Newyddion Caffael gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru

20 Mai 2019 • Rhifyn 014

 
 

Newyddion

Procurex

Procurex yn dychwelyd i Gymru

Rydym newydd ddechrau cynllunio Procurex Cymru 2019, sy'n cael ei gynnal ar 7 Tachwedd yn Arena Motorpoint yng Nghaerdydd. Byddwn yn rhoi diweddariadau rheolaidd am yr agenda yn y cylchlythyr hwn.

Os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer cynnwys, unrhyw adborth o'r llynedd, neu os hoffech gymryd rhan, e-bostiwch y tîm cynllunio:

NPSCommunications@llyw.cymru

Brexit

Y sefyllfa ddiweddaraf ynglŷn â Brexit

Mae'r UE wedi rhoi estyniad o chwe mis i'r DU ar gyfer Brexit hyd at 31 Hydref. Os daw'r Senedd a'r UE i gytundeb cyn y terfyn amser newydd, gallai'r DU adael yn gynt.

Os na fydd cytundeb erbyn 31 Hydref, mae'n bosibl o hyd y gallai'r DU adael heb gytundeb. Rydym yn parhau i baratoi ar gyfer pob canlyniad posibl.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn ag effaith bosibl Brexit ar gaffael, cysylltwch â'r tîm: ProcurementBrexit@llyw.cymru

Wyddech chi am y gyfarwyddeb e-anfonebu newydd?

Daeth cyfarwyddeb  caffael newydd i rym ar 18 Ebrill sy'n golygu y gall cyflenwyr fynnu cyflwyno eu hanfonebau yn electronig. Darllenwch ymlaen i gael gwybod mwy.

Fframwaith gweithwyr dros dro ac athrawon cyflenwi yn mynd yn fyw

Mae Lotiau 1 – 4 ar gyfer gweithwyr dros dro Fframwaith newydd y GCC ar gyfer gweithwyr dros dro ac athrawon cyflenwi bellach yn fyw. Mae Lot 5, ar gyfer athrawon cyflenwi, yn mynd yn fyw ym mis Awst, cyn y tymor academaidd nesaf.

Rydym wrthi'n datblygu canllawiau fframwaith a gwybodaeth ategol a fydd ar gael ar GwerthwchiGymru yn fuan. Byddwn hefyd yn trefnu digwyddiadau lansio i gwsmeriaid a chyflenwyr cyn bo hir. I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch  Neil.Thomas13@llyw.cymru

Swydd wag

Mae gan Gyngor Dinas Casnewydd swydd wag ar gyfer Uwch Swyddog Caffael. Mae rhagor o fanylion ar gael yma.

Calendr Digwyddiadau

Edrychwch ar ein calendr am rybudd ymlaen llaw o ddigwyddiadau'r GCC, Gwerth Cymru, Llywodraeth Cymru a chydweithwyr caffael yng Nghymru. 

Cofiwch gadw golwg ar dudalennau’r GCC ar Twitter a LinkedIn, a gwefan GwerthwchiGymru i gael cyhoeddiadau am ddigwyddiadau’r GCC.

Diweddariadau yn ôl categori


Adeiladu, Rheoli Cyfleusterau a Chyfleustodau

Darllenwch ein newyddion cryno am y categori i gael rhagor o wybodaeth am y ffordd y defnyddiodd Cyngor Abertawe ein cytundeb dodrefn i adnewyddu ei ganolfan ddinesig.

 

Cyswllt: NPSConstructionFM@llyw.cymru
Cyswllt: NPSUtilities@llyw.cymru

Adeiladu
ict

Digidol, Data a TGCh

Darllenwch ein newyddion cryno am y categori i gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau rheoli llyfrgelloedd; adolygiad o fframwaith cynhyrchion a gwasanaethau TG ac am y wybodaeth ddiweddaraf am adnoddau eGaffael.

 

Cyswllt: NPSICTCategoryTeam@llyw.cymru

Fflyd a Thrafnidiaeth

Darllenwch y newyddion cryno am y categori i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y grŵp fflyd yn y sector cyhoeddus yng Nghymru; ein gwasanaeth llogi cerbydau ar gontract; llogi cerbydau II; teiars a gwasanaethau cysylltiedig; gwirio trwyddedau gyrwyr; darnau sbâr cerbydau; tanwyddau a chynhyrchion a gwasanaethau cysylltiedig; a'n fframweithiau telemateg.

Cyswllt: NPSFleet@llyw.cymru

Gwasanaethau Pobl

Gwasanaethau Pobl 

Darllenwch ein newyddion cryno am y categori i ddysgu sut i gymryd rhan yn ein digwyddiadau cwrdd â'r prynwr ym maes iechyd galwedigaethol; ac er mwyn ein helpu i gasglu adborth ar ein fframwaith gwasanaethau prynu cyfryngau.

 

Cyswllt: NPSPeopleServicesutilities@llyw.cymru

 

Gwasanaethau Proffesiynol

Darllenwch ein newyddion cryno am y categori i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein hymgynghoriaeth eiddo; ymgynghoriaeth adeiladu a'r gwasanaethau cyfreithiol gan fframweithiau cyfreithwyr; er mwyn cymryd rhan yn ein digwyddiadau 'cwrdd â'r prynwr' ac i weld yr amserlen ar gyfer digwyddiadau hyfforddi a briffio cyfreithiol.

Cyswllt: NPSProfessionalServices@llyw.cymru

 
 
 

YNGLŶN Â’R CYLCHLYTHYR HWN

Nod y cylchlythyr hwn yw dwyn ynghyd newyddion gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ac is-adran Gwerth Cymru o fewn Llywodraeth Cymru ac unrhyw wybodaeth bwysig arall a ddaw i law sy'n ymwneud â maes caffael.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

gcc.llyw.cymru/

llyw.cymru/gwerthcymru

Dilyn ar-lein:

twitter link