Rhifyn 3
Croeso i rifyn 3 o Fwletin Pysgodfeydd a Brexit. Wrth i'r Deyrnas Unedig baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae'r diwydiant pysgota yn gwynebu cyfnod o newid mawr ac ansicrwydd. Nid ydym yn gwybod yn union beth fydd y gofynion newydd o ran masnach ac allforio, ond rydym am i'r bwletin hwn:
- Eich helpu i ddeall goblygiadau Brexit ar y diwydiant pysgota yng Nghymru;
- Eich cynorthwyo i baratoi eich busnes;
- Rhoi gwybod pa gefnogaeth sydd ar gael, i'ch helpu chi a'ch busnes fyw gyda’r newid.
Mi fydd hwn yn fwletin rheolaidd a fydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi. Cofrestrwch i dderbyn y bwletin yma https://beta.llyw.cymru/cofrestrwch-i-fwletin-pysgodfeydd-brexit
Mae Llywodraeth y DU wedi darparu ystod o ddogfennau cyfarwyddyd ar sut i baratoi ar gyfer Brexit os nad oes unrhyw gytundeb:
Os ydych chi'n allforio i'r UE, mae angen i chi ymgyfarwyddo â'r gwaith papur y byddwch ei angen. Gallai'r rhain gynnwys
- Tystysgrifau Dal Allforio;
- Tystysgrifau Allforio Iechyd;
- Tystysgrif Rhestr Cychod, yn ogystal â'r Dystysgrif Dal, os daw'r llwyth o fwy nag un cwch;
- Datganiad allforio;
- Cofrestru gyda'r System Allforio Genedlaethol.
|
|
|
Mae system TG newydd i brosesu a chyhoeddi tystysgrifau dal allforio, a dogfennau ategol eraill, yn cael ei ddatblygu i hwyluso masnach ar ôl ymadael â'r UE. Bydd allforwyr yn derbyn cyfarwyddiadau llawn ar sut i gofrestru a defnyddio'r system newydd cyn i ni adael yr UE. Darperir rhagor o wybodaeth yn y roadshow’s a nodir isod.
Er mwyn eich helpu chi baratoi ar gyfer ymadael yr UE, mae Llywodraeth Cymru wedi trefnu nifer o roadshows Pysgodfeydd a Brexit. Byddant yn darparu gwybodaeth ac yn eich helpu i ddeall yr hyn y bydd angen i chi ei wneud i baratoi eich busnes i fasnachu ar ôl Brexit. Os yr ydych am fynychu, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd am 16:30 ac mi fydd y sesiynau yn dechrau am 17:00. Hyd y sesiynau fydd 2 awr. Nid oes angen cofrestru, dim ond troi i fyny.
Dyddiadau
Gogledd Cymru
16eg Ionawr – Caernarfon
Gwesty’r Celt, LL55 1AY
17eg Ionawr – Caergybi
Standing Stones Pub, LL65 2UQ
Gorllewin Cymru
22ain Ionawr – Aberdaugleddau
Clwb Hwylio Sir Benfro
23ain Ionawr – Cei Newydd
Black Lion Hotel, SA45 9PT
24ain Ionawr - Abermaw
Clwb Hwylio Meirionydd, LL42 1HB
De Cymru
30ain Ionawr – Saundersfoot
Clwb Hwylio Saundersfoot, SA69 9HE
31ain Ionawr – Porth Tywyn
Clwb Hwylio Porth Tywyn, SA16 0ER
O dan y trefniadau presennol, mi fydd yn rhaid i gludwyr wneud cais i Lywodraeth y DU am drwyddedau ar gyfer y flwyddyn galendr 2019 erbyn 11:59yp, ddydd Gwener 18fed Ionawr. Mae canllawiau ar gael ar wefan Llywodraeth y DU
https://www.gov.uk/guidance/ecmt-international-road-haulage-permits
Canllawiau yn ymwneud â'r bwletin hwn
https://www.gov.uk/guidance/commercial-fishing-and-marketing-of-seafood-if-theres-no-brexit-deal
https://www.gov.uk/government/publications/exporting-animals-and-animal-products-if-theres-no-brexit-deal/exporting-animals-and-animal-products-if-theres-no-brexit-deal
https://www.gov.uk/government/publications/partnership-pack-preparing-for-a-no-deal-eu-exit/preparing-for-a-no-deal-eu-exit-step-by-step-guide-to-exporting
|