Bwletin: NEGES FRYS: NODYN I FUSNESAU LLETY GWYLIAU

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

27 Mawrth 2020


c19

NEGES FRYS: NODYN I FUSNESAU LLETY GWYLIAU

Daeth Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 (“y rheoliadau”) i rym o 4.00yp ar Ddydd Iau, 26 Mawrth. Byddant yn weithredol tan y byddwch yn clywed yn wahanol.

Mae “Y rheoliadau” yn disodli Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws: Cau Busnesau Hamdden, Llwybrau Troed a Thir Mynediad) (Cymru) 2020.

Mae'r Rheoliadau (linc yma) yn gweithredu polisi Llywodraeth Cymru y dylai llety gwyliau gau.

Mae’r rheoliadau yn gosod dyletswydd ar berchnogion y busnesau hyn i wneud pob ymdrech o fewn eu gallu i wacáu o’r adeiladau pawb oni bai am yr eithriadau a geir ar-lein.

Gellir gweld canllawiau penodol (gan gynnwys y rhestr o eithriadau) ar gyfer busnesau llety gwyliau yng Nghymru yma

Dylai perchnogion gymryd camau i gau o safbwynt defnydd masnachol cyn gynted ag sy’n ddiogel i wneud hynny.


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.



HomepageFacebookTwitterInstagram