Newyddlen Bwyd a Diod Cymru - Paratoi ar gyfer Brexit
Medi 2019 • Rhifyn 001
Paratoi ar gyfer Brexit
Mae llythyr ar y cyd gan Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ac Andy Richardson, Cadeirydd Bwrdd Bwyd a Diod y Diwydiant yng Nghymru, yn annog pob busnes bwyd a diod yng Nghymru i barhau i baratoi ar gyfer Brexit.
I wneud hynny, maent yn tynnu sylw at y sianeli canlynol, all gynnig cymorth i fusnesau:
Mae gwefan Busnes Cymru yn cynnig cyngor cyfreithiol gan Lywodraeth y DU ar y ffordd orau i fusnesau baratoi ar gyfer Brexit, a theclyn hunanasesu i fesur parodrwydd eich busnes ac i gynnig rhagor o gymorth ac arweiniad i chi. Cewch hefyd gyngor gan Llinell Gymorth Busnes Cymru drwy ffonio 03000 6 03000, neu ddarllen y datblygiadau diweddaraf ar Twitter neu drwy gofrestru i gylchlythyr digidol Bwyd a Diod Cymru.
Mae Prosiect Cywain hefyd yn cynnig offeryn diagnostig hunanasesu pwrpasol i fusnesau bwyd a diod, ynghyd â chymorth personol. Er mwyn cael mynediad at y gwasanaeth hwn, e-bostiwch cywain@menterabusnes.co.uk.
Mae gwefan Paratoi Cymru yn cynnig y cyngor diweddaraf ar newid prosesau busnesau ar draws ystod eang o ddiwydiannau, gan gynnwys ffermio, pysgota, cynhyrchu bwyd ac allforion.
Mae gwefan Llywodraeth y DU yn darparu dolenni at wybodaeth ychwanegol gan DEFRA a CThEM (e.e. Rhif EORI, Tystysgrifau Iechyd Allforio).
Mae'r llythyr hefyd yn cyfeirio at y cymorth ar wefan Paratoi Cymru i'r rhai ohonoch sydd angen gwneud cais am statws preswylydd sefydlog wedi Brexit.
Cewch ddarllen cynnwys llawn y llythyr isod:
YNGLŶN Â’R CYLCHLYTHYR HWN
E-gylchlythyr cwarterol ar gyfer y diwdiant bwyd a diod gan Is-Adran Fwyd Llywodraeth Cymru.
Newyddion, digwyddiadau a materion syín berthnasol iín diwydiant.