Rhwydwaith Gwledig Cymru News Round-up 2020 Rhifyn 03: Mawrth 2020

News Round-up 2020 Rhifyn 03: Mawrth 2020

 
 

Beth Sy’n Digwydd yng Nghymru?

Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 - Ffenestri Cynllun

supply

Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio

Cylch 7 - Wedi agor; Yn cau 30 Mawrth 2020

Nod y cylch Mynegi Diddordeb hwn yw rhoi cymorth ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth gymunedol.

Ffermio

fbg

Grant Busnes i Ffermydd

Cyfnod Mynegi Diddordeb ar agor tan 10 Ebrill 2020

Mae y 7ed ffenestr datgan diddordeb ar gyfer y Grant Busnes I Ffermydd (FBG) ar agor. Mae cymhwysedd ar gyfer FBG Llywodraeth Cymru yn gofyn bod partner yn y busnes yn mynychu digwyddiad Ffermio i'r Dyfodol a drefnir gan Cyswllt Ffermio. Rhaid i'r unigolyn sy'n mynychu gofrestru fel partner gyda Cyswllt Ffermio a Taliadau Gwledig Cymru.

ram

Cynllun Hyrddod Mynydd

Mae Cynllun Hyrddod Mynydd wedi ei lansio gan Hybu Cig Cymru er mwyn cryfhau’r sector defaid yng Nghymru trwy welliant genetig hirdymor.

junior

Rhaglen Yr Ifanc Academi Amaeth

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 31 Mawrth 2020 am 11:59pm

Wyt ti rhwng 16 a 19 mlwydd oed ac â diddordeb mewn datblygu gyrfa yn y diwydiant bwyd, ffermio neu reoli tir?

Glastir

create

Creu Coetir Glastir

Cyfnod Mynegi Diddordeb ar agor tan 12 Mehefin 2020

Mae’n rhaid i DOD gael ei gyflwyno gan Cynlluniwr Creu Coetir Glastir Cofrestredig (cynlluniwr cofrestredig).

 

restore

Adfer Coetir Glastir

Cyfnod Mynegi Diddordeb ar agor tan 24 Ebrill 2020

Mae cynllun Adfer Coetir Glastir wedi cael ei ddatblygu er mwyn ailblannu coetir sydd wedi'u heintio gan Phytophthora ramorum neu ardaloedd lle y torrwyd llarwydd er mwyn arafu lledaenu'r clefyd.

Twristiaeth

msbf

Cronfa Fusnes Micro Bychan (MSBF)


Mae’r Gronfa Busnesau Micro a Bychan (MSBF) yn gronfa fuddsoddi ar gael i brosiectau yn y sector twristiaeth yng Nghymru. Gellir ei ddefnyddio naill ai i ddiweddaru cynnyrch newydd o safon uchel neu i uwchraddio cynnyrch sy’n bodoli eisoes.

Y dyfodol o ran buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru

consult

A ydych am gael dweud eich barn ynghylch y dyfodol o ran buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru?

Mae lansiad (28 Chwefror 2020) yr ymgynghoriad 12 wythnos 'Fframwaith ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru’ yn rhoi'r cyfle i bawb i benderfynu pa ddulliau fydd yn gweithio orau o ran sicrhau twf a chynwysoldeb ym mhob rhan o Gymru.

Cydweithredu

leader

Prosiectau Cydweithredu yng Nghymru, y DU ac yn Drawswladol LEADER

Hoffech chi rannu gwybodaeth, profiad a syniadau? Oes gennych chi ddiddordeb mewn cydweithio?
Mae cydweithredu’n golygu llawer iawn mwy na rhwydweithio’n unig; mae’n helpu i wella’r posibiliadau ar gyfer awdurdodau lleol.

Mae tua 14 o Brosiectau Cydweithredu LEADER ar gronfa ddata ENRD ar hyn o bryd, ac maen nhw'n chwilio am bartneriaid i gydweithredu â nhw.

Ymweliad ENRD & CLLD Partner Search i gael syniadau.

Os ydych eisoes ynghlwm wrth brosiect Cydweithredu cofiwch lanlwytho’r manylion ar gronfa ddata prosiectau Rhwydwaith Gwledig Cymru.

Rhwydwaith Gwledig Cymru

web

Rhwydwaith Gwledig Cymru

Adolygiad Cyfathrebu Blynyddol 2019

Straeon newyddion o Gymru

digital

"Vale Makers Network / Festival"

Penodi Llinos Jones fel Swyddog Ymgysylltu Yr Egin

Teithiau Ysgol y Fro

Tai lleol dan arweiniad y Gymuned ar yr agenda gyda gweinidog Tai Cymru

Digidol amdani! – Prosiect datblygu gwledig yn dod â dylunio gemau fideo i Gaerffili

Cynghori ffermwyr i edrych y tu hwnt i gynlluniau arallgyfeirio ar ffermydd cyfagos i gael syniadau busnes newydd

Iechyd carnau a rheolaeth slyri yn cael sylw yn nigwyddiad agored fferm laeth ym Mrynbuga

Cwsmeriaid wedi’i syfrdanu gan flas Cig Oen Cymru

Strydoedd Unigryw

Paratoi Cymru

brexit

Wefan Paratoi Cymru


Ar 31 Ionawr gadawodd y DU yr UE ac rydym nawr mewn cyfnod pontio; yn ystod y cyfnod hwn, ni fydd y ffordd yr ydych yn gwneud busnes gyda'r UE yn newid. Fodd bynnag, bydd angen i chi baratoi a gwneud newidiadau er mwyn parhau i wneud busnes ar ddiwedd y cyfnod pontio.

Ffynonellau Cyllid Eraill - DU

grants

Grantiau Ar-lein

Grantiau ar gyfer Datblygu Gwledig ledled y DU.
(Saesneg yn Unig)

Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol

Gall grant gan y Loteri Genedlaethol helpu gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned.

Beth sy’n digwydd yn Ewrop?

enrd

Labordy Thematig LEADER ar ieuenctid a dadboblogi

Gwnaeth Labordy Thematig LEADER Rhwydwaith Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig ar ieuenctid a dadboblogi (Brwsel, 20 Chwefror 2020) ystyried swyddogaeth LEADER a grwpiau gweithredu lleol LEADER o safbwynt ymateb i’r heriau sydd ynghlwm wrth ieuenctid a dadboblogi yng nghefn gwlad Ewrop.

(Saesneg yn Unig)

Digwyddiadau Ewropeaidd

events

Gwasanaethau ecosystem coedwigoedd

Dyddiad: 30/03/2020
Lleoliad: Brwsel, Gwlad Belg

Ffermio cymdeithasol – cynhadledd olaf FARMID

Dyddiad: 16/04/2020
Lleoliad: Brwsel, Gwlad Belg

(Saesneg yn Unig)

Gwefannau Defnyddiol

Cylchlythyrau Eraill

Oes gennych newyddlen yn ymwneud â'r Cynllun Datblygu Gwledig?

Ydych chi eisiau i ni gynnwys dolen i’ch newyddlenni diweddaraf yn yr adran hon? E-bostiwch ddolen tanysgrifio at rhwydwaithgwledig@llyw.cymru a byddwn yn rhannu'ch straeon.

 
 
 

Amdanom ni

Mae Newyddion Rhwydwaith Gwledig Cymru yn cynnig crynodeb o newyddion, gwybodaeth a chyfleoedd rhwydweithio sy’n gysylltiedig â Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020. Mae’n ffordd hwylus i rannu gwybodaeth ac enghreifftiau o arferion da yng Nghymru, y DU ac Ewrop. Os hoffech chi gyfrannu unrhyw beth sy’n berthnasol i ddatblygu gwledig yng Nghymru, cysylltwch â Rhwydwaithgwledig@llyw.cymru

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/rhwydwaithgwledig

Dilyn ar-lein: