Coronafeirws (COVID-19)

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

12 Mawrth 2020


C19 welsh

Coronafeirws (COVID-19)

Rydyn ni’n monitro effaith Coronafeirws (COVID-19) ar y sector twristiaeth yn barhaus, ac yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU er mwyn rhoi’r mesurau priodol ar waith i ymateb i’r sefyllfa wrth iddi ddatblygu.

Cynghorir busnesau a rhanddeiliaid twristiaeth i ddarllen gwefan Busnes Cymru i gael canllawiau penodol i fusnesau ac i ymweld yn rheolaidd â gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael gwybodaeth gyfredol am iechyd y cyhoedd ichi, eich staff a’ch ymwelwyr.

Bydd Croeso Cymru yn parhau i gynnal ymchwil reolaidd ar draws y sector i ddeall a monitro’r effeithiau ar fusnesau. Bydd arolygon rheolaidd o’r busnesau sy’n rhan o’n Baromedr Busnes Twristiaeth yn dechrau yn ystod yr wythnos nesaf, a bydd arolwg ar-lein hefyd fel y gallwch chi ddweud wrthym am unrhyw effeithiau ar eich busnes. Mae’n bosibl y bydd ein cwmni ymchwil yn cysylltu â chi mewn perthynas â’r arolygon pwysig hyn. Bydd dolen i’n harolwg ar-lein yn cael ei dosbarthu yn ystod yr wythnos nesaf. Hefyd mae’n bosibl y bydd Visit Britain, sy’n casglu gwybodaeth ledled y DU, yn cysylltu â chi mewn perthynas â chwblhau arolygon.


HomepageFacebookTwitterYoutubeInstagram