Keith Towler, Cadeirydd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro
Ar ran y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, Llywodraeth Cymru, a'r llu o bobl rydw i wedi siarad â nhw yn ystod y dyddiau diwethaf, roeddwn i eisiau cysylltu â'ch cymeradwyo am bopeth rydych chi'n ei wneud i gefnogi ein pobl ifanc yn ystod y cyfnod hwn o newid cythryblus. Mae arnaf parchedig ofn pa mor gyflym ac effeithlon yr ydych wedi ymateb ar lawr gwlad a thrwy ddulliau digidol, gan addasu eich gwasanaethau i aros yn gysylltiedig ag i gyrraedd ein pobl ifanc fwyaf agored i niwed. Mae eich ymdrechion yn rhyfeddol ac rwyf am i chi i gyd wybod ein bod yn ystyried yn ofalus sut y gallwn eich cefnogi orau i barhau i wneud yr hyn yr ydych yn ei wneud.
Yr hyn y mae hyn yn ei olygu i ddechrau yw, i gydnabod yr angen i ryddhau adnoddau ar gyfer gwaith rheng flaen ar yr adeg hon, ein bod wedi penderfynu atal gwaith Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth Gwaith Ieuenctid nes bod y sefyllfa gyda'r Coronafeirws yn gliriach, a'i bod yn amser gwell inni ganolbwyntio ar bolisi. Fodd bynnag, mae'r Is-grŵp Digidol wedi bod mor garedig â gwirfoddoli i barhau i gwrdd a bydd hyn gyda'r bwriad o ddarparu cefnogaeth arbenigol i'r sector wrth i ni ar y cyd archwilio sut y gellir gwneud y mwyaf o offer digidol. Ochr yn ochr â nhw, bydd y Grŵp Marchnata Gwaith Ieuenctid hefyd yn parhau i gwrdd er mwyn cynorthwyo'r sector gyda gweithgaredd cyfathrebu effeithiol.
Yn ystod yr amser anodd hwn, mae'n bwysicach nag erioed inni aros yn gysylltiedig, rhannu adnoddau a chydweithio. Dros yr wythnosau nesaf, rydym yn bwriadu rhannu negeseuon allweddol gyda chi a'ch cydweithwyr am bethau sy'n digwydd o amgylch Cymru, unrhyw linellau cymorth, adnoddau neu offer ar-lein a ddaw ar gael ac unrhyw arfer da sy'n dod i'r amlwg. Rydym yn gwybod bod risg o orlwytho gwybodaeth ar hyn o bryd felly byddwn yn gwneud ein gorau i'w gwneud mor symlach a defnyddiol â phosibl.
Er mwyn helpu i lywio ein dull gweithredu, hoffem glywed gennych am yr hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad. Rydym hefyd eisiau gwybod pa gwestiynau y gallech fod yn mynd i'r afael â hwy fel y gallwn weithio gyda'n partneriaid i'ch helpu i ddod o hyd i atebion. Felly peidiwch ag oedi cyn cysylltu os oes gennych chi straeon neu ddulliau rydych chi am eu rhannu neu gwestiynau rydych chi'n cael trafferth eu hateb. Dylai'r rhain gael eu cyfeirio at gwaithieuenctid@llyw.cymru. Byddwn yn postio ymatebion ac yn rhannu eich diweddariadau trwy'r cylchlythyr hwn i ddechrau wrth i ni feddwl am ffyrdd eraill o rannu gwybodaeth.
Gwn fod llawer ohonoch yn lleol, yn rhanbarthol, a hyd yn oed yn genedlaethol, yn camu i wahanol rolau wrth ichi gefnogi'r ymateb i Covid-19 ac unwaith eto, rwy'n eich canmol am yr ymdrechion hyn. Gwn hefyd fod llawer ohonoch yn cael trafferth gyda materion real iawn ynghylch cynaliadwyedd eich rolau a'ch sefydliadau yn ystod yr amseroedd ansicr hyn. Er na allaf addo atebion i'ch holl bryderon, o leiaf nid i ddechrau, rwyf am eich sicrhau bod aelodau'r Bwrdd yn gweithio'n agos gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ac ystod o bartneriaid ledled Cymru a thu hwnt ac y byddant yn gwneud ein gorau i gadw chi yn gyfredol wrth i bethau fynd yn eu blaen.
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu llif gwaith plant bregus a diogelu sy'n gweithio ar sail traws-lywodraeth i sicrhau bod mesurau ar waith i amddiffyn y plant hyn, gan gynnwys y rhai sy'n cael eu cefnogi gan y gwasanaeth ieuenctid. Byddant yn cyhoeddi Cwestiynau Cyffredin ar hyn yr wythnos nesaf, a fydd yn parhau i gael eu diweddaru, i gefnogi ein rhanddeiliaid ar yr adeg hon.
Yn ystod y cyfnod hwn o unigedd gorfodol, mae gan weithwyr ieuenctid ran hanfodol i'w chwarae wrth gadw ein pobl ifanc yn ddiogel, yn wybodus ac yn gysylltiedig. Fe'ch anogaf i weithio ar y cyd ar lefel leol a rhanbarthol i wneud y defnydd gorau o'r adnodd sydd ar gael i gefnogi ein holl bobl ifanc. Mae'r Bwrdd a minnau wedi ymrwymo i'ch cefnogi mewn unrhyw ffordd y gallwn.
Cadwch yn ddiogel bawb a chadwch mewn cysylltiad.
Gwiriwch yma am y cyngor diweddaraf gan PHW ar COVID19 a phwysigrwydd cynnal mesurau pellhau cymdeithasol priodol yn eich holl waith.
https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/
Ydych chi wedi tanysgrifio ar gyfer Bwletin Gwaith Ieuenctid? Cofrestrwch yn gyflym yma
|