Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
Mae’r sefyllfa’n datblygu’n gyflym. Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.
Mae llythyr digynsail oddi wrth Brif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi’i gyd-lofnodi gan y gwasanaethau argyfwng ac iechyd ac arweinwyr cynghorau Cymru, yn galw ar bawb yn y wlad i aros gartref dros benwythnos y Pasg er mwyn achub bywydau. Mwy o fanylion ar gael yma.
Cais i Fusnesau Llety Gwyliau ddarparu llety i grwpiau bregus
Mae Gweinidogion Cymru yn wynebu her benodol o ran sicrhau digon o lety ar gyfer grwpiau bregus, nifer ohonynt wedi’u dadleoli oherwydd yr epidemig Coronafeirws. Mae’r llythyr hwn gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas yn gofyn i fusnesau llety gwyliau ddarparu eu llety at y diben hwn. O ystyried y brys ynghylch y mater hwn, rydym am gael atebion erbyn 4pm ddydd Mawrth 14 Ebrill 2020.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer gweithredwyr llety gwyliau yng Nghymru sy’n ymwneud â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) Cymru 2020.
Mae’r canllawiau yn glir y dylai pob busnes llety gwyliau fod eisoes ar gau a rhaid iddynt aros ar gau nes clywir yn wahanol. Mae’n drosedd i berchnogion llety beidio â chydymffurfio â’r rheoliadau hyn. Mae hefyd yn drosedd i unrhyw un i atal perchnogion rhag cyflawni eu dyletswyddau. Cewch hyd i fwy o fanylion yma.
Yr Effaith ar y Diwydiant – Arolygon Tracio
Er mwyn darparu data ar yr effaith a helpu i gefnogi’r diwydiant yn ystod y cyfnod heriol hwn, fe wnaethom gynnal ail don o’n harolwg dros y ffôn a estynnwyd i 400 o fusnesau twristiaeth yng Nghymru ddiwedd mis Mawrth. Mae crynodeb o’r canfyddiadau i’w gweld yma.
Byddwn yn cynnal trydedd don o’r arolwg yn ddiweddarach yn y mis. Diolch yn fawr i’r rheini sydd wedi ymateb hyd yma, rydym yn ddiolchgar iawn eich bod wedi cymryd rhan.
Mae arolwg ar-lein wedi bod ar agor hefyd a bydd hwn yn cael ei ddiweddaru yn ddiweddarach yn y mis. Gallwch lenwi’r arolwg yma. Os ydych wedi llenwi’r fersiwn ar-lein flaenorol a’ch bod am gyflwyno ymateb newydd, efallai y bydd rhaid ichi adnewyddu tudalen eich porwr drwy ddefnyddio CRTL+F5.
Mae Croeso Cymru yn parhau i gysylltu’n ddyddiol â’r sector ledled Cymru, a heddiw cynhaliwyd eu cyfarfod wythnosol gyda’r grŵp o brif gynrychiolwyr y diwydiant sy’n sicrhau ein bod yn dod i glywed am y prif faterion sy’n cael effaith ar y diwydiant.
I grynhoi, y prif negeseuon oedd, tra yr oeddem yn croesawu y cymorth oedd eisoes wedi’i gyhoeddi, nid oedd y sefyllfa wedi newid ac roedd pethau yn barhau i fod yn anodd. Roed pryder penodol ynghylch llif arian a phobl yn cymryd y bydd y cyfyngiadau symud yn debygol o barhau am gyfnod hwy nag a ragwelwyd.
Dywedwyd bod rhai banciau yn araf yn cynorthwyo pobl ac nad oeddent yn gweithio’n broactif â busnesau. Croesawyd Cronfa Cydnerthedd Economaidd Llywodraeth Cymru, a nodwyd bod yr elfen gyntaf – Cronfa Fenthyciadau Banc Datblygu Cymru – wedi derbyn 1,500 o geisiadau mewn ychydig dros wythnos. Cafodd y ceisiadau cyntaf eu cymeradwyo o fewn tri diwrnod i lansio’r gronfa, gyda’r benthyciadau cyntaf yn cyrraedd yr ymgeiswyr erbyn diwedd yr wythnos ddiwethaf. Mae disgwyl cyhoeddiad arall ynghylch elfen grant y Gronfa Cydnerthedd Economaidd yn fuan.
Codwyd pryderon cyson y byddai’n 3-6 mis cyn y byddai’r diwydiant yn ôl i unrhyw beth tebyg i’r sefyllfa arferol, felly roedd angen rhagor o wybodaeth gan Lywodraeth y DU ynghylch seibiant – yn benodol wedi mis Mai, a staff tymhorol sy’n syrthio y tu allan i’r trefniadau hyn.
Roedd deall y cyfnod adfer hefyd yn cael ei ystyried yn bwysig iawn. Roedd bylchau o hyd o ran y pryderon ynghylch y cynllun cymorth i’r hunan-gyflogedig, a galwad ar i gwmnïau cyfleustodau roi rhywfaint o amser i fusnesau o ran taliadau yn ystod y cyfnod anodd hwn, ac i gwmnïau yswiriant ystyried eu hagwedd tuag at yswiriant tarfu ar fusnes.
Roedd adroddiadau amrywiol bod pobl yn parhau i geisio dod i Gymru i ymweld; bod cartefi gwyliau sy’n cael eu gosod fel ail gartrefi yn parhau i fod yn broblem; a bod y negeseuon parhaus gan Lywodraeth Cymru i bobl aros gartref i arbed bywydau yn cael eu croesawu.
Roedd y Gweinidog yn cydnabod y materion oedd wedi’u codi ac yn cadarnhau y byddent hwy, a nifer o rai eraill, yn cael eu trafod ar lefel Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU mewn ystod eang o gyfarfodydd Gweinidogol ac eraill.
Cafodd holl weithgareddau marchnata Croeso Cymru, ynghyd ag ymweliadau’r wasg a’r cyfryngau, eu hatal dros dro yng nghanol mis Mawrth. Rydym bellach yn llai amlwg o lawer ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn canolbwyntio ar wybodaeth am iechyd y cyhoedd a’r neges syml “Hwyl Fawr. Am y Tro”. Byddwn hefyd yn defnyddio’r holl blatfformau i rannu negeseuon gan gyrchfannau, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Heddlu ac eraill er mwyn cefnogi’r neges gyffredinol.
Mae’r sefyllfa’n cael ei hadolygu bob diwrnod ac rydym hefyd yn gosod y sylfeini i sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau bosibl i gefnogi’r diwydiant yn y tymor byr a’r tymor canolig.
Mae cronfeydd Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cronfa Croeso Cymru, wedi cael eu haddasu at ddibenion gwahanol er mwyn cefnogi Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru, cronfa sy’n werth £500m. Felly, ni all Croeso Cymru ddarparu cymorth uniongyrchol ond rydym yn annog Cymdeithasau a Sefydliadau Rheoli Cyrchfannau i edrych ar y cynlluniau grant sydd ar y ffordd o dan y Gronfa Cadernid. Bydd rhagor o fanylion ynghylch sut mae gwneud cais am y cyllid ar gael yr wythnos hon.
Mae Cynllun Benthyciadau Busnes Cymru COVID-19 wedi’i ddefnyddio’n llawn ar ôl derbyn mwy na 1,500 o geisiadau mewn ychydig dros wythnos.
Lansiwyd y cynllun gwerth £100 miliwn gan y Prif Weinidog ddydd Llun 30 Mawrth fel rhan o Gronfa Cadernid Economaidd gwerth £500 miliwn Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau i ddelio gyda’r achosion o goronafeirws.
Cymeradwywyd y benthyciadau cyntaf o fewn tridiau i lansio’r gronfa, gyda’r benthyciadau cyntaf yn cyrraedd yr ymgeiswyr erbyn diwedd yr wythnos ddiwethaf. Cewch hyd i fwy o fanylion yma.
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod yr adeg anodd, ddigynsail hon, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael yma. Mae’r rhain yn cynnwys:
- 8 Ebrill: Hysbysiad Brys i Fusnesau Llety Gwyliau (Diwygio) / Cais i Fusnesau Llety Gwyliau ddarparu llety i grwpiau bregus
- 02 Ebrill: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
- 30 Mawrth: Cronfa Cadernid Economaidd newydd gwerth £500 miliwn wedi’i lansio ar gyfer Cymru
- 27 Mawrth: Neges Frys i Fusnesau Llety Gwyliau
- 27 Mawrth: Cynllun Cymorth Incwm ar gyfer yr Hunangyflogedig; Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws
- 26 Mawrth: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
- 25 Mawrth: Neges Frys: COVID-19 – Cyngor i Berchnogion a Gweithredwyr Parciau Gwyliau
- 24 Mawrth: Canllawiau ar y Coronafeirws ar gyfer Busnesau ac Eiddo a fydd yn cau
- 23 Mawrth: Cyflwyno mesurau newydd cadarn heddiw i arafu lledaeniad y coronafeirws
- 19 Mawrth: Gweinidogion yn cyhoeddi pecyn cymorth newydd gwerth £1.4 biliwn i fusnesau
- 12 Mawrth: Coronafeirws: gwybodaeth i’r diwydiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y newyddion diweddaraf ar gyfer y diwydiant twristiaeth drwy ein dilyn ar @CroseoCymruBus, a hefyd anogwch eraill a allai fod ar eu hennill o wneud hynny i danysgrifio i’n cylchlythyr ni yma.
|