Newyddlen Bwyd a Diod Cymru - Hydref 2018

Hydref 2018 • Rhifyn 0010

 
 

Newyddion

Cynhadledd Blas Cymru

Cynhadledd Blas Cymru
Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru - Nodyn gan y Cadeirydd

Mae’n anodd credu ein bod, gwta ddau fis yn ôl, ynghanol un o’r hafau mwyaf tanbaid a welodd y wlad erioed. Ond, yn ogystal â’r tymheredd chwilboeth, bydd haf 2018 hefyd yn cael ei gofio am nifer o ddigwyddiadau eithriadol yn y diwydiant. Yn fwyaf arbennig, Y Sioe Fawr, a oedd, fel arfer, yn benllanw calendr y flwyddyn.

Dyfodol Bwyd a Diod

Strategaeth a Chynllunio at y Dyfodol ar gyfer Bwyd a Diod yng Nghymru - Canlyniad ymarfer ymgysylltu cychwynnol

Mae'r ymarfer ymgysylltu cychwynnol gyda'n rhanddeiliaid yn dod i ben. Mae'r adroddiad llawn yn rhoi blas i chi o gryfderau, gwendidau, bygythiadau a chyfleoedd y diwydiant. Byddwn yn parhau i ddadansoddi ein canfyddiadau a mireinio'r themâu eang hyn wrth baratoi ein hymgynghoriad ffurfiol, a’i disgwylir i ddechrau yn y Flwyddyn Newydd. Diolch am eich cefnogaeth a chydweithrediad.

 

Cymraeg mewn Busnes

Cymraeg mewn Busnes

Eisiau cynyddu defnydd o’r Gymraeg o fewn eich busnes? Mae 12 Swyddog Cymraeg Byd Busnes ar gael i’ch cynorthwyo yn rhad ac am ddim.

Wrap Cymru

Adnoddau a chefnogaeth am ddim ar gyfer gwneuthurwyr bwyd a diod yng Nghymru

Gall gwastraffau a sgil-gynhyrchion bwyd a diod anochel fod yn gostus; fodd bynnag, mae gan WRAP Cymru gyfres o adnoddau am ddim a chefnogaeth unigol ar gael i gynorthwyo gwneuthurwyr i archwilio sut y gallant ddisodli’r gost hon a chynyddu eu refeniw drwy sefydlu gwerth – proses sy’n trawsnewid gwastraffau a sgil-gynhyrchion yn ddeunyddiau gwerthfawr.  Cysylltwch â WRAP Cymru ar addingvalue@wrap.org.uk neu 02920 100 100.

Digwyddiadau

Cofrestru Eich Diddordeb - Ffurflen Gais Cynhyrchwyr

Blas Cymru
Brexit ready

A yw eich busnes Bwyd a Diod yn barod ar gyfer Brexit?

Gyda Brexit yn agosáu a dyfalu cynyddol am natur y cytundeb terfynol (os o gwbl), mae'n bwysicach nag erioed i fod yn barod am bob posibilrwydd trwy sicrhau bod eich busnes bwyd a diod yn barod ar gyfer Brexit.

Clwb Allforio

Eich Gwahoddiad i Ddigwyddiad Clwb Allforio Bwyd a Diod

Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd digwyddiad nesaf y Clwb Allforio Bwyd a Diod ar gyfer 2018 yn digwydd ar ddydd Mercher 7 Tachwedd yn lleoliad cynadledda Porth Eirias ym Mae Colwyn rhwng 3 a 6yp.

Mumbai India

Digwyddiad Datblygu Masnach Mumbai, India

Hoffem eich gwahodd i gymryd rhan mewn ymweliad datblygu masnach bwyd a diod yn Mumbai, India ar ran Llywodraeth Cymru. 

Gulfood Dubai

Gulfood, Dubai 2019

Mae recriwtio ar y gweill erbyn hyn i arddangos gyda Llywodraeth Cymru o dan faner Cymru/Wales yn sioe Gulfood, Dubai 17 - 21 Chwefror 2019. Mae'r dyddiad cau ar gyfer derbyn eich ffurflen cais i arddangos wedi cael yw ymestyn tan ddydd Gwener 9fed Tachwedd 2018. 

IFE Llundain

Digwyddiad Bwyd a Diod Rhyngwladol (IFE) Excel, Llundain

Mae recriwtio ar y gweill erbyn hyn i arddangos gyda Llywodraeth Cymru o dan faner Cymru/Wales yn Nigwyddiad Bwyd a Diod Rhyngwladol (IFE) Excel, Llundain 17 - 20 Mawrth 2019. Nodwch y dyddiad cau ar gyfer derbyn eich ffurflen cais i arddangos yw'r 25 Tachwedd 2018. 

 

Calendr digwyddiadau

Calendr Digwyddiadau ar gyfer 2018 - 2019

A ydych wedi gweld ein calendr digwyddiadau masnach? Cyfleoedd i dyfu'ch busnes.

 
 
 

YNGLŶN Â’R CYLCHLYTHYR HWN

E-gylchlythyr cwarterol ar gyfer y diwdiant bwyd a diod gan Is-Adran Fwyd Llywodraeth Cymru. 

Newyddion, digwyddiadau a materion syín berthnasol iín diwydiant.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/bwydadiodcymru

Dilyn ar-lein: @BwydaDiodCymru