Datganiad
Ysgrifenedig Cynllun
Gweithredu Caffael
Y mis diwethaf, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid gwblhau'r Adolygiad o'r Gwasanaeth
Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru. Darllenwch fwy ar y camau nesaf yma.
|
|
|
Y newyddion diweddaraf ar Brexit
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cyfres o hysbysiadau technegol i ddarparu canllawiau caffael mewn perthynas â Brexitl.
Mae Busnes Cymru hefyd wedi lansio 'Porth Brexit', wedi'i gynllunio i helpu busnesau i baratoi ar gyfer newid. Darllenwch fwy yma
Procurex Cymru 2018
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru ar gyfer prif ddigwyddiad caffael y flwyddyn. Mae'r parthau hyfforddiant bellach wedi'u cyhoeddi, gan gynnwys parth Brexit. Am ragor o wybodaeth, ewch i'n gwefan.
Y wybodaeth ddiweddaraf am ESPD
Mae gwaith yn mynd rhagddo i fynd i'r afael ag adborth a dderbyniwyd ar y Ddogfen Gaffael Sengl Ewropeaidd (ESPD). Darllenwch fwy am y camau nesaf ar ein gwefan.
Modiwlau e-ddysgu newydd ar gyfer polisi
Mae tri modiwl e-ddysgu newydd ar wneud cynnig ar y cyd; y cod ymarfer; a buddiannau cymunedol; bellach ar gael. Darllenwch fwy yma.
Hysbysiad o ddyfarniad - cyflenwi a dosbarthu diodydd alcoholig
Mae'r fframwaith cyflenwi a dosbarthu diodydd alcoholig a diodydd cysylltiedig bellach yn fyw. Am ragor o wybodaeth, ewch i'n gwefan.
Y wybodaeth ddiweddaraf am adnoddau eGaffael
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am
adnoddau eGaffael; a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data mewn perthynas ag
adnoddau eGaffael, ewch i'n gwefan.
Edrychwch
ar ein calendr am rybudd ymlaen llaw o
ddigwyddiadau'r GCC, Gwerth Cymru, Llywodraeth Cymru a chydweithwyr caffael yng
Nghymru.
Cofiwch gadw golwg ar dudalennau’r GCC ar Twitter a LinkedIn, a
gwefan GwerthwchiGymru i gael cyhoeddiadau am
ddigwyddiadau’r GCC.
|
|
Digidol, Data a TGCh
Darllenwch ein newyddion
cryno am y categori i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol: meddalwedd rhaglenni Cymraeg sy'n cydymffurfio; cytundeb adnoddau digidol a TGCh ystwyth
(ADIRA); y Rheoliad Cyffredinol ar
Ddiogelu Data mewn perthynas â fframweithiau TGCh y GCC; cytundeb fframwaith gwasanaethau sicrhau gwybodaeth (IAS) y GCC; cytundeb fframwaith cyflenwi dyfeisiau amlswyddogaeth (MFD) y GCC a gwasanaethau cysylltiedig.
Cyswllt: NPSICTCategoryTeam@llyw.cymru
|
Fflyd a Thrafnidiaeth
Darllenwch y newyddion
cryno am y categori i gael rhagor o wybodaeth am ein fframwaith prynu, prydlesu a gwaredu cerbydau; fframwaith cardiau tanwydd; y fframwaith gwirio trwyddedau gyrwyr; a'r fframwaith tanwyddau hylif.
Cyswllt: NPSFleet@llyw.cymru
Bwyd a Diod
Darllenwch y newyddion cryno am y categori i gael y newyddion diweddaraf am ein fframweithiau;
ein cyfarfod grŵp ffocws categori (CFG) nesaf; eitemau tafladwy ym maes arlwyo; llenwadau brechdanau, brechdanau wedi'u
paratoi a phrydau ar blât wedi'u rhewi; Brexit; monitro diogelwch y gadwyn gyflenwi bwyd; a strwythur newydd y tîm.
Cyswllt: NPSFood@llyw.cymru
|
|
|
Gwasanaethau
Proffesiynol
Darllenwch y newyddion cryno am y
categori i gael y wybodaeth ar gyfer ail-dendro
fframwaith gwasanaethau cyfreithiol gan gyfreithwyr a'r cyfle i gymryd rhan yn
ein fframwaith ymgynghoriaeth eiddo.
Cyswllt: NPSProfessionalServices@llyw.cymru
|