Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Hydref 2018

Hydref 2018 029

 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol

Dragon

Ysgrifenyddion Iechyd Cymru a’r Alban yn mynegi pryderon difrifol am y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Mae’r ddau Ysgrifennydd Iechyd yn credu y byddai cynnwys aelodau o’r teulu yn y cynllun yn gallu bod yn fodd i wneud pethau’n llai ansicr i staff o’r UE yn ystod y cyfnod ansefydlog hwn.

Vaughan Gething

Cyhoeddi cyllid i helpu'r gwasanaeth iechyd i baratoi ar gyfer Brexit

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi cyhoeddi £210,000 o gyllid i helpu'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru i baratoi ar gyfer Brexit.

NHS logo

£20 miliwn i gefnogi GIG Cymru a’i bartneriaid y gaeaf hwn

Bydd yr arian hwn yn helpu pobl i gael gofal yn nes at eu cartrefi. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau bod digon o gapasiti ar gael mewn ysbytai a bod pobl yn gallu gadael yr ysbyty a mynd adref pan fyddant yn barod.

Radiographer

Vaughan Gething yn cyhoeddi dros £11m ar gyfer offer sganio newydd

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid i dalu am sganwyr MRI newydd yn Ysbyty Singleton, Abertawe; Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan; ac Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.

Vaughan Gething

Cymorth i brosiect Cwm Tawe gan y cynllun £100m i drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol

Daw’r cyllid o’r Gronfa Trawsnewid, sy’n werth £100m, a hynny er mwyn hybu’r camau gweithredu allweddol a nodwyd yn Cymru Iachach - cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.

Money

Cadarnhau £180m i sicrhau system iechyd a gofal cymdeithasol ddi-dor yng Nghymru

Fel rhan o’r broses o drawsnewid y system iechyd a gofal cymdeithasol, mae Llywodraeth Cymru am i bawb allu cael gafael ar un pecyn integredig o ofal iechyd a gofal cymdeithasol pan fo’u hangen arnynt.

man

“Mae teimlo’n unig ac yn ynysig yn broblem gynyddol i iechyd y cyhoedd: rhaid taclo hyn gyda’n gilydd” - Huw Irranca Davies

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi rhai meysydd lle gallai camau gweithredu wneud cyfraniad sylweddol tuag at leihau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol.

Vaughan Gething

Cyhoeddi cam cyntaf y gwaith gwerth £100m i drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol

Datblygwyd y prosiect Fi, Fy Nghartref, Fy Nghymuned gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro, ac mae'n integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn cynnig gofal yn nes at y cartref.

Dragon

£5 miliwn i helpu i leddfu'r pwysau ar ofal critigol y gaeaf hwn

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi cyhoeddi y bydd £5 miliwn yn cael ei wario yn ystod y flwyddyn ariannol hon i helpu i leddfu'r pwysau ar unedau gofal critigol ar draws Cymru y gaeaf hwn.

People

Cadeirydd Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru yn rhoi'r gorau i'w swydd

Mae Mutale Merrill, OBE, Cadeirydd Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn rhoi'r gorau i'w swydd er mwyn rhoi amser i'w holynydd reoli'r cyfnod pontio i gorff Llais y Dinesydd newydd ar gyfer Cymru. 

GP

“Rhaid i ni adeiladu ar lwyddiant Hyfforddi, Gweithio, Byw” – Vaughan Gething

Mae cam meddygol yr ymgyrch, sydd bellach yn ei thrydedd flwyddyn yn hyrwyddo Cymru yn rhyngwladol fel lle gwych i feddygon, gan gynnwys meddygon teulu, hyfforddi, gweithio a byw.

Pobl

Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu

Mae’r Gweinidog Plant, Huw Irranca-Davies, yn annog mwy o bobl Cymru i ystyried mabwysiadu plant.

Defibrillator

Achub Bywydau Cymru i greu cadwyn oroesi er mwyn achub bywydau ledled Cymru

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi y bydd cynllun newydd yn cael ei ddatblygu i annog mwy o bobl ledled Cymru i ddysgu a defnyddio sgiliau achub bywyd.

People

Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn: “Mae gan bobl hŷn hawliau dynol – rhaid eu parchu” – Huw Irranca-Davies

Mae’r Gweinidog wedi ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi lle canolog i hawliau dynol pobl hŷn yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru ac i sicrhau mai Cymru yw’r lle gorau yn y byd i heneiddio ynddo.

 

Hands

Cyhoeddi cynlluniau peilot ar gyfer ffyrdd newydd o fynd i'r afael â materion iechyd meddwl

Wedi cyhoeddi cynlluniau peilot newydd i leihau dibyniaeth ar feddyginiaeth presgripsiwn drwy bresgripsiynu ymyriadau i wella iechyd meddwl.

Alcohol

Llywodraeth Cymru yn cynnig isafbris uned o 50c ar gyfer alcohol

Ar hyn o bryd bwriedir i'r drefn newydd ddod i rym yn haf 2019.

People

Ymgyngoriadau

Gweler yr ymgyngoriadau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol diweddaraf gan Lywodraeth Cymru.

Click to edit this heading

Darllen mwy am hyn llyw.cymru/iechydagofalcymdeithasol

 

 
 

AMDANOM NI

Gwybodaeth berthnasol i'r rhai sy'n gweithio o fewn y sector iechyd a gwasanaethau cymdeithasol

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/iechydagofalcymdeithasol

Dilyn ar-lein:

@wgcs_health

@wgmin_csc

@CMOWales

@DHSSwales