Cylchlythyr 1 - Bwletin Gwaith Ieuenctid - Rhifyn yr Hydref

 

20 Medi - Rhifyn 1 - Hydref 2018

 
 

Diben y bwletin hwn yw rhoi'r newyddion diweddaraf ynghylch datblygiadau dros y flwyddyn ddiwethaf ers y bwletin diwethaf.  O hyn allan, byddwn yn cynhyrchu bwletin chwarterol ac os oes gennych sylwadau neu  awgrymiadau, e-bostiwch: youthwork@llyw.cymru 

Cynhadledd Gwaith Ieuenctid 2018

Cynhaliwyd y Gynhadledd Gwaith Ieuenctid ar 21 Mawrth  yng Ngwesty'r Angel, Caerdydd.  Bu Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yno yn cyflwyno'i hun i'r sector ac yn sôn am ei huchelgeisiau dros y flwyddyn sydd i ddod. 

Roedd yr uchelgais hyn yn cynnwys sefydlu Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro i helpu i wireddu agenda heriol ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru; datblygu Strategaeth tymor hir newydd sy'n ymwneud â Gwaith Ieuenctid, a fyddai yn cael ei hategu gan gynllun gweithredu clir; a chyhoeddi'r adolygiadau sydd wedi'u cynnal dros y 18 mis diwethaf, sy'n cynnwys Adolygiad o Ehangu Hawliau a'r Adolygiad o'r Strategaeth ar gyfer Gwaith Ieuenctid 

Gosododd hyn y trywydd ar gyfer gweddill y diwrnod a chafwyd cyfle yn y gynhadledd genedlaethol hon i arddangos arferion gorau, codi ymwybyddiaeth a hybu effaith gwaith ieuenctid o ansawdd ym mhob cwr o Gymru.  

Roedd y diwrnod yn llawn o gyflwyniadau gan siaradwyr allweddol fel Graeme Tiffany, Delyth Lewis, Jess Achilleos a Steve Drowley. Roedd trafodaethau da ynghylch nodweddion cynnig gwaith ieuenctid da, iechyd meddwl a'r ‘Rhaglen Law yn Llaw ar gyfer Plant’, yn ogystal â chyflwyniadau gan Senedd Ieuenctid Cymru ac eraill.   

Cynhaliwyd gweithdai hefyd yn ystod sesiynau'r bore a'r prynhawn lle y cafodd y rhai a fu yno'r cyfle i glywed am y gwaith sy’n parhau i fynd rhagddo ar hyn o bryd ledled y sector Gwaith Ieuenctid. Roedd hefyd yn gyfle i glywed gan bobl ifanc yn uniongyrchol fel rhan o'r panel pobl ifanc. Roedd y gweithdai yn rhan hanfodol o'r gwaith o ddatblygu'r strategaeth newydd.  Mae'r holl adborth a gafwyd yn cael ei hystyried yn fanwl.

Wythnos Gwaith Ieuenctid 23 - 30 Mehefin 2018

Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yn ddigwyddiad blynyddol sy'n rhoi'r cyfle i sefydliadau gwaith ieuenctid a phobl ifanc ddathlu effaith gwaith ieuenctid a'r hyn y mae'n ei gyflawni. 

Y flwyddyn yma, ar 26 Mehefin, mi cynhaliwyd digwyddiad arddangos yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd. Rhoddodd hyn gyfle i sefydliadau  Gwaith Ieuenctid o'r sector statudol a gwirfoddol hyrwyddo ac arddangos y gwaith da maent yn ei wneud gyda phobl ifanc Cymru.  

Bu Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yno, ac roedd yn falch o gael y cyfle i gyfarfod â pobl ifanc, gweithwyr ieuenctid a sefydliadau gwaith ieuenctid. Mae nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau wedi cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru, a bydd yr wythnos yn dirwyn i ben gyda'r uchafbwynt, sef y Noson Wobrwyo Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid.

Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2018

YWEA 1
Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2018

Cynhaliwyd Noson Wobrwyo Rhagoriaeth mewn Gwaith Ieuenctid 2018  yn Stadiwm Principality, Caerdydd ar 29 Mehefin. Roedd yn gyfle i gydnabod a dathlu'r gwaith ieuenctid eithriadol sy'n digwydd ledled Cymru.

Cynhaliwyd y noson yng nghwmni'r newyddiadurwraig Catrin Heledd, sy'n gweithio i BBC Cymru, a chafwyd adloniant gwych gan y Chopra Heaton-Duo   (Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru) a'r Brodyr Magee. Roedd y ddwy act yn rhan hanfodol o'r noson, ac yn ein paratoi am noson lawn mwynhad. 

Diolch i bawb a helpodd i sicrhau bod y noson yn llwyddiant ysgubol!

Mae'r rhestr enillwyr a'r rhestr o'r rhai a ddaeth yn agos i’r brig i'w gweld yma. Gellir gweld fideo pawb a oedd yn y rownd derfynol ar YouTube hefyd. 

Cyn bo hir, bydd y gwaith o gynllunio Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2019 yn mynd rhagddo!

Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro

Keith Towler  

Yn ystod y Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid ym Mehefin, cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes bod Keith Towler wedi cael ei benodi yn gadeirydd ar y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro. 

Croesawodd y gynulleidfa'r newyddion hwn. Yn dilyn hynny, cyhoeddwyd Datganiad Ysgrifenedig ar 2 Gorffennaf ac mae posibl ei weld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru. 

Yn y Gynhadledd Gwaith Ieuenctid, cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ei chynlluniau am Fwrdd newydd, yn bersonol a thrwy Ddatganiad Ysgrifenedig, sef: ‘Gwaith Ieuenctid yng Nghymru - Symud Ymlaen Gyda’n Gilydd.’ Gellir gweld y Datganiad hwnnw yma. Bydd y Bwrdd, sy'n cynnwys cynrychiolwyr arbenigol o faes gwaith ieuenctid, yn ein helpu i aros yn driw i'n gweledigaeth wrth i ni fwrw ati i ddatblygu a chyflwyno ein Strategaeth Gwaith Ieuenctid.

 

Daeth y broses ymgeisio ar gyfer yr aelodau Bwrdd sy'n weddill i ben ddydd Llun 3 Medi. Rydym yn anelu at gael yr aelodau yn eu lle erbyn yr hydref. Rydym yn edrych ymlaen at gael penodi unigolion medrus sy'n llawn gwybodaeth i arwain a rhoi cyfeiriad i waith ieuenctid yng Nghymru.

Grŵp Cyfeirio Gwaith Ieuenctid

Mae'r Grŵp Cyfeirio Gwaith Ieuenctid yn gweithredu ers tua phedair blynedd. Yn ystod y pedair blynedd hynny mae wedi bod yn gweithredu'r Strategaeth Gwaith Ieuenctid gyfredol a rhoi arf gwerthfawr i gynnal trafodaethau allweddol ynghylch gwaith ieuenctid yng Nghymru, a rhoi cyngor a chyfarwyddyd i Weinidogion a phrif randdeiliaid.

Mae Aelodau'r grŵp hwn wedi bod yn gyfranwyr pwysig i ymchwiliad  y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i waith ieuenctid a'r gwaith dilynol mewn perthynas â'r ymgynghoriad hwn. 

Yn ystod y misoedd diwethaf, maent wedi bod yn cydweithio â Llywodraeth Cymru i edrych ar yr sylfaen dystiolaeth, a'r camau nesaf o ran datblygu'r strategaeth newydd. 

Wrth weithio'n agos gyda Keith Towler, Cadeirydd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid dros dro, mae’r grwp bellach wedi ailystyried ei rôl a cylch gwaith ac wedi cytuno i fod yn grŵp o randdeiliaid. Mi fyddant yn darparu cefnogaeth Gorchwyl a Gorffen   i waith y Bwrdd. Bydd aelodaeth y grŵp hwn hefyd yn cael ei newid er mwyn sicrhau cynrychiolaeth briodol o'r sector.

Dymunwn ddiolch i bob aelod o'r grŵp, yn aelodau blaenorol a phresennol am eu brwdfrydedd, eu cymorth a'u gwaith parhaus er mwyn symud yr agenda hon ymlaen. 

Strategaeth Gwaith Ieuenctid

Ar hyn o bryd, mae gwaith yn cael ei wneud i ddatblygu Strategaeth Gwaith Ieuenctid newydd, fel y cyhoeddwyd yn natganiad y Gweinidog ar 21 Mawrth. Bydd gan aelodau o'r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro  gyfrifoldeb am sicrhau bod y strategaeth yn cael ei datblygu drwy gydweithio â'r sector, gan ddefnyddio arbenigedd a gwybodaeth pan fo angen hynny. 

 

Bydd ganddynt rôl allweddol o ran edrych ar strwythurau atebolrwydd, ac o ran datblygu argymhellion i Weinidogion ynghylch y camau nesaf sydd fwyaf priodol. 

 

Mae'r egwyddor o gael plant a phobl ifanc yn rhan o lunio'r dull gweithredu newydd yn ganolog i ddatblygiad gwaith ieuenctid yng Nghymru. 

 

Un o flaenoriaethau Keith Towler fydd trin a thrafod â phobl ifanc o'r dechrau. Bydd yn rhoi cyfle iddynt ddisgrifio'r hyn sy'n werthfawr iddyn nhw a'r hyn y maent yn disgwyl ei gael o waith ieuenctid yng Nghymru. Bydd hyn yn cael ei wneud trwy arolwg ieuenctid drwy Gymru gyfan ynghylch sefyllfa gwaith ieuenctid yng Nghymru. Bydd manylion pellach ar hyn yn cael eu hanfon cyn bo hir.

 

Corfflu Cydsefyll Ewropeaidd

Menter gan yr Undeb Ewropeaidd yw'r Corfflu Cydsefyll Ewropeaidd, sy'n ariannu cyfleoedd i bobl ifanc gael gwirfoddoli a gweithio mewn prosiectau er budd cymunedau a phobl ar draws Ewrop yn eu gwledydd eu hunain neu dramor.

Gall sefydliadau o bob maint yn y DU , o gwmnïau rhyngwladol i gyrff anllywodraethol bach sy'n gweithio mewn cymunedau lleol, sy'n cefnogi gweithredu cymdeithasol ac yn hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, gyflwyno cais. 16 Hydref 2018 yw'r dyddiad cau cyntaf ar gyfer gwneud cais.

Gall y cyllid ehangu capasiti sefydliad a'r hyn y gall sefydliad ei roi, gan roi profiad ystyrlon i bobl ifanc rhagweithiol ar yr un pryd. O dan faner y Corfflu Cydsefyll Ewropeaidd, gall pobl o 18 oed i 30 oed gael cyfle i fod yn rhan o brosiectau sy'n gwnned gwahaniaeth wrth ddysgu sgiliau newydd a chael peth cymorth ariannol.

Am ysbrydoliaeth, darllenwch am brofiad a newidiodd fywyd Fiona Brown: Ymunodd â phrosiect yng Ngwlad Pwyl, a phartner y prosiect hwnnw yn y DU oedd Academi Iaith Cymru. Bu'n gwirfoddoli mewn ysgol mewn tref fach am dri mis.

Mae gan y fenter gyllideb arfaethedig o 375.6 miliwn ewro tan 2020. Bydd gwefan bwrpasol gyda gwybodaeth i sefydliadau'r DU ar gael o fis Medi ymlaen yn cael ei lansio yn fuan. Yn y cyfamser, gallwch danysgrifio i gylchlythyr Corfflu Cydsefyll Ewropeaidd y DU er mwyn cael y newyddion diweddaraf.

Yn y Deyrnas Unedig, gweithredir y Corfflu Cydsefyll Ewropeaidd gan Asiantaeth Genedlaethol Erasmus+, partneriaeth rhwng y British Council ac Ecorys UK. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at dîm y Corfflu Cydsefyll Ewropeaidd: eusolidaritycorps@ecorys.com

Yr Asiantaeth Gwybodaeth a Chwnsela Ieuenctid Ewropeaidd (ERYICA)

Mae Cangen Ymgysylltu ag Ieuenctid Llywodraeth Cymru  yn aelod o ERYICA ar ran y sector ieuenctid cyfan yng Nghymru.  Mae bod yn aelod o ERYICA yn golygu bod gennych fynediad at amrywiaeth o gyfleoedd proffesiynol a chyfleoedd rhwydweithio. Mae aelodaeth ERYICA agor y drws i 36 o rwydweithiau cenedlaethol a rhanbarthol o ddarparwyr gwasanaethau ieuenctid mewn 27 o wledydd.

Darllenwch am fanteision bod yn rhan o’r rhwydwaith Ewropeaidd yma 

Cyngor gan ERYICA ar sut i gymryd rhan

Am y newyddion diweddaraf, ewch i'n gwefan www.eryica.org 

Cael gafael ar ein cylchlythyr

Anfonwch e-bost at secretariat@eryica.org i ymuno â’r rhestr bostio

Dilynwch ni ar Facebook, Instagram a Twitter

Siarter Gwybodaeth Ieuenctid Ewrop

Gallwch weld y newyddion diweddaraf am Siarter Gwybodaeth Ieuenctid Ewrop ar wefan ERYICA

Nod Ansawdd - newyddion diweddaraf Haf 2018

Mae nifer y sefydliadau gwaith ieuenctid sy'n cael Nod Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yn parhau i godi. Roedd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi mwynhau'r gwaith o gyflwyno Gwobrau Nod Ansawdd yn y Noson Wobrwyo Rhagoriaeth mewn Gwaith Ieuenctid. Cyflwynodd ddwy wobr safon aur newydd i Ieuenctid Sir Benfro a Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid Rhondda Cynon Taf. 

Quality Mark 1
Cyflwyniad Nod Ansawdd Safon Aur
Quality Mark 2
Cyflwyniad Nod Ansawdd Safon Aur

Bellach mae 15 Gwobr Efydd wedi eu dyfarnu, sy'n cynnwys Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, a gafodd y wobr dros yr haf, mae pedair Gwobr Arian wedi eu dyfarnu a thair Gwobr Aur. 

Gwnaeth Cyngor Ieuenctid Caerdydd argraff arbennig ar aseswyr fel enghraifft o arfer gorau gan greu llawer o gyfleoedd i bobl ifanc ddylanwadu ar benderfyniadau lefel uchel yn y ddinas.

Asesiad Nod Ansawdd - Dyddiadau cau

Bellach, mae dau gyfle i gyflwyno hunanasesiad ar gyfer y Nod Ansawdd eleni. Gwahoddir ceisiadau ar gyfer:

1.            Dydd Mawrth 25 Medi

2.            Dydd Iau 8 Tachwedd

Cysylltwch ag Atkin Associates drwy e-bostio qualitymark@atkinassociates.co.uk os ydych wedi cychwyn ar y gwaith o hunanasesu eich nod ansawdd. Byddant yn  gallu trafod y ffordd orau o gynnal eich hunanasesiad, sut i gyflwyno tystiolaeth ac amserlen realistig i'w cyflwyno.

Mae gwybodaeth ynghylch aseswyr sydd newydd gael eu recriwtio i'w canfod yma

Children and Young People Now

Roedd Atkin Associates yn falch o gael ei gynnwys yn rhifyn mis Gorffennaf o Children and Young People Now, fel rhan o adroddiad arbennig ar Effaith Gwaith Ieuenctid.  Tynnodd yr erthygl sylw at y modd y  mae Llywodraeth Cymru  yn arwain mewn perthynas â’r Nod Ansawdd. Mae'n son am sut y mae wedi datblygu model asesu gan unigolion eraill o fewn y system, sy'n torri ar draws y sector gwirfoddol a'r sector statudol ac yn sicrhau bod gweithwyr proffesiynol uchel eu parch a phobl ifanc yn allweddol i'r broses.  

Mae gwaith gwerthuso yn dangos mai canlyniad gweithio tuag at gael Nod Ansawdd yw bod arferion rheoli a'r gwaith ieuenctid wyneb yn wyneb yn gwella.  Mae wedi hybu morâl ac wedi gwella'r modd y mae pobl ifanc cymryd rhan mewn llawer o sefydliadau.  Mae modd gweld yr erthygl yma, er y bydd rhaid i chi danysgrifio i ddarllen yr erthygl yn llawn.

Bwletin nesaf

Bydd ein cylchlythyr nesaf yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr.

Ebostiwch unrhyw gyfraniadau ar gyfer y rhifyn nesaf erbyn dydd Gwener 16 Tachwedd.

Ydych chi wedi tanysgrifio ar gyfer Bwletin Gwaith Ieuenctid? 
Cofrestrwch yn gyflym yma

 
 
 

AMDANOM NI

 

E-gylchlythyr chwarterol sy’n darparu newyddion diweddaraf, diweddariadau a datblygiadau mewn Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

 

Rhagor o wybodaeth ar y we:

beta.llyw.cymru/gwaith-ieuenctid-ac-ymgysylltu

 

Cysylltwch â ni:

 

gwaithieuenctid@llyw.cymru

 

Dilyn ar-lein: