Cymorth ar gyfer yr Hunangyflogedig
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi pecyn cymorth i’r bobl Hunangyflogedig sydd wedi’u heffeithio gan y Coronafeirws er mwyn roi’r un lefel o gymorth â gweithwyr eraill iddynt.
Mae’r Cynllun Cymorth Incwm newydd i’r Hunangyflogedig yn golygu bydd y rheini sy’n gymwys yn derbyn grant arian parod sydd werth 80% o’u helw masnachu misol cyfartalog dros y tair blynedd diwethaf. Mae hyn yn berthnasol i 95% o bobl sy’n derbyn y rhan fwyaf o’u cyflog drwy hunangyflogaeth. Dod i wybod mwy yma.
Cynllun Cadw Swyddi yn sgil y Coronafeirws
O dan Gynllun Cadw Swyddi yn sgil y Coronafeirws, bydd holl gyflogwyr y DU yn gallu cael mynediad at gymorth i barhau i dalu rhan o gyflog eu gweithwyr ar gyfer y gweithwyr hynny a fyddai fel arall wedi cael eu diswyddo, ac mae pob busnes yn y DU yn gymwys. Dod i wybod mwy yma.
Bydd CThEM yn ad-dalu 80% o gostau cyflog y gweithwyr ‘ar seibiant’, hyd at cap o £2,500 y mis. Mae CThEM yn gweithio ar frys i sefydlu system ar gyfer ad-daliadau. Nid yw’r systemau presennol wedi’u creu i hwyluso taliadau i gyflogwyr. Mwy o wybodaeth i weithwyr yma
|