NEGES FRYS: CORONAFEIRWS – CYNGOR I BERCHNOGION A GWEITHREDWYR PARCIAU GWYLIAU:

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

25 Mawrth 2020


C19 update

NEGES FRYS:

CORONAFEIRWS – CYNGOR I BERCHNOGION A GWEITHREDWYR PARCIAU GWYLIAU: Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws: Cau Busnesau Hamdden, Llwybrau Troed a Thir Mynediad) (Cymru) 2020

Daeth Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws: Cau Busnesau Hamdden, Llwybrau Troed a Thir Mynediad) (Cymru) 2020 i rym ganol dydd ddoe. Maent yn dod â pholisi Llywodraeth Cymru y dylid cau parciau gwyliau a charafanau i rym. Gwneir hyn er mwyn lleihau risg lledu’r Coronafeirws ac i osgoi rhoi straen pellach ar yr GIG gan bobl sydd angen triniaeth mewn ardaloedd lle nad ydynt wedi’u cofrestru gyda Meddyg Teulu.

Nod y canllaw hwn yw rhoi cyngor penodol i weithredwyr parciau carafanau dros Gymru. Bydd y ddogfen yn cael ei diweddaru yn gyson wrth i ragor o wybodaeth, cyngor a chefnogaeth gael eu cyflwyno. Gallwch ddarllen y canllawiau llawn yma.

Dylid nodi bod y sefyllfa hon yn symud yn gyflym, a dylid mynd at dudalen Coronafeirws Iechyd Cyhoeddus Cymru yma sy’n cael ei diweddaru bob dydd am 11am. Ceir rhagor o wybodaeth ar dudalen Cwestiynnau Rheolaidd Llywodraeth Cymru a thudalen GIG y DU.


HomepageFacebookTwitterInstagram