|
|
Kirsty Williams wedi nodi'r hyn a gyflawnwyd drwy genhadaeth genedlaethol Cymru ar gyfer addysg a beth mae'r newidiadau hyn yn ei olygu i ddisgyblion, athrawon a rhieni.
|
|
|
Diweddariadau blog newydd - Sut y mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn ymgorffori cymhwysedd digidol ac yn datblygu ei weledigaeth ddigidol
|
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £3.5 miliwn mewn rhaglen fydd yn cael ei chynnal gan brifysgolion Cymru i ysgogi partneriaethau cenedlaethol a hybu Cymru fel lle i ddod i astudio ar ôl Brexit.
Beth yr ydym yn bwriadu ei wneud mewn ymateb i adroddiad Estyn ar sut mae ysgolion yn datblygu eu cymhwysedd digidol Gallwch ddarllen adroddiad llawn Estyn ar ei gwefan
Mae canlyniadau Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol 2018 ar gael nawr i ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd eu lawrlwytho, yn ogystal â ‘canllawiau ar gyfer ymarferwyr’, allai hwn fod yn ddefnyddiol i’w defnyddio wrth drafod canlyniadau’r profion gyda rhieni/gofalwyr. Mae’r dogfennau a fydd ar gael ar ddiwedd yr wythnos hon i esbonio canlyniadau’r Profion Cenedlaethol, gan gynnwys y tablau “Cyfrifo Sgoriau Dysgwyr”, templed Taflen Canlyniadau’r Disgyblion a chyfrifiannell oedran, ar wefan Dysgu Cymru.
Rydyn ni wedi cynhyrchu ffilm fer wedi’i hanimeiddio fel canllaw i rieni/gofalwyr i esbonio adroddiadau’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol. Bydd dolen i’r ffilm yn cael ei chynnwys ar daflen canlyniadau’r disgyblion ond mae’n bosib hefyd y byddwch am ei rhoi ar wefan eich ysgol.
Dyddiadau Profion Cenedlaethol 2019
Ysgolion cynradd: Dydd Mawrth 7 Mai – Dydd Mawrth 14 Mai Ysgolion uwchradd: Dydd Llun 29 Ebrill – Dydd Mawrth 14 Mai
Ymunodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams â phlant yn Llyfrgell Merthyr Tudful heddiw i lansio Sialens Ddarllen yr Haf eleni.
Tim Peake yn ymuno â Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i gyhoeddi £7.2m i annog merched i astudio pynciau STEM
Cynhadledd Dyfodol Ymchwil Addysg yng Nghymru, Caerdydd, Tachwedd 14, 2018
Bydd y digwyddiad hwn yn darparu llwyfan cyffrous ar gyfer y gymuned addysg i drafod y weledigaeth ar gyfer addysgu ar sail ymchwil a thystiolaeth yng Nghymru. Trefnwyd gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Ymchwil Addysgol Prydain; mwy o fanylion i ddilyn yn fuan.
Mae Gwobrau Dewi Sant yn cydnabod llwyddiannau eithriadol pobl wahanol o Gymru a thu hwnt.
Ydych chi’n adnabod person ifanc sy’n ysbrydoli neu grŵp o bobl ifanc talentog dan 19? Enwebwch nawr!
Rhestr Anrhydeddau’r Penblwydd 2019 - Enwebiadau Ar Agor!
Mae’r Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwahodd enwebiadau ar gyfer rhestr Anrhydeddau’r Penblwydd 2019. Os ydych yn gwybod am unrhyw berson sy’n gweithio yn y sector Addysg a Sgiliau sydd wedi dangos llwyddiant neu wasanaeth eithriadol, yna anfonwch eich enwebiad erbyn 30 Gorffennaf 2018. Er mwyn cael gwybodaeth bellach a ffurflenni cysylltwch â David.Gardiner@gov.wales
Mae rhai newidiadau mawr wedi'u gwneud i Hwb yn ddiweddar. Mae'r daflen hon yn crynhoi'r newidiadau a gellir ei ddosbarthu i aelodau staff yr ysgol.
Mae j2e yn lansio her arbennig ym maes mathemateg i gynnal sgiliau mathemateg meddwl dysgwyr yn ystod gwyliau’r haf.
Cyfieithiad Cymraeg o lyfr sy'n cynnig popeth sydd ei angen arnoch ar gyfer astudio Tystysgrif Lefel 1 a Diploma Lefel 2 yn y Gwasanaeth Bwyd a Diod proffesiynol.
Nod yr adnodd hwn yw addysgu cysyniadau allweddol Economeg TAG UG/U i ddysgwyr trwy gyfrwng creu diagramau.
Mae'n adnodd ar-lein a fydd yn datblygu gallu myfyrwyr i greu diagramau i gwrdd â gofynion manyleb CBAC Safon Uwch.
Mae'r adnodd hwn yn canolbwyntio ar yr ymarferion ymarferol craidd a ymddengys ym manyleb newydd CBAC ar gyfer UG a Safon Uwch, Cemeg. Bydd Bioleg a Ffiseg yn dilyn yn fuan.
Yr wythnos hon, rydym yn dangos i chi sut y gallwch ddefnyddio'ch cyfrif EBSCO am ddim i ddod o hyd i ymchwil i gefnogi eich datblygiad proffesiynol trwy'ch Pasbort Dysgu Proffesiynol CGA. Byddwn yn dangos i chi yr offer sydd ar gael yn EBSCO i ddod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch chi
|