Croeso i nawfed rifyn y Bwletin Pysgodfeydd a Brexit. Wrth i'r DU baratoi i adael yr UE, mae'r diwydiant pysgota'n wynebu cyfnod o newid ac ansicrwydd mawr. Mae'n bwysig eich bod yn dal ati i baratoi'ch busnes ar gyfer Brexit. Nod y bwletin hwn yw eich helpu gyda'r paratoadau hynny, a'ch helpu hefyd i ddeall y gofynion a'r cymorth sydd ar gael. |
|
|
Ers mis Tachwedd 2018, rydym wedi bod yn annog cynifer o bobl ag y bo modd i danysgrifio i'r Bwletin Pysgodfeydd a Brexit https://llyw.cymru/cofrestrwch-i-fwletin-pysgodfeydd-brexit
Rydym am wneud yn siŵr bod ein negeseuon yn cyrraedd ein diwydiant pysgota a'n nod yw defnyddio ffrwd Twitter er mwyn inni fedru cyfathrebu â phawb cyn gynted â phosibl. Gyda'ch cydweithrediad chi, hoffem fynd ati i ofyn mewn digwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal dros yr haf ichi roi'ch manylion cyswllt, er mwyn inni fedru anfon gwybodaeth bwysig atoch yn uniongyrchol mewn ffordd a fydd yn addas ichi, os byddwch yn hapus inni wneud hynny.
Mae ymgynghoriad ar sicrhau dyfodol cynaliadwy i foroedd a diwydiant pysgota Cymru ar ôl Brexit wedi cael ei lansio gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC. Y dyddiad cau ar gyfer anfon ymatebion yw 21 Awst 2019.
Bwriedir cynnal y digwyddiadau a ganlyn.
|
|
|
https://llyw.cymru/lansio-ymgynghoriad-ar-ddyfodol-moroedd-cymru-ar-ol-brexit
Bwriedir cynnal gwyliau bwyd môr ar y dyddiadau isod
7 July Gŵyl Bwyd Môr Bae Ceredigion, Aberaeron
11 Awst Gŵyl Môr i'r Tir Aberystwyth, Aberystwyth
17 Awst Gŵyl Afon a Bwyd Aberteifi, Aberteifi
21 – 22 Medi Gŵyl Fwyd y Fenni
Bwriedir cynnal Cynhadledd ar Ddyfodol Pysgodfeydd ein Glannau yn Llundain ar 8-9 Hydref. Cyhoeddwyd hynny mewn gweithdy a drefnwyd yn arbennig er mwyn i aelodau grŵp llywio Dyfodol Pysgodfeydd ein Glannau gael cyfarfod â chynrychiolwyr diwydiant y glannau, y llywodraeth a'r gymuned wyddoniaeth.
Cafodd y gweithdy ei gefnogi gan Seafish, y corff cyhoeddus sy'n cefnogi diwydiant bwyd môr y DU, sy'n werth £10 biliwn. Cyhoeddwyd y gynhadledd gan yr Athro Michel Kaiser, o Brifysgol Heriot-Watt, a galwodd hefyd ar y diwydiant i gymryd rhan yn y fenter bwysig hon. Mae rhagor o fanylion i'w gweld ar wefan Seafish https://seafish.org/article/future-of-our-inshore-fisheries-conference
Y Môr a Physgodfeydd
https://beta.llyw.cymru/y-mor-a-physgodfeydd
Cymdeithas Pysgotwyr Cymru
http://wfa-cpc.wales/home
Paratoi Cymru
https://llyw.cymru/paratoi-cymru-brexit/pysgodfeydd-a-masnach
The Fishermen’s Mission https://www.fishermensmission.org.uk/
Porth Brexit https://businesswales.gov.wales/brexit/cy
|