eich sefydliad yn parhau i’w darparu? Rydyn ni’n gwybod bod gweithwyr ieuenctid yn darparu cymorth hollbwysig i bobl ifanc er mwyn helpu i gynnal eu llesiant, eu hiechyd a’u hapusrwydd, ond hefyd yn gwybod bod llawer o’r hyn oedd yn digwydd wyneb-yn-wyneb wedi stopio. Mae gwasanaethau cymorth cyffredinol fel Meic a Childline yn dal yn gweithredu eu llinellau cymorth ond nid ydynt yn siŵr pa gymorth lleol maen nhw’n gallu cyfeirio ato. Rhowch wybod i ni pa wasanaethau sydd ar gael er mwyn i ni allu eu pasio ymlaen iddyn nhw.
2. Pa ddulliau ydych chi’n eu defnyddio? Er bod aelodau o'r Rhwydwaith yn hapus i helpu a rhoi cymorth, rydyn ni hefyd yn siŵr bod unigolion a sefydliadau eraill yng Nghymru a fyddai’n gallu cyfrannu eu harbenigedd. Rhowch wybod i ni a fyddech chi’n gallu ymuno â ni er mwyn helpu i gefnogi'r sector wrth i ni i gyd addasu i’r ffordd newydd hon o weithio.
Mae aelodau’r rhwydwaith yn dod o bob rhan o'r sector gwaith ieuenctid yng Nghymru ac yn cynnwys cynrychiolwyr o’r Urdd, awdurdodau lleol, MAD Abertawe, CWVYS a ProMo Cymru. Rydyn ni’n cynnal cyfarfodydd fideo wythnosol i wneud yn siŵr ein bod yn gallu cadw ar ben y datblygiadau diweddaraf.
Fel Cadeirydd ac aelod brwd o’r Rhwydwaith, mae talent a haelioni’r grŵp o ran eu parodrwydd i rannu eu hamser, eu gwybodaeth a’u harbenigedd wedi creu argraff enfawr arna i.
Tarwch olwg ar y wefan, nodwch unrhyw wybodaeth sydd gennych chi a chadwch lygad am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Dusty Kennedy, Aelod o Fwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro Cymru
C: A oes modd i Weithwyr Ieuenctid gael eu cydnabod yn Weithwyr Allweddol?
A: Mae’r rhestr o weithwyr allweddol (hanfodol) ar gael yn yma. Mae’n rhestr seiliedig ar sectorau, yn ddibynnol ar ba fath o waith maen nhw’n ei wneud. Gall gweithwyr ieuenctid ddod o fewn cwmpas nifer o gategorïau (e.e. gweithiwr addysg proffesiynol arbenigol neu weithiwr sy’n darparu gwasanaethau allweddol ar y rheng flaen). Does dim cynlluniau i newid y categorïau hyn ar hyn o bryd, fodd bynnag, rydyn ni’n gofyn i chi gysylltu â ni yn Gwaithieuenctid@llyw.cymru os ydych chi’n wynebu problemau ymarferol ar lawr gwlad.
C: Ble alla i gael cymorth ariannol ar gyfer gweithgareddau gwirfoddoli?
A: Mae Cronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol yn rhan o Gronfa Ymateb Llywodraeth Cymru i Covid-19 yng nghyswllt y Trydydd Sector, a gyhoeddwyd ar 27 Mawrth 2020. Mae’r gronfa ar gyfer sefydliadau gwirfoddol sydd â chostau cysylltiedig â’r cynnydd mewn gweithgareddau gwirfoddoli ac addasu anghenion y gwasanaeth yng nghyswllt y Coronafeirws. Bydd y gronfa hon yn sicrhau bod gan sefydliadau gwirfoddol yr adnoddau angenrheidiol i ddarparu gwasanaethau hollbwysig i’w cymunedau yn ystod y cyfnod hwn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Mae amryw o opsiynau eraill i'w hystyried hefyd, ac fe gaiff sefydliadau'r sector gwirfoddol eu hannog i gysylltu â’r sefydliadau sy’n eu cynrychioli neu aelod-sefydliadau i gael rhagor o wybodaeth.
C: Rydw i’n cael cyllid i ddarparu gweithgaredd penodol, a fydd fy nghyllidwr yn bod yn hyblyg yn ystod y cyfnod hwn?
A: Mae’n anodd rhoi ateb cynhwysfawr yma o ystyried yr amrywiaeth eang o ffrydiau cyllido sy’n cefnogi gweithgareddau gwaith ieuenctid yng Nghymru. Ein gobaith ni, wrth gwrs, yw y bydd yr holl gyllidwyr yn ystyried beth maen nhw’n disgwyl ei gael o’r cyllid maen nhw’n ei ddarparu yn ystod pandemig Covid-19, ac rydyn ni’n ymwybodol bod nifer ohonynt wedi datgan eu bwriad yn hynny o beth gyhoeddus. Lle bo gennych chi bryderon penodol, fe’ch anogir i gysylltu â’ch cyllidwr yn uniongyrchol a/neu drafod â’r sefydliad sy’n eich cynrychioli.
Lle bynnag y bo hynny’n bosib, bydd Llywodraeth Cymru yn bod yn hyblyg yng nghyswllt trefniadau ariannu yn ystod y cyfnod hwn. Bydd achosion yn cael eu hystyried fesul un. Fe ddylech chi gysylltu â'ch swyddog arweiniol i drafod ymhellach os ydych chi’n cael cyllid i ddarparu dulliau/gweithgareddau gwaith ieuenctid penodol.
C: Beth yw absenoldeb seibiant a beth mae’n ei olygu i mi/fy sefydliad?
A: Ffordd i gyflogwyr gadw staff ar y gyflogres os nad ydyn nhw’n gallu gweithredu neu os nad oes ganddyn nhw waith i’w wneud oherwydd y sefyllfa bresennol gyda Covid-19. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gael 80% o’ch cyflog, hyd at uchafswm o £2,500 y mis. Mae canllawiau ar beth mae hyn yn ei olygu i chi fel cyflogwr neu gyflogai ar gael drwy ddefnyddio'r dolenni isod.
https://llyw.cymru/coronafeirws-cymorth-ariannol-i-gadw-eich-gweithwyr
https://wcva.cymru/cy/rhoi-seibiant-i-gyflogeion-ar-cynllun-cadw-swyddi-drwy-gyfnod-coronafeirws
Yn ychwanegol at y gefnogaeth werthfawr rydych chi'n ei darparu i bobl ifanc, mae'n bwysig gwybod bod yna ffyrdd eraill iddyn nhw gael help a chyngor hefyd. Os nad ydych chi eisoes, efallai yr hoffech chi ystyried eu gwneud yn ymwybodol o linell gymorth Meic - gweler isod am grynodeb o'r hyn sydd ar gael i bobl ifanc.
Meic ydy’r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. I ddarganfod beth sy’n digwydd yn dy ardal leol neu am help i ymdrin â sefyllfa anodd, bydd Meic yn gwrando pan na fydd unrhyw un arall yn gwneud. Nid ydym yn barnu a byddem yn helpu wrth roi gwybodaeth, cyngor defnyddiol a’r gefnogaeth sydd ei angen arnat i wneud newid.
Rhadffon 080 8802 3456 Testun 84001 Gwe: www.meic.cymru
Bydd cyfarfodydd Cymdeithasol Rhanbarthol CWVYS trwy ZOOM, yn cael eu trefnu pob pythefnos i’r sector gwaith ieuenctid gwirfoddol. Mae CWVYS yn credu, yn ystod y cyfnod COVID-19 ei fod yn holl bwysig i estyn allan at ein haelodau a’u cefnogi.
Bydd y cyfarfodydd yn darparu gofod cefnogol i’r sector:- • Cadw mewn cyswllt gyda’n gilydd • Cefnogi a rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth • Cyfathrebu pryderon a materion o bwys y sector i eraill • A bach o hwyl
Cysylltwch gyda Catrin James catrin@cwvys.org.uk i dderbyn gwahoddiad i ymuno yn y cyfarfod yn eich rhanbarth chi:-
Canol De a De ddwyrain Cymru - 16/4/20 –10yb to 11yb Gogledd Cymru – 17/4/20 10yb to 11yb De Orllewin a Chanolbarth Cymru - 17/4/20 2yp to 3yp
Tudalennau Llywodraeth Cymru am y Coronafeirws (Covid-19) - https://llyw.cymru/coronafeirws
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cwestiynau cyffredin am ddiogelu a chynnal plant a phobol ifanc sy’n agored i niwed yn ystod y pandemig coronafeirws. Bydd y cwestiynau hyn yn cael eu diweddaru yn wythnosol. Linc Yma
Gwybodaeth am y llinell gymorth Byw Heb Ofn a chadw’n ddiogel yn ystod argyfwng y coronafeirws. Linc Yma
Cysylltwch â ni i roi gwybod i ni sut rydych chi'n addasu'ch gwasanaethau i bobl ifanc yn y cyfnod cyfredol. Cysylltwch â ni trwy e-bost a byddwn yn darparu canllaw arddull ar gyfer cyflwyno erthyglau i ni gwaithieuenctid@llyw.cymru
Gadewch i ni ddathlu’r gwaith rhagorol rydych chi’n ei wneud!
Cofiwch ddefnyddio #YouthWorkWales #GwaithIeuenctidCymru wrth drydar i godi proffil Gwaith ieuenctid yng Nghymru.
Ydych chi wedi tanysgrifio ar gyfer Bwletin Gwaith Ieuenctid? Cofrestrwch yn gyflym yma
|