Newyddion Caffael gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru

02 Ebrill 2019 • Rhifyn 013

 
 

Newyddion

Y paratoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb yn parhau

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i baratoi ar gyfer Brexit posibl heb gytundeb. Mae’r wefan Paratoi Cymru yn cynnwys y cyngor a’r arweiniad diweddaraf. Darllenwch ymlaen i gael gwybodaeth am y trefniadau amgen yn lle Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd, gwybodaeth am ddiogelu data, cyngor i gludwyr a gwybodaeth i'r sectorau amaethyddol os bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb. 

pic

Iechyd Galwedigaethol a Gwasanaethau Cysylltiedig

Mae ein fframwaith ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd galwedigaethol a gwasanaethau cysylltiedig bellach ar waith ac ar gael i'w ddefnyddio gan y sector cyhoeddus yng Nghymru. Darllenwch fwy.

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Rydym yn aros am yr adroddiad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dilyn y sesiwn rhoi tystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru ar gaffael ar 18 Chwefror. Gellir cael gafael ar gofnodion y sesiwn dystiolaeth yma. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi unwaith y byddwn wedi cael yr adroddiad ar y camau nesaf mewn cylchlythyrau yn y dyfodol.

pic

Cod Ymarfer ar ddigwyddiadau busnes Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi

A yw eich busnes yn gwerthu i'r sector cyhoeddus? A ydych am gael eich cydnabod fel cyflogwr Cymreig moesegol a chyfrifol? Os felly, mae'r gweithdy hwn yn ddelfrydol i chi. Cliciwch yma i gael gwybod sut y gallwch gymryd rhan.

Calendr Digwyddiadau

Edrychwch ar ein calendr am rybudd ymlaen llaw o ddigwyddiadau'r GCC, Gwerth Cymru, Llywodraeth Cymru a chydweithwyr caffael yng Nghymru. 

Cofiwch gadw golwg ar dudalennau’r GCC ar Twitter a LinkedIn, a gwefan GwerthwchiGymru i gael cyhoeddiadau am ddigwyddiadau’r GCC.

Diweddariadau yn ôl categori


Adeiladu, Rheoli Cyfleusterau a Chyfleustodau

 

Darllenwch ein newyddion cryno am y categori i gael ragor o wybodaeth am ein digwyddiadau briffio fframwaith deunyddiau adeiladu newydd ac i gael gwybod sut y mae Cyngor Abertawe wedi defnyddio ein cytundeb dodrefn i adnewyddu ei ganolfan ddinesig mewn modd arloesol.

 

Cyswllt: NPSConstructionFM@llyw.cymru
Cyswllt: NPSUtilities@llyw.cymru

Adeiladu
ict

Digidol, Data a TGCh

 

Darllenwch y newyddion cryno am y categori i gael gwybodaeth am y strategaeth gaffael ddigidol; Cytundeb Adnoddau Digidol a TGCh Ystwyth (ADIRA); Cynhyrchion a gwasanaethau TG (ITPS); Dyfeisiau amlswyddogaeth a gwasanaethau cysylltiedig; a fframweithiau ceblau strwythuredig. Gallwch hefyd gael gwybod am borth dysgu newydd i gwsmeriaid.

 

Cyswllt: NPSICTCategoryTeam@llyw.cymru

Fflyd a Thrafnidiaeth

Darllenwch y newyddion cryno am y categorïau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am logi cerbydau ar gontract; llogi cerbydau II; teiars a gwasanaethau cysylltiedig; gwirio trwyddedau gyrwyr; darnau sbâr cerbydau; tanwyddau a chynhyrchion a gwasanaethau cysylltiedig; a'n fframweithiau telemateg.

Cyswllt: NPSFleet@llyw.cymru

Gwasanaethau Pobl

Gwasanaethau Pobl 

Darllenwch ein newyddion cryno am y categori i gael rhagor o wybodaeth am ein deunydd ysgrifennu a phapur copïo; gwasanaethau prynu cyfryngau'r GCC a iechyd galwedigaethol a fframweithiau gwasanaeth cysylltiedig.

 

Cyswllt: NPSPeopleServicesutilities@llyw.cymru

 

Gwasanaethau Proffesiynol

Darllenwch ein newyddion cryno am y categori i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein ymgynghoriaeth eiddo; ymgynghoriaeth eiddo a'r gwasanaethau cyfreithiol gan fframweithiau'r cyfreithwyr; ac i weld yr amserlen ar gyfer digwyddiadau hyfforddi a briffio cyfreithiol.

Cyswllt: NPSProfessionalServices@llyw.cymru

 
 
 

YNGLŶN Â’R CYLCHLYTHYR HWN

Nod y cylchlythyr hwn yw dwyn ynghyd newyddion gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ac is-adran Gwerth Cymru o fewn Llywodraeth Cymru ac unrhyw wybodaeth bwysig arall a ddaw i law sy'n ymwneud â maes caffael.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

gcc.llyw.cymru/

llyw.cymru/gwerthcymru

Dilyn ar-lein:

twitter link