Canllawiau ar y Coronafeirws ar gyfer Busnesau ac Eiddo a fydd yn cau

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

24 Mawrth 2020


corona

Canllawiau ar y Coronafeirws ar gyfer Busnesau ac Eiddo a fydd yn cau

Yn dilyn cyhoeddiad ddoe a gyflwynodd fesurau newydd sylweddol er mwyn arafu lledaeniad y Coronafeirws, mae canllawiau ar gael ar gael yma ynghylch cau’r holl fusnesau manwerthu sy’n gwerthu nwyddau nad ydynt yn rhai hanfodol a safleoedd eraill nad ydynt yn rhai hanfodol, fel rhan o fesurau pellach ynghylch cadw pellter cymdeithasol.

 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram