|
|
Croeso i rifyn saith y Bwletin Pysgodfeydd a Brexit. Wrth i'r DU baratoi i adael yr UE, mae'r diwydiant pysgota'n wynebu cyfnod o newid ac ansicrwydd mawr. |
Bwriad y bwletin yw:
- eich helpu i ddeall effeithiau Brexit ar y diwydiant pysgota yng Nghymru;
- eich helpu i baratoi'ch busnes ar gyfer 29 Mawrth 2019 pan fyddwn yn gadael yr UE;
- rhoi gwybod ichi ba gymorth sydd ar gael i'ch helpu chi a'ch busnes i fyw gyda'r newid.
Rydym am i gymaint o bobl â phosib danysgrifio:
https://beta.llyw.cymru/cofrestrwch-i-fwletin-pysgodfeydd-brexit
|
|
Er mwyn helpu allforwyr Bwyd Môr o Gymru i gyrraedd marchnadoedd yr UE ac EFTA ar ôl Brexit, mae gennym gynllun cynghori ar allforio. Rydym yn cynnig cyngor 1-i-1 a hefyd trwy bedwar seminar a gynhelir ledled y wlad ym mis Mawrth.
Mae'r cynllun ar gael am ddim i gwmnïau sy'n cymryd rhan ac os hoffech inni drefnu sesiwn 1-i-1 ichi, cysylltwch â Laura Harris ar laura.harris006@gov.wales
neu Bill Jones (bjones@kinetic3.co.uk)..
|
Neu fel arall, dewch i un o'r seminarau a restrir isod
Swyddfa Caergybi Llywodraeth Cymru - 18 Mawrth, 10:00 - 16:00
Swyddfa Cyffordd Llandudno Llywodraeth Cymru - 19 Mawrth,
10:00 - 16:00
Swyddfa Aberdaugleddau Llywodraeth Cymru - 20 Mawrth,
10:00 - 16:00
Celtic Manor Hotel Casnewydd (ffair fwyd BlasCymru) - 21 Mawrth
http://tastewales.com/cy/
Ffilm fer yw 'Cwrdd â'r Pysgotwyr' sy'n cyflwyno dyrnaid o bysgotwyr o wahanol ardaloedd ac yn edrych ar eu cyfraniad at economi bwyd môr Cymru, ddoe a heddiw.
Mae'n rhan o ymgyrch a gomisiynwyd gan raglen Clwstwr Bwyd Môr Cymru i godi ymwybyddiaeth. Mae'r clwstwr ar gael i helpu pob busnes bwyd môr sy'n gweithredu yng Nghymru gan gynnig hyfforddiant a chefnogaeth i'r sector cyfan, yn bysgotwyr, siopau pysgod, masnachwyr, dyframaethwyr a chasglwyr.
Mae'r gweithdy hyfforddi nesaf Dive In ar Buro Pysgod Cregyn ar
21 Mawrth 2019 yn y De. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â
Sian.davies@menterabusnes.co.uk
|
|
I'ch helpu i baratoi, rydyn ni am gynnwys cyngor y DU ar amrywiaeth o broblemau y byddwch yn eu hwynebu mewn byd ar ôl Brexit. |
- Bydd angen rhif UK EORI ar fusnesau o'r DU er mwyn cael para i fasnachu â'r UE os bydd y DU yn gadael heb gytundeb. Sut i gael rhif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwr Ewropeaidd (EORI) y DU.
https://www.gov.uk/guidance/get-a-uk-eori-number-to-trade-within-the-eu?utm_source=e3c734de-2ff4-4ffd-a9d2-8237a40d8118&utm_medium=email&utm_campaign=govuk-notifications&utm_content=immediate
- Sut y dylai allforwyr anifeiliaid, cynnyrch anifeiliaid, pysgod, pysgod cregyn, cramenogion a chynnyrch pysgodfeydd baratoi os bydd y DU yn gadael heb gytundeb.
https://www.gov.uk/guidance/exporting-animals-animal-products-fish-and-fishery-products-to-the-eu-after-eu-exit?utm_source=2ab932c7-c061-4fdf-ab2d-b12e3796a742&utm_medium=email&utm_campaign=govuk-notifications&utm_content=immediate
- Allforio pysgod a physgod cregyn byw - Tystysgrif
I weld a oes angen tystysgrif arnoch i allforio pysgod, molysgiaid a chramenogion byw, darllenwch y canllaw:
https://www.gov.uk/guidance/export-live-fish-and-shellfish-special-rules?utm_source=f63a5648-8051-4ad3-b6eb-c72b72823014&utm_medium=email&utm_campaign=govuk-notifications&utm_content=immediate
- Allforio a mewnforio pysgod os na fydd cytundeb Brexit
Paratoi ar gyfer y prosesau allforio a mewnforio pysgod morol gwyllt os bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb.
https://www.gov.uk/guidance/exporting-and-importing-fish-if-theres-no-brexit-deal?utm_source=3108d823-f2ff-4592-a607-6b1fbde8d0e5&utm_medium=email&utm_campaign=govuk-notifications&utm_content=immediate
Cyngor ar y newidiadau i labeli bwyd os bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb.
https://www.gov.uk/guidance/food-labelling-changes-after-brexit
Gwefan Paratoi Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio gwefan Paratoi Cymru.
Caiff y cwestiynau a'r atebion a gafwyd yn y sioeau teithiol ym mis Ionawr eu cyhoeddi ar https://beta.llyw.cymru/paratoi-cymru
Porthol Brexit
I helpu'ch busnes i ddygymod â'r risgiau ac i sylweddoli'r heriau a'r cyfleoedd, edrychwch ar y pecyn cymorth i'ch helpu i baratoi
https ://businesswales.gov.wales/brexit/cy/
Y Môr a Physgodfeydd
I weld newyddion diweddaraf Is-adran y Môr a Physgodfeydd, ewch i'n gwefan.
https://beta.llyw.cymru/y-mor-a-physgodfeydd
Y Cyfryngau Cymdeithasol
https://twitter.com/@WG_Fisheries
https://twitter.com/wgmin_rural
|