Gweinidogion yn cyhoeddi pecyn cymorth newydd gwerth £1.4bn i fusnesau

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

19 Mawrth 2020


money

Gweinidogion yn cyhoeddi pecyn cymorth newydd gwerth £1.4bn i fusnesau

Mae’r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans a Gweinidog yr Economi, Ken Skates wedi cyhoeddi pecyn cymorth newydd gwerth £1.4bn i fusnesau er mwyn helpu busnesau ar draws Cymru.

Mae’r cymorth hwn – sy’n ymestyn y pecyn a gyhoeddwyd ddoe – yn cyfateb i’r mesurau ar gyfer Lloegr gan ddarparu hwb i fusnesau bach sy’n ei chael yn anodd ymdopi ag effaith yr argyfwng coronafeirws.

Mae’r pecyn newydd yn darparu gwyliau ardrethi busnes am flwyddyn i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru. Bydd grant o £25,000 yn cael ei gynnig hefyd i fusnesau yn yr un sector sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £51,000.

Mae hefyd yn darparu grant o £10,000 i bob busnes sy’n gymwys i gael Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai.  

Dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans:

Mae’r pecyn cymorth newydd hwn yn cydnabod maint yr heriau digynsail yr ydym yn eu hwynebu ac yn darparu cymorth y mae mawr angen amdano i sectorau bregus yng Nghymru. Ond mae mwy eto i’w wneud.

Ddoe, fe ysgrifennodd Prif Weinidog Cymru at y Canghellor er mwyn annog Llywodraeth y DU i ymyrryd a darparu amrywiaeth mwy uchelgeisiol o fesurau er mwyn helpu busnesau i reoli effeithiau cornafeirws.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

Fel Llywodraeth Cymru, rydym yn hollol ymrwymedig i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd ei angen ar y gymuned fusnes yn y cyfnod anodd hwn. Mae’r cyhoeddiad heddiw yn arwydd clir o’n hymdrechion i barhau i ymladd i sicrhau hynny.

Rydym yn parhau i gydweithio gyda Llywodraeth y DU yn ystod yr argyfwng cenedlaethol hwn, ac rwy’n gofyn am wyliau Yswiriant Gwladol a chymorth ariannol ar gyfer cyflogau.

Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd busnesau bach a phobl hunangyflogedig nad oes ganddynt eiddo ardrethol. Rydym yn edrych i weld pa gymorth pellach y gallwn ni a Llywodraeth y DU ei ddarparu.

Cewch fwy o wybodaeth am y cymorth busnes sydd ar gael ar wefan Busnes Cymru.

Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterYoutubeInstagram