Gwefan Paratoi Cymru
Gan ragweld y pryderon am effeithiau posibl Brexit heb gytundeb ar Gymru, mae Llywodraeth Cymru wedi creu gwefan newydd er mwyn rhoi sicrwydd a chyngor i ddinasyddion. Darllenwch ymlaen i gael rhagor o wybodaeth.
Rheolwyr Contract - Ydych chi'n barod ar gyfer Brexit?
Nod Llywodraeth Cymru yw cael y canlyniad gorau posibl, neu'r un lleiaf niweidiol, i'r negodiadau Brexit ar gyfer Cymru, p'un a lwyddir i ddod i gytundeb ai peidio. Darllenwch ymlaen i gael rhagor o wybodaeth am sut y bydd yn effeithio ar y broses gaffael.
Digwyddiadau ymgysylltu â chwsmeriaid
Rydym yn cynllunio cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu â chwsmeriaid, i gasglu safbwyntiau a syniadau er mwyn helpu i lunio strategaeth gaffael Cymru yn y dyfodol. Darllenwch fwy
|
|
Gweinidog Cyllid Newydd
Cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeord, ei gabinet newydd yn ddiweddar.
Rebecca Evans AC fydd y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, gan ymgymryd â chaffael fel rhan o'i phortffolio, yn dilyn penodiad cyn-Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford, yn Brif Weinidog.
Cafodd Rebecca Evans ei hethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf ym mis Mai 2011 i gynrychioli rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Yn ystod 2016 daeth yn Aelod Cynulliad ar gyfer Gŵyr. Darllenwch fwy
|
Cod Ymarfer yn cyrraedd carreg filltir o 150
Yn ddiweddar aeth Gweinidog yr Economi, Ken Skates, i ddigwyddiad yn ddiweddar i ddathlu carreg filltir o fwy na 150 o sefydliadau'n cofrestru ar gyfer Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru, gan helpu i sicrhau amodau gwaith gwell mewn cadwyni cyflenwi. Darllenwch fwy
|
|
|
Newidiadau i wefan GwerthwchiGymru
Darllenwch fwy i ddysgu am newidiadau pwysig i'r ardal “Contractau ac Adnoddau'r GCC” ar wefan GwerthwchiGymru.
Edrychwch ar ein calendr am rybudd ymlaen llaw o ddigwyddiadau'r GCC, Gwerth Cymru, Llywodraeth Cymru a chydweithwyr caffael yng Nghymru.
Cofiwch gadw golwg ar dudalennau’r GCC ar Twitter a LinkedIn, a gwefan GwerthwchiGymru i gael cyhoeddiadau am ddigwyddiadau’r GCC.
Gwasanaethau Corfforaethol a Chymorth Busnes
Darllenwch y newyddion cryno am y categori i gael manylion am yr estyniad i'r fframwaith deunydd ysgrifennu a phapur copïo.
Cyswllt: NPSCorporateServices@llyw.cymru
|
|
Digidol, Data a TGCh
Darllenwch y newyddion cryno am y categori i gael gwybodaeth am sesiynau hyfforddiant a dyfarnu'r contract Adnoddau eGaffael; cyfrifoldebau'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR); hysbysiadau preifatrwydd caffael; y strategaeth gaffael ddigidol; a manylion am yr estyniad i'r fframwaith cynhyrchion a gwasanaethau TG.
Cyswllt: NPSICTCategoryTeam@llyw.cymru
|
Fflyd a Thrafnidiaeth
Darllenwch y newyddion cryno am y categori i gael gwybod am gynlluniau i lunio fframwaith llogi cerbydau ar gontract; newyddion pwysig am y fframwaith llogi cerbydau ii; a'r wybodaeth ddiweddaraf am fframweithiau gwirio trwyddedau gyrwyr; darnau sbâr cerbydau; teiars a gwasanaethau cysylltiedig; a thanwyddau hylif.
Cyswllt: NPSFleet@llyw.cymru
Gwasanaethau Proffesiynol
Darllenwch ein newyddion cryno am y categori i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y gwasanaethau cyfreithiol gan gyfreithwyr, a fframweithiau ymgynghoriaeth eiddo; ac i weld yr amserlen ar gyfer digwyddiadau hyfforddi a briffio cyfreithiol
Cyswllt: NPSProfessionalServices@llyw.cymru
Swyddi gwag
Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y tîm Comisiynu a Chaffael yng Nghyngor Caerdydd. Mae'r cyngor yn awyddus i benodi dau uwch arbenigwr categori parhaol. Mae'r rolau gwag yn y Timau Rheoli Categori Corfforaethol a Gofal Cymdeithasol a chânt eu hysbysebu'n fuan yn y ddolen ganlynol: https://jobs.cardiff.gov.uk/index.aspx
|