Mae wynebu blwyddyn newydd yn gyfle gwych i ni edrych yn ôl ar yr hyn oedd yn flwyddyn ffantastig i fwyd a diod Cymru.Yn ystod y 12 mis diwethaf, daeth busnesau newydd i ffynnu, roedd digwyddiadau blynyddol yn ffrwydro o’n cwmpas a bu gwell cydweithio ar draws y diwydiant nag erioed o’r blaen.
Mae’r Clwstwr Datblygu Diodydd wedi cael ei lansio fel rhan o raglen Clwstwr Llywodraeth Cymru a chaiff ei anelu at gefnogi twf trwy gydweithio a chysylltedd diwydiannol.
Bydd yr enwau mwyaf ym yn y byd bwyd a diod yn ceisio denu’r nifer mwyaf erioed o gynrychiolwyr i Blas Cymru / Taste Wales 2019 gyda’r neges glir fod angen i’r diwydiant feddwl yn wahanol a chyflymu twf cynaliadwy.
Mae cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn paratoi i fynychu un o ddigwyddiadau masnach bwyd mwyaf y byd yn Dubai, Yr Emiraethau Arabaidd Unedig rhwng 17-21 Chwefror. Bydd Gulfood, a gynhelir yng Nghanolfan Masnach Byd Dubai, yn denu dros 98,000 o ymwelwyr dros bum niwrnod, gan groesawu mwy na 5,000 o arddangoswyr o 193 gwlad yn arddangos cynhyrchion ar draws 8 o sectorau marchnad cynradd.
Mae Calon Wen, prif gwmni llaeth organig Cymru, newydd ennill contract cyflenwi sylweddol yn Qatar yn dilyn taith fasnach Llywodraeth Cymru. Trwy bartneru gydag un o brif gwmnïau dosbarthu Qatar, bydd Calon Wen ar gael yn nifer o fanwerthwyr blaenllaw y wlad.
Mae gan Busnes Cymru Becyn i helpu busnesau asesu pa mor barod ydynt ar gyfer Brexit. Mae ar gyfer pob busnes. Os oes gennych unrhyw anghenion penodol bydd Busnes Cymru yn nodi'r rhain ac yn eich cynghori ymhellach. Mae'r Pecyn a gwybodaeth ategol, gan gynnwys dolenni at Nodiadau Technegol Llywodraeth y DU.
Fe fydd BlasCymru/TasteWales, a drefnir gan Bwyd a Diod Cymru, yn gynhadledd ryngwladol bwyd a diod cyffrous, gan ddwyn cynhyrchwyr, prynwyr, pobl proffesiynol y diwydiant bwyd yng Gwesty'r Celtic Manor Prynwch eich tocynnau i’r gynhadledd yma
Cyfryngau cymdeithasol
Mae gan Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru cyfrif twitter swyddogol eu hunain @FoodDrinkWIB.
Eisiau gwybod mwy am beth ydynt yn ei wneud. Darllenwch yma
YNGLŶN Â’R CYLCHLYTHYR HWN
E-gylchlythyr cwarterol ar gyfer y diwdiant bwyd a diod gan Is-Adran Fwyd Llywodraeth Cymru.
Newyddion, digwyddiadau a materion syín berthnasol iín diwydiant.