Cylchlythyrau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol - Tachwedd 2018

Tachwedd 2018: Rhifyn 030

 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol

Teenagers

Y Gweinidog Plant yn cyhoeddi £15 miliwn ar gyfer ehangu gwasanaethau er mwyn cefnogi teuluoedd a helpu i leihau'r angen i blant dderbyn gofal

Mae'r cyllid yn rhan o £30 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol i gryfhau'r gwaith integredig.

Rhaglen Plant Iach Cymru ar gynnydd i roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant
Mae rhaglen Plant Iach Cymru Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod plant hyd at 7 oed yn cael cyswllt rheolaidd gyda gweithwyr iechyd proffesiynol.
Andrew Goodall

Y Datganiad Ansawdd Blynyddol yn gyfle i werthfawrogi GIG Cymru – Andrew Goodall

Mae dogfen wedi’i chyhoeddi sy’n bwrw golwg ar y gwaith da sy’n cael ei wneud drwy Gymru i roi gofal ardderchog ar bob lefel a chael effaith gadarnhaol ar gleifion.

"Proses effeithlon newydd i wella ansawdd a chanlyniadau ar gyfer cleifion canser yng Nghymru" - Vaughan Gething
Bydd cyflwyno un llwybr canser ar gyfer pobl yr amheuir bod canser arnynt yn gwella ansawdd a chanlyniadau ar gyfer cleifion canser yng Nghymru
Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol: “Fel cymdeithas, rydyn ni’n yfed gormod o alcohol” – Vaughan Gething

Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol: “Fel cymdeithas, rydyn ni’n yfed gormod o alcohol” – Vaughan Gething

Mae pobl Cymru’n dal i yfed gormod o alcohol – ac un o bob pump o oedolion yn yfed mwy na’r hyn sy’n cael ei argymell mewn canllawiau.
Yng Nghymru mae'r cyfraddau cydsynio i roi organau uchaf yn y Deyrnas Unedig
Mae data newydd yn dangos, am y tro cyntaf, fod cynnydd mawr wedi bod yn y cyfraddau cydsynio i roi organau yn dilyn marwolaeth coesyn yr ymennydd yng Nghymru (88.2%) o'i gymharu â Lloegr (73.3%).
Un o Weinidogion Llywodraeth Cymru yn ymuno yn  yr ymgyrch #DontDanceAlone i helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd yn Abertawe
Heddiw, roedd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog dros Bobl Hŷn, yn Abertawe i gymryd rhan mewn digwyddiadau wedi’u cynllunio i fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd ymhlith pobl hŷn yn yr ardal.
Cyhoeddi'r partner a ffefrir ar gyfer cynllun indemniad newydd i ymarferwyr cyffredinol Cymru

Cyhoeddi'r partner a ffefrir ar gyfer cynllun indemniad newydd i ymarferwyr cyffredinol Cymru

Bydd y cynllun mor debyg â phosib i'r cynllun a gyhoeddwyd yn Lloegr.
Children

Arolwg newydd yn dangos bod Plant sydd mewn Gofal yng Nghymru yn hapus a sefydlog

Cafodd yr arolwg ei gynnal fel rhan o’r Rhaglen Bright Spots i helpu awdurdodau lleol, fel rhieni corfforaethol, i ddeall yn well beth sydd fwyaf pwysig i’r plant y maen nhw’n gofalu amdanynt. Mae hefyd o gymorth i ddod i wybod mwy am deimladau’r plant am y gofal y maent yn ei dderbyn.

Children

Safonau newydd i wella gwasanaethau nyrsys ysgol yn ysgolion arbennig Cymru

Prif nod y fframwaith newydd ar gyfer gwasanaeth nyrsio mewn ysgolion arbennig yw ymdrin â phlant mewn ysgolion arbennig mewn ffordd fwy cyson.

Boy

Wythnos Ddiogelu: Rhaid i ni weithredu NAWR i warchod plant ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin

Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl ledled Cymru i weithredu NAWR a gwneud mwy i sicrhau nad yw plant ac oedolion yn cael eu rhoi mewn perygl o wynebu camdriniaeth, esgeulustod neu gam-fanteisio.

NHS logo

Cymru i ddarparu gwasanaethau terfynu beichiogrwydd i fenywod o Ogledd Iwerddon

Er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth hon yn cael ei darparu'n effeithlon i fenywod o Ogledd Iwerddon a sicrhau bod gwasanaeth teg yn cael ei ddarparu ar gyfer menywod yng Nghymru, bydd canllawiau ar y ddarpariaeth o wasanaethau terfynu beichiogrwydd yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi ar wefan Galw Iechyd Cymru.

Huw Irranca-Davies

Gweinidog yn ymweld â Sir Benfro i weld buddsoddiadau Llywodraeth Cymru ar wait

Bu'r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies, ar ymweliad â Sir Benfro i weld sut mae cyllid Llywodraeth Cymru yn darparu gwasanaethau gofal di-dor sy'n gwella iechyd a llesiant pobl ledled y sir.

Vaughan Gething

Prosiect yng Ngwent yn cael £13.4m i ddatblygu modelau newydd o iechyd a gofal cymdeithasol

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi cyhoeddi £13.4m ar gyfer prosiect yng Ngwent i drawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu darparu.

Keyboard

£3m i wella mynediad at dechnoleg i staff y gwasanaeth iechyd a chleifion

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi ei fod yn rhoi £3m i wella mynediad at dechnoleg i staff y gwasanaeth iechyd a chleifion.

Building

£36 miliwn ar gyfer ailwampio Ysbyty’r Tywysog Siarl

Bydd y cyllid gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i barhau â’r gwaith o ailwampio llawr gwaelod yr ysbyty, a darparu prif gegin, ardal fwyta a fferyllfa newydd.

Girl

Prosiect yn y Gogledd i drawsnewid gofal i bobl ag anableddau dysgu

Mae prosiect yn y Gogledd yn mynd ati i ddatblygu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol di-dor i bobl ag anableddau dysgu. Dyma'r prosiect diweddaraf i gael cyllid oddi wrth y gronfa werth £100m o eiddo Llywodraeth Cymru, sy'n rhoi cyllid ar gyfer trawsnewid sut mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu darparu.

Penodi Cadeiryddion Annibynol ar gyfer adolygiadau Gofal Iechyd Parhaus GIG Cymru

Penodi Cadeiryddion Annibynol ar gyfer adolygiadau Gofal Iechyd Parhaus GIG Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i benodi 5 o Gadeiryddion i graffu’n allanol ar adolygiadau ôl-weithredol Gofal Iechyd Parhaus ar gyfer GIG Cymru. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau  18 Rhagfyr 2018.

Ymgyngoriadau

Ymgyngoriadau

Gweler yr ymgyngoriadau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol diweddaraf gan Lywodraeth Cymru.

Darllen mwy am hyn llyw.cymru/iechydagofalcymdeithasol

 
 

AMDANOM NI

Gwybodaeth berthnasol i'r rhai sy'n gweithio o fewn y sector iechyd a gwasanaethau cymdeithasol

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/iechydagofalcymdeithasol

Dilyn ar-lein:

@wgcs_health

@wgmin_csc

@CMOWales

@DHSSwales