eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru: 23 Awst 2018 Rhifyn Arbennig (TGAU)

23 Awst 2018 • Rhifyn Arbennig (TGAU)

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

education where now 2018  250 x 170

Canlyniadau arholiadau 2018 – “Ble Nesaf?”

Helpwch pobl ifanc i gymryd y cam nesaf ar ôl canlyniadau arholiadau TGAU a Safon Uwch. Mae’r cyfnod sy’n dilyn canlyniadau arholiadau  yn gyfnod tyngedfennol i bobl ifanc. Mae’n bwysig cynnal trafodaethau gyda nhw a'u rhieni/gofalwyr i’w helpu i wneud y dewis cywir, beth bynnag fo’r canlyniadau. Am wybodaeth ar yr opsiynau sydd ar gael, rannwch ddolenni i wefannau 'Ble Nesaf'.

Meic130x130

Meic yn gallu rhoi cymorth i ddisgyblion sy'n poeni am eu canlyniadau arholiad

Gall ddisgyblion sy'n poeni am eu canlyniadau Safon Uwch, TGAU ac arholiadau eraill gallu ddod o hyd i gymorth emosiynol drwy ffonio Meic.

QualsLogo130130

Trosolwg Cymwysterau Cymru 

Mae Cymwysterau Cymru wedi cynhyrchu trosolwg o'r canlyniadau TGAU eleni yng Nghymru. Cliciwch yma i ddarllen hyn, ynghyd â throsolwg o ganlyniadau Safon Uwch yr wythnos diwethaf.

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Cyngor doeth am Gyllid Myfyrwyr Cymru

Ystyried pa fenthyciadau a grantiau y gallech eu cael gan Gyllid Myfyrwyr Cymru? Rydym wedi creu fideo i roi esboniad cyflym a rhwydd i chi. Ewch i'n tudalen You Tube

Prentisiaethau

Mae pobl ifanc ar draws y wlad yn meddwl am eu dyfodol a’r opsiynau sydd ar gael iddynt o ran eu gyrfaoedd. Mae prentisiaethau yn fwyfwy poblogaidd fel llwybr at swydd dda.  Maent yn ffordd o gael hyfforddiant o safon a chaffael sgiliau penodol-i-swydd, gan weithio tuag at gymwysterau cenedlaethol ac ennill cyflog ar yr un pryd. Dysgwch fwy am brentisiaethau: ewch i gyrfacymru.com a chwiliwch am ‘prentisiaethau’.

Skills Cymru

Yn rhad ac am ddim i’w mynychu, SkillsCymru yw digwyddiadau gyrfaoedd, swyddi, sgiliau a phrentisiaethau mwyaf Cymru. Yn digwydd yn Llandudno a Chaerdydd, mae’r digwyddiadau hynod ryngweithiol hyn yn cynnig y cyfle i bobl ifanc ddarganfod eu potensial.

Ewch i’r wefan i weld beth sydd ymlaen. Neu cadwch eich lle chi nawr drwy ein ffurflen ar-lein.

Y Sioe Sgiliau 2018

Cyfle i grwpiau o fyfyrwyr gymryd rhan yn rhaglen gwirfoddoli #SkillsShow18. 

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

gov.wales/educationmissionwales

Blog Cwricwlwm i Gymru

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

HWB

Dilynwch ni ar Facebook:

Addysg Cymru

 

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews