Croeso i bedwerydd rhifyn y Bwletin Pysgodfeydd a Brexit. Wrth i'r DU baratoi i adael yr UE, mae'n gyfnod o newid ac ansicrwydd mawr i'r diwydiant pysgota.
Meddai Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC;
"Mae angen i'r diwydiant pysgota ddechrau paratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb fel y gallant barhau i fewnforio ac allforio pysgod a chynnyrch pysgod unwaith y bydd y DU yn gadael yr UE"
Bydd y bwletin hwn yn;
- Helpu ichi ddeall effeithiau Brexit ar y diwydiant pysgota yng Nghymru;
- Helpu ichi baratoi eich busnes ar gyfer 29 Mawrth 2019 pan fyddwn yn gadael yr UE;
- Rhoi gwybod ichi pa gymorth sydd ar gael i'ch helpu chi a'ch busnes fyw gyda'r newid;
Bydd hwn yn fwletin rheolaidd a fydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi. Cofiwch ddarllen pob rhifyn i gadw'ch bys ar byls pethau.
Rydym am annog cynifer o bobl â phosibl i gofrestru a-lein ar
https://beta.llyw.cymru/y-mor-a-physgodfeydd
|
|
|
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio Cronfa Cydnerthedd Busnes i helpu busnesau i baratoi ar gyfer, a wynebu heriau Brexit.
Mae'r cyllid hwn, rhan o Gronfa Bontio'r UE, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, ac sy'n werth cyfanswm o £50 miliwn, yn caniatáu i fusnesau o Gymru gyflwyno cais i Lywodraeth Cymru am swm yn amrywio rhwng £10,000 a £100,000, hyd at uchafswm o hanner costau'r prosiect, i'w helpu wrth i'r DU baratoi i ymadael â'r UE.
I wneud cais, mae'n rhaid i fusnesau (gan gynnwys y diwydiant pysgota):
- Fod wedi'u cofrestru i fasnachu yng Nghymru;
- Gofrestru gyda Busnes Cymru a chwblhau Asesiad Diagnostig Brexit pan fyddant yn cyflwyno cais;
- Gallu dangos y bydd y cyllid yn cyfrannu ar ddiogelu swyddi
- Dangos eu bod yn masnachu ers 12 mis neu fwy ar ddiwrnod cyflwyno'r cais.
Ewch i wefan Busnes Cymru i wneud cais neu ddysgu mwy:
https://businesswales.gov.wales/brexit/cy/cymorth/cronfa-cydnerthedd-brexit
y ddau ddyddiad olaf fydd ;
30 Ionawr - Saundersfoot,
Clwb Hwylio Saundersfoot, SA69 9HE
31 Ionawr - Porth Tywyn
Clwb Hwylio Porth Tywyn, SA16 0ER
Dylech geisio cyrraedd erbyn 16:30pm gan y bydd y sesiynau yn dechrau am 17:00pm. Bydd y sesiynau yn para am 2 awr. Ni fydd angen ichi gofrestru ymlaen llaw
Mae canllaw diweddar i helpu eich busnes bellach ar gael. Mae'n helpu ichi ddeall y prif gamau sydd angen ichi eu cymryd i barhau i fasnachu gyda busnesau yr UE os digwydd i'r DU ymadael â'r UE heb gytundeb.
https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads
/attachment_data/file/769900/28_Step_guide_to_exporting.pdf
Ydych chi yn barod ar gyfer Brexit: Y Porthol Brexit
Nod y porthol yw helpu eich busnes liniaru risgiau, a nodi'r heriau a'r cyfleoedd sydd o'n blaenau.
https://businesswales.gov.wales/brexit/cy
Paratoi Cymru ar gyfer Brexit heb gytundeb
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio gwefan newydd i helpu pawb baratoi ar gyfer Brexit.
https://beta.llyw.cymru/y-mor-a-physgodfeydd
Mae cymorth benodol ar gyfer pysgodfeydd a masnach ar gael yma
https://beta.llyw.cymru/paratoi-cymru-brexit/amgylchedd-amaethyddiaeth
|