Defnyddio cardiau caffael ar gyfer caffael ar frys
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi trydydd Nodyn Polisi Caffael (PPN) ers achos COVID-19. Mae’r PPN diweddaraf yn ymwneud â defnydd cynyddol o gardiau prynu er mwyn helpu i gynyddu cyflymder ac effeithlonrwydd caffaeliadau brys yn ystod yr argyfwng.
Ysgrifennwyd y nodyn ar gyfer adrannau llywodraeth y DU ond gall pob sefydliad sector cyhoeddus ei ddefnyddio yn ôl disgresiwn swyddogion cyfrifyddu unigol.
Mae'r trydydd PPN ar gael yma (dolen allanol - Saesneg yn unig).
Mae'r ddau PPN cyntaf a gyhoeddwyd fis diwethaf, yn berthnasol i awdurdodau Cymru ac yn cael eu mabwysiadu gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, ni all Llywodraeth Cymru fandadu eu defnydd mewn awdurdodau eraill a bydd swyddogion cyfrifyddu ym mhob awdurdod yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â’u mabwysiadu.
Mae’r PPNs ar gael yma ac yma (dolenni allanol - Saesneg yn unig).
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch: COVID-19.Procurement@llyw.cymru
Mynediad i gyfanwerthwyr ar gyfer eitemau cartref
Er mwyn cefnogi'r sector cyhoeddus ac unrhyw drefniadau sydd gennych eisoes, mae gan Wasanaeth Masnachol y Goron (CCS) gytundeb â dau gyfanwerthwr mawr i ganiatáu mynediad i'w depos talu a chario ledled y wlad. Mae mynediad ar gael i adrannau'r Llywodraeth ac Awdurdodau Lleol yn y sectorau cartrefi gofal a gofal cymdeithasol sy'n ei chael hi'n anodd cael gafael ar gyflenwadau nwyddau fel cewynnau, weips a bwyd babanod (nid Cyfarpar Diogelu Personol).
Os oes angen i unrhyw un o'ch timau ddefnyddio hwn, e-bostiwch info@crowncommercial.gov.uk yn egluro pa eitem sydd ei hangen arnoch fel y gall CCS eich tywys trwy'r broses.
Rhoi gwybod am fusnes sy’n ymddwyn yn annheg
Mae’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd wedi datblygu offeryn newydd er mwyn i ddefnyddwyr roi gwybod am fusnesau sy’n gweithredu prisiau gormodol ac arferion eraill niweidiol yn ystod argyfwng COVID-19.
Os byddwch chi’n gweld busnes yn manteisio ar y sefyllfa bresennol ac yn ymddwyn yn annheg, gallwch roi gwybod amdano drwy ddefnyddio gwasanaeth cwynion busnes adeg y coronafeirws (dolen allanol - Saesneg yn unig). Mae enghreifftiau’n cynnwys busnesau’n gwerthu cynnyrch neu wasanaethau am brisiau annheg; problemau gyda chanslo, ad-dalu neu gyfnewid eitemau; a busnesau’n gwneud honiadau camarweiniol am gynnyrch neu wasanaethau.
Cymorth cyfathrebu am ddim ar gael i gwsmeriaid y GCC
Dros y tair blynedd diwethaf mae Cowshed, asiantaeth farchnata yng Nghaerdydd, wedi tyfu trwy ddefnyddio fframwaith y GCC. I roi rhywbeth yn ôl a dweud diolch, maen nhw'n cynnig cefnogaeth gyfathrebu am ddim i gwsmeriaid y GCC tra bod y cyfnod seibiant yn ei le.
Maen nhw’n cynnig ymgymryd ag unrhyw waith cyfathrebu nad oes gennych y gallu i'w wneud oherwydd eich bod yn rhoi adnoddau yn rhywle arall yn ystod y coronafeirws.
Ar hyn o bryd maen nhw’n gweithio gyda nifer o sefydliadau gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru sy'n cynnig cyngor strategol a thactegol yn ystod y coronafeirws a gallant gynnig mewnwelediad rhagorol ar sut i gyfathrebu yn y dyfodol, yn ogystal ag unrhyw gynllunio cyfathrebu brys y gallech chi fod angen cymorth ag ef.
Byddan nhw’n blaenoriaethu ceisiadau gan y trydydd sector a’r sector gwirfoddol ond os hoffech unrhyw help gyda'ch cyfathrebiadau, o ymgyrchoedd, rheoli’r cyfryngau cymdeithasol neu ddylunio neu gynllunio cyfathrebu strategol, cysylltwch â Vicki, Rheolwr Gyfarwyddwr Cowshed drwy ebostio info@wearecowshed.co.uk neu ewch i'w gwefan (dolen allanol - Saesneg yn unig).
Effaith COVID-19 ar Dechnoleg Gwybodaeth
Mae ein cymorth yn parhau trwy gydol yr amhariad presennol ar y diwydiant Technoleg Gwybodaeth oherwydd COVID-19. Darllenwch ymlaen i gael cyngor ar gaffael TG yn ystod yr amgylchiadau presennol.
Bwletin newydd i randdeiliaid ynghylch COVID-19
Mae Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi bwletin newydd i randdeiliaid fydd yn darparu gwybodaeth bwysig a’r newyddion diweddaraf ar COVID-19. Os hoffech dderbyn y bwletin, cofrestrwch yma.
|