Newyddion Caffael gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru

Mawrth 2020 • Rhifyn 025

 
 

Newyddion

Gofynion PPE

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda busnes a diwydiant i gael cyflenwadau o offer critigol gan gynnwys cynhyrchion glanhau a Chyfarpar Diogelu Personol (PPE) i weithwyr rheng flaen sy'n wynebu prinder yn ystod argyfwng COVID-19.

Rydym yn cydlynu’r broses o ddosbarthu offer ledled Cymru ac yn gweithio gyda chyflenwyr i nodi lle y gellir dod o hyd i offer ychwanegol. Am ragor o wybodaeth, ac i roi gwybod inni am eich anghenion, ewch i’n gwefan.

Nodiadau Polisi Caffael

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi dau Nodyn Polisi Caffael ar frys yn ymateb i’r achos o COVID-19. Mae’r ddau Nodyn Polisi Caffael yn cael eu dilyn gan Lywodraeth Cymru ac annogir y sector cyhoeddus yng Nghymru i’w dilyn hefyd.

Maent ar gael yma ac yma (Dolenni allanol - Saesneg yn unig).

Cyfathrebu ynghylch COVID-19

 

Ni fyddwn yn cyhoeddi cylchlythyr misol arferol y GCC a Gwerth Cymru yn ystod argyfwng COVID-19 (y coronafeirws). Yn hytrach, byddwn yn cyfleu unrhyw wybodaeth frys am y feirws a’i effaith ar gaffael neu ein gweithgareddau drwy’r cylchlythyr pan fydd angen. Rydym yn gobeithio, drwy wneud hynny, y byddwn yn gallu cael gwybodaeth bwysig i chi yn gyflymach.

 

Os hoffai unrhyw un o'ch cydweithwyr gael eu hychwanegu at y dosbarthiad, gallant ofyn am danysgrifio yma.

 

Os oes gennych awgrymiadau ar gyfer cynnwys, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni: COVID-19.Procurement@llyw.cymru.

Corona
 
 
 

YNGLŶN Â’R CYLCHLYTHYR HWN

Nod y cylchlythyr hwn yw dwyn ynghyd newyddion gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ac is-adran Gwerth Cymru o fewn Llywodraeth Cymru ac unrhyw wybodaeth bwysig arall a ddaw i law sy'n ymwneud â maes caffael.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

gcc.llyw.cymru/

llyw.cymru/gwerthcymru

Dilyn ar-lein:

twitter link